Heddlu'n ymchwilio i sylwadau 'sarhaus' am sgowtiaid ar-lein

Cafodd grŵp o bobl ifanc eu ffilmio yn gadael safle'r sgowtiaid yn Nhrecelyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i sylwadau "sarhaus" ar-lein tuag at blant oedd yn ymweld â gwersyll sgowtiaid yn y de.
Cafodd y plant eu ffilmio yn gadael y safle yn Sir Caerffili, ac roedd nifer o'r sylwadau yn seiliedig ar honiadau di-sail fod y gwersyll yn cael ei ddefnyddio i gartrefu mewnfudwyr.
Y gred yw bod y grŵp o bobl ifanc dan 18 oed wedi bod yn aros yn y CRAI Scout Activity Park yn Nhrecelyn fel rhan o ymweliad gafodd ei drefnu gan sefydliad elusennol.
Roedd y fideo, sydd bellach wedi ei ddileu, yn cynnwys "anwirionedd" ac iaith "anaddas a sarhaus", yn ôl Heddlu Gwent.
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Dywedodd y cynghorydd lleol, Adrian Hussey nad oedd wedi gweld y neges ar y cyfryngau cymdeithasol, ond ei fod ar ddeall bod rhywun yn awgrymu fod "mewnfudwyr anghyfreithlon yn cael lloches gan y sgowtiaid".
Yn ôl y Prif Uwch-arolygydd, Jason White: "Roedd y grŵp oedd yn y fideo yn ymweld â'r gwersyll poblogaidd o ran arall o'r wlad, ac roedd nifer ohonynt yn blant.
"Nid yw'r safle yn cael ei ddefnyddio fel lloches barhaol i unrhyw un.
"Mae'n cael ei ddefnyddio gan rai o'n swyddogion i hyfforddi cŵn heddlu pan yn wag, a dyw ein swyddogion ddim yn gwarchod y safle."

Dywedodd Scouts Cymru mewn datganiad: "Mae'r CRAI Scout Activity Park yn safle gwersylla croesawgar a chynhwysol, ac yn ganolfan gweithgareddau yng nghanol cymoedd y de sy'n cynnig nifer o gyfleoedd i bobl ifanc a grwpiau cymunedol.
"Rydyn ni'n ymwybodol o ddigwyddiad hiliol yn targedu pobl dan 18 oed a oedd yn gadael ar ôl ymweld â'n canolfan gweithgareddau."
Ychwanegodd y corff eu bod yn gweithio yn agos gyda'r heddlu "i fynd i'r afael â'r sefyllfa".
"Rydym wedi ymroi i sicrhau diogelwch a lles pawