Mesur i atal troseddau ar y we
- Cyhoeddwyd

Ymgais i atal troseddau ar y we
Bydd mesur i fynd i`r afael â throseddau a chamdriniaeth ar y we yn cael ei gyflwyno gan aelod seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts ddydd Mercher.
Fe fyddai`r mesur yn gwneud hi`n anghyfreithlon i gyhoeddi cynnwys sy`n fygythiol, yn gwahaniaethu neu sy`n peri pryder.
Y bwriad yw sicrhau bod cwmniau sy`n darparu gwasanaethau ar y we a`r gwefanau cymdeithasol yn gyfrifol am ddileu cynnwys allai achosi loes.
Mae`n rhaid cael cefnogaeth Llywodraeth Prydain ar gyfer y mesur, ond mae eisoes wedi cael cefnogaeth trawsbleidiol.
Y bwriad yw cywain cyfreithiau ar droseddau digidol gan ddiweddaru cyfreithiau ar fonitro a chynnwys annymunol ar y we.
"Mae`r cyfreithiau cyfredol yn fratiog ac anaddas" medd Ms Saville Roberts.
Eisoes mae arweinwyr busnes wedi dweud mai troseddau ar y we yw un o`r bygythiadau mwya i wynebu cwmnïau, wedi`r ymosodiad ar TalkTalk yn 2015.