'Ti'n gallu bod reit vulnerable yn siarad Cymraeg'

Ers mynd ar y cwrs mae Esther Cadogan wedi dechrau siarad Cymraeg gyda'i phlant
- Cyhoeddwyd
Doedd Esther Cadogan heb siarad Cymraeg ers degawdau ond mae hi nawr yn ei defnyddio bob dydd ar ôl bod ar gwrs newydd sy'n ceisio adfer hyder yn yr iaith.
Er ei bod hi'n deall Cymraeg ac yn siarad yn rhugl pan oedd hi yn yr ysgol gynradd doedd Esther, sy'n 43, heb siarad yr iaith ers degawdau.
Fe gafodd ei magu yn Llangefni, Ynys Môn. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond roedd ei bywyd bob dydd gyda'i ffrindiau ysgol a'i haddysg gynradd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond fe newidiodd pethau wrth dyfu fyny.
Meddai: "Yn yr ysgol uwchradd roedda ni'n cael ein rhoi mewn dosbarthiadau Saesneg neu Gymraeg. Roedd pum dosbarth Cymraeg a dau ddosbarth Saesneg a ro'n i yn yr un Saesneg". Teimlodd Esther ar wahân i ffrindiau oedd yn siarad Cymraeg.
"Wnaeth bob dim newid i Saesneg."
'Deall Cymraeg ond dim hyder i'w siarad'
Yn raddol fe ledaenodd y bwlch. Gadawodd yr ardal i fynd i brifysgol Keele ac erbyn symud yn ôl i Langefni i fagu plant doedd hi'n siarad dim Cymraeg.
Ond yn ddiweddar, aeth ar gwrs Cymraeg newydd ar ôl gweld hysbyseb ar Facebook.
"Doedd o ddim byd i neud efo darllen a sgwennu - jest relaxio a siarad a role-play," meddai.
"Do'n i ddim yn siŵr i ddechrau ond neshi go with it achos roedd pawb yn yr un sefyllfa.
"Mwy na dim roedd o i neud efo hyder. Achos cyn mynd o'n i'n gallu deall Cymraeg, o'n i'n deall bob dim mewn sgwrs ond methu siarad yn ôl. Neu mond efo plant rili ifanc neu rili hen - faswn i'n siarad efo nhw yn Gymraeg.
"Y peth mwya' difyr am y cwrs oedd bod pawb efo stori debyg - bod un peth bach wedi cnocio hyder nhw, rhywbeth wnaeth rhywun ddweud rhywbryd ond mae'n gwneud i chdi deimlo'n stiwpid.
"Wnaeth y cwrs ddatgloi rhywbeth. A 'nath o helpu fi gofio geiriau hefyd a bob tro ro'n i'n mynd roedd yr hyder yn gwella."
Seicoleg newid ymddygiad
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol oedd yn rhedeg y cwrs peilot yn gynharach eleni.
Er bod codi hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn rhan o'u cyrsiau defnyddio Cymraeg yn y gweithle ers sawl blwyddyn, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gynnig y cyrsiau mewn sefyllfa gymunedol.
Mae'r cwrs yn cynnwys seicoleg newid ymddygiad ac yn rhoi cyd-destun ac ymwybyddiaeth iaith.
Aeth 60 ar y cyrsiau peilot ym Môn a Chonwy, oedd yn cael eu harwain gan Nia Parry, a'r bwriad rŵan yw ymestyn y cynllun dros y misoedd nesaf.
'Dim cyfle yma i siarad Cymraeg'
Aeth Ann Chapman i'r sesiynau yng Nghonwy. Mae'n dweud mai prin ydi'r cyfleoedd i gael sgwrs Gymraeg yn ardal Llandudno, lle mae hi'n byw.
Mae hi'n rhedeg siop briodasol yn y dref a dim ond yn cael cyfle i siarad Cymraeg gyda rhai cwsmeriaid.
"Does dim Cymraeg yma felly i fi roedd y cwrs yn ffantastig - wnaeth o godi hyder fi achos ro'n i'n cael dwy awr bob wythnos i jest sgwrsio," meddai.
"Roedd Nia mor gefnogol efo pawb a wnaeth hi roi lot o gyngor am sut i helpu ein hunain."

Ann Chapman (chwith) a'i chwaer Rosie Hughes, sy'n cyd-redeg busnes priodasol yn Llandudno
Mae'n dweud ei bod wedi dod i sylweddoli nad oes rhaid i bob gair fod yn Gymraeg mewn sgwrs ac mai dyna yw'r realiti i nifer o siaradwyr iaith gyntaf. Wrth i'r wythnosau fynd heibio ers gorffen y cwrs mae hi'n gweld ei hyder yn pylu.
"Os dwi'n stressed neu'n rili prysur weithiau dwi'n dweud 'na, dwi methu siarad Cymraeg'," meddai.
"Ac wedyn weithiau os ydi'r cwsmeriaid yn siarad efo'i gilydd dwi'n clywed nhw ac maen nhw'n defnyddio geiriau Saesneg hefyd fel fitting, neu seamstress ac wedyn dwi'n meddwl 'pam neshi ddim siarad Cymraeg a dweud y gair Saesneg'."
I Esther, mae ei pherthynas gyda'i hiaith wedi newid yn llwyr.
Mae hi bellach yn siarad Cymraeg bob dydd - gyda'i phlant, yn ei busnes, a gyda rhieni plant eraill roedd hi'n arfer siarad Saesneg gyda nhw.
A'r ddealltwriaeth seicolegol o ddefnyddio iaith sydd wedi bod yn help iddi hi, meddai, oherwydd nid diffyg geirfa a gramadeg ydi'r rhwystr i nifer o bobl.

Mae Esther yn rhedeg busnes ffysiotherapi ac yn dweud bod nifer o gwsmeriaid Cymraeg yn gwerthfawrogi gallu siarad gyda hi yn eu mamiaith
"Dwi'n life and soul yn Saesneg, ond yn Gymraeg doedd gen i ddim y geiriau i ddeud be' o'n i isio ac felly yn ddistaw," meddai.
"Dwi'n cofio dweud wrth y tiwtor ar ôl rhai wythnos 'dyma'r tro cynta' i fi fod yn ffyni yn Gymraeg'.
"Ti'n gallu bod reit vulnerable i roi dy hun allan yna yn siarad Cymraeg. Ond dwi rŵan yn siarad mewn llefydd ac efo pobl faswn i byth wedi neud o'r blaen."
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae'r ymateb i'r cyrsiau Codi Hyder a Defnyddio yn ardaloedd Conwy a Môn wedi bod yn gadarnhaol dros ben.
"Mae'r gwaith yma yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i wneud â gweithluoedd, i groesawu pobl yn ôl at y Gymraeg, a chefnogi unigolion sydd wedi colli hyder i ddefnyddio eu Cymraeg.
"Edrychwn ymlaen at ymestyn y gwaith yn gymunedol, ac mewn gweithluoedd, er mwyn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gynyddu defnydd o'r Gymraeg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022