Aelod o Wylwyr y Glannau Cricieth yn 'teimlo fel Laura eto nid jest Mam'

Laura Lloyd BatterseaFfynhonnell y llun, Darlun/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Laura Lloyd Battersea

  • Cyhoeddwyd

Pan adawodd Laura Lloyd Battersea ei gwaith yn mordwyo llongau y Llynges Fasnachol o amgylch y byd i fod yn fam lawn amser, roedd hi'n teimlo ei bod wedi colli rhan ohoni hi ei hun.

Ond ar ôl dechrau gwirfoddoli gyda Gwylwyr y Glannau Cricieth dair blynedd yn ôl, fe ddechreuodd Laura "deimlo fel Laura eto".

Eglurai: "Pan ti'n neidio o 'neud y passage plan o Japan i Milford Haven i fod yn fam llawn amser i ddau o hogiau bach, wel dydi o ddim llawer o sgwrs nachdi felly mae o wedi bod yn godsend bo' fi'n cael mynd allan efo'r coastguard a chael bod yn rhan o dîm eto."

I'r ddynes 38 oed o Lanystumdwy sydd bellach yn byw yng Nghricieth, tîm Gwylwyr y Glannau Cricieth yw ei "hail deulu". "Mae o jest yn briliant y ffordd maen nhw'n annog chdi, yn pwsio chdi i progressio," meddai.

Laura yw un o arwyr y gyfres SOS: Extreme Rescues sydd ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer ar hyn o bryd.

Gwneud profion ar fad achub yn 2010Ffynhonnell y llun, Laura Lloyd Battersea
Disgrifiad o’r llun,

Gwneud profion ar fad achub yn 2010

O werthu hufen iâ i fordwyo llongau

Tra bydd Laura adref yn magu ei meibion Macsen (10 oed) a Celt (7 oed) â'i gŵr Gareth i ffwrdd yn gweithio ar y môr gyda'r Llynges Fasnachol, mae siawns go dda y bydd hi'n cael ei gofyn i wirfoddoli ar alwad Gwylwyr y Glannau.

Mewn un rhifyn o'r gyfres SOS: Extreme Rescues sy'n dilyn gwaith y timau achub yn Eryri, mae Laura i'w gweld yn cynorthwyo Gail ar Draeth y Graig Ddu ger Porthmadog.

Roedd Gail wedi baglu dros un o'i chŵn gan ddadleoli ei ffêr ac angen rheoli ei phoen cyn y gallai Laura a'i thîm allu ei symud i fan diogel, â'r llanw ar y ffordd i mewn.

Gwylwyr y GlannauFfynhonnell y llun, Darlun/BBC

Ar ôl bod o'r alwad o'r fath yn achub bywydau, bydd Laura'n dychwelyd adref at ei phlant sy'n cael eu gwarchod gan eu Nain, gwneud swper iddyn nhw a'u rhoi yn eu gwlâu.

Mae'n ddiwrnod sy'n swnio'n llawn straen, ond i Laura mae datrys problemau dan bwysau amser yn ail natur iddi ers iddi adael ei gwaith yn gwerthu hufen iâ yn siop enwog Cadwaladers yng Nghricieth i hyfforddi fel swyddog mordwyo llongau.

Eglurai: "Wnes i 'neud Lefel A yn chweched dosbarth yn Pwllheli a mynd i weithio yn Cadwaladers am sbel achos o'n i'm yn siŵr iawn be' i 'neud efo fi fy hun.

"Doedd uni ddim i fi felly welish i erthygl yn y papur newydd a neshi joinio prentisiaeth gan Shell i fynd i'r Merchant Navy a hyfforddi yn y coleg morwrol yn Southampton."

Mesur onglau i fordwyo'r llong yn ddiogel gyda sextantFfynhonnell y llun, Laura Lloyd Battersea
Disgrifiad o’r llun,

Mesur onglau i fordwyo'r llong yn ddiogel gyda sextant

"Fi oedd yn trefnu pa ffordd oeddan ni'n mynd, fi oedd yn gweithio allan y speeds, fi oedd yn deud 'reit da ni'n gorfod stopio fan'ma am fuel' – yn llythrennol roedd bob dim yn disgyn arna fi cyn sign off y capten.

