Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo adeilad uchaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
twrFfynhonnell y llun, Rio/Watkin Jones Group
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd artist o'r adeilad newydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer adeiladu adeilad uchaf Cymru.

Bydd y tŵr 42 llawr, i'r de o siop John Lewis yng nghanol y brifddinas ar Stryd Customhouse, yn gartref i 450 o fyfyrwyr ac yn ddatblygiad "eiconig", meddai'r datblygwyr, Watkin Jones.

Mae'r cynigion ar gyfer yr adeilad 132m hefyd yn cynnwys caffi neu siop ar y llawr gwaelod gyda lolfa arbennig ar y top fydd ar gael i'w llogi.

Tŵr Meridian Abertawe, sy'n 107m o uchder, yw'r talaf yng Nghymru ar hyn o bryd.

Bydd y gwaith adeiladu wedi ei orffen erbyn diwedd haf 2018, meddai Watkin Jones.

Fe gymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd y cais mewn cyfarfod brynhawn dydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Rio/Watkin Jones Group
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o Sgwar Callaghan