Y ddwy o Gaerdydd sy'n beirniadu cwrw cartref
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Mae Bethan Millett o Gaerdydd wrth ei bodd â chwrw. Mae hi wedi dechrau bragdy meicro yn ei thŷ, ac hefyd yn beirniadu cwrw cartref yn genedlaethol.
"'Nes i a fy ngwraig, Kristy, y cymhwyster beirniadu yn 2017 oherwydd ein bod ni eisiau dysgu mwy am gwrw. Roedden ni'n meddwl fyddai hynny'n helpu i wella ein bragu ein hunain."
Ar ôl symud o Lundain i Gaerdydd yn 2013 roedd y ddwy wedi penderfynu trio gwneud eu cwrw eu hunain.
"Roedd gen i ddiddordeb mewn cwrw cyn hynny," meddai Bethan, "ond roedd gennyn ni nawr yr arian a'r lle i wneud a chael y cit, ac ymuno â chlwb bragu er mwyn dod i 'nabod pobl."
Felly o fewn dim, roedd ganddi hobi newydd, a chymuned o bobl oedd yn rhannu'r un diddordeb.

Mae Bethan (dde) a'i gwraig, Kristy, yn mwynhau cwrw da!
"Mae bragu mor hawdd neu gymhleth â ti eisiau," meddai. "Mae rhai pobl yn prynu cit o gynhwysion, a rhai yn defnyddio grawn cyflawn.
"Mae rhai pobl yn creu eu ryseitiau eu hunain, gweld sut mae e'n troi mas, a gweithio mas beth i'w wneud yn wahanol y tro nesa'."
Ar ôl dipyn o arbrofi, a buddsoddi mewn offer newydd, dechreuodd Bethan a Kristy fragdy meicro, ond roedd yn rhaid ei gau i lawr yn ystod COVID.
"Roedden ni'n hoffi arbrofi gyda steiliau gwahanol, a hefyd er mwyn gwerthu llawer o gwrw, mae'n dda cael amrywiaeth; roedd wastad rhyw fath o gwrw golau, rhyw fath o stout, neu gwrw tymhorol.
"Mae'n reit drist. Cyn i ni gau, roedden ni'n gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau poteli ac ychydig o fariau a bwytai o gwmpas Caerdydd."

Cafodd COVID effaith ar y cystadlaethau a gwyliau cwrw hefyd, ond mae Bethan a Kristy'n ôl nawr yn beirniadu ac yn mwynhau.
Ond am beth mae'r beirniaid yn edrych wrth samplo cwrw mewn cystadleuaeth?
"Beth chi'n edrych amdano yw pa mor dda mae'n cwrdd â nodweddion y dylai'r steil yna ei gael," meddai Bethan.
"Oes yna wendidau? Ydi e'n edrych yn iawn? Ydi e'n gwynto'n iawn? Sut mae'n teimlo yn dy geg? Ydi e'n rhy chwerw? Ac hefyd, wyt ti'n ei hoffi? Faset ti'n talu amdano? Faset ti'n yfed peint cyfan ohono?
"Sgôr o 45-50 marc yw rhagorol, world class. 0-13 yw gwael; fel arfer mae rhywbeth yn bod neu mae infection ar y cwrw, sydd yn digwydd os oes problem gyda'r burum, neu dydi pobl ddim wedi golchi'r offer neu'r poteli ddigon da.
"Pan ti'n gwybod am beth ti'n edrych, mae'n dod yn haws bod yn wrthrychol, a dim jest os ti'n ei hoffi neu ddim. Dydi e ddim am pa mor flasus yw'r cwrw, mae e am y math o gwrw yw e."

Mae beirniadu cwrw pobl yn deg yn bwysig iawn i Bethan.
"Dwi'n ei gymryd wir o ddifri, oherwydd dwi'n teimlo fod person wedi treulio amser a gwario arian yn cystadlu, ac maen nhw'n haeddu dy adborth gonest.
"Felly dydw i ddim yn gwisgo persawr, neu yfed coffi yn y bore, neu'n cael cyri i ginio rhag ofn iddo amharu ar samplau'r prynhawn.
"Mae'r cystadleuwyr yn haeddu mod i'n ei gymryd ddigon o ddifri; dyna beth fydden i'n ei ddisgwyl.
"Mae clybiau bragu yn grêt i drio cwrw eich gilydd a rhoi barn, ond pa mor onest ydi'r adborth os wyt ti'n eistedd wrth ymyl rhywun? Mae'n anodd bod yn brutal gyda ffrindiau!"
Geirfa
cwrw / beer
bragdy meicro / micro brewery
beirniadu / to judge
cymhwyster / qualification
bragu / to brew
diddordeb / interest
cymuned / community
cymhleth / complicated
cynhwysion / ingredients
grawn cyflawn / whole grains
ryseitiau / recipes
arbrofi / to experiment
buddsoddi / to invest
gwerthu / to sell
amrywiaeth / variety
golau / light
tymhorol / seasonal
marchnadoedd / markets
effaith / effect
cystadlaethau / competitions
gwyliau / festivals
nodweddion / characteristics
gwendidau / flaws
gwynto / smell
chwerw / bitter
rhagorol / excellent
gwael / poor
burum / yeast
gwrthrychol / objective
blasus / tasty
yn deg / fairly
o ddifri' / seriously
haeddu / deserve
adborth / feedback
persawr / perfume
amharu / impair
cystadleuwyr / competitiors
barn / opinion
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2023