"Dwi wedi navigatio llongau o Awstralia, Japan, Qatar a thrwy piracy areas i'r de o'r Aifft. Dwi wedi bod yr unig hogan allan o 34 o ddynion am bedwar mis."

Er ei bod yn berson cryf, trallod personol wnaeth ei harwain i roi gorau i'w swydd cyn ymuno â thîm Gwylwyr y Glannau.

Eglurai: "Wnes i golli hogan bach yn stillborn pan o'n i wedi mynd 36 wythnos felly es i ddim yn ôl i gwaith wedyn achos 'mod i'n ffeindio fo reit anodd, ond wedyn ges i Macsen ac yna Celt a dwi mor ffodus ein bod ni wedi eu cael nhw."

Dair blynedd yn ôl, derbyniodd Laura gnoc ar y drws gan swyddog gorsaf Gwylwyr y Glannau Cricieth a wyddai am ei chefndir ar y môr yn gofyn a fyddai'n ystyried ymuno â'r tîm.

Mae'r tîm yn gwasanaethu ardal eang o Bermo i Abersoch ac yn derbyn galwadau gan amlaf i Gricieth a Phorthmadog. Gall y galwadau fod ar lwybr yr arfordir, ar lan y môr, harbwr neu ochr clogwyn.

"Dwi on call 24 awr y dydd. Fedri di fod yn ista yn byta cinio dydd Sul neu ar day out efo teulu pan ti'n cael galwad."

Y llong gyntaf i Laura fordwyo sef Timor Sea o Awstralia i Japan yn 2009Ffynhonnell y llun, Laura Lloyd Battersea
Disgrifiad o’r llun,

Y llong gyntaf i Laura ei fordwyo sef Timor Sea o Awstralia i Japan yn 2009

Gwylwyr y Glannau Cricieth

Mae Laura'n credu bod y sgiliau wnaeth hi feithrin ar y môr yn benthyg eu hunain yn dda i'w rôl gwirfoddoli gyda Gwylwyr y Glannau, ond mae sgiliau pobl yn hanfodol.

"Does yna ddim byd yn phasio fi. Yn aml iawn efo'r coastguard ti'n trio cysuro aelod o'r teulu tra'n trio achub aelod arall. Mae angen gallu cyfathrebu efo gwahanol bobl, o bob oed ac o bob cefndir a iaith."

Laura yn ymddangos ar y gyfres SOS Extreme RescuesFfynhonnell y llun, Darlun/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Laura yn ymddangos ar y gyfres SOS Extreme Rescues

Yn ôl Laura mae cefnogaeth ei theulu a'i chymdogion yn allweddol er mwyn sicrhau ei bod yn gallu ymuno ar alwad, a does yna neb yn fwy balch ohoni na'i meibion.

"Mae Macsen a Celt reit prowd. Maen nhw wedi gwylio yr episode ohono fi ar BBC iPlayer a mi oeddan nhw wrth eu boddau'n gallu gweld first hand be' dwi'n 'neud.

"Er pan mae 'na alwad dair gwaith mewn diwrnod, maen nhw'n deud 'o na Mam, dim eto!', ond maen nhw'n dalld."

Laura, ei gŵr Gareth a'i meibion Macesn a Celt ar wyliau yn TenerifeFfynhonnell y llun, Laura Lloyd Battersea
Disgrifiad o’r llun,

Laura, ei gŵr Gareth a'i meibion, Macsen a Celt, ar wyliau yn Tenerife

Gobaith Laura yw bydd y gyfres yn agor llygaid pobl i'r peryglon sydd yna wrth fwynhau mannau arfordirol yn Eryri. Ei chyngor i wylwyr adref yw:

"Mae damweiniau'n gallu digwydd ar hap, ond meddyliwch a chynlluniwch pan 'dach chi'n mynd am dro; oes ganddoch chi'r esgidiau cywir, beth ydy amseroedd y llanw a be' ydach chi isio ei gyflawni y diwrnod hwnnw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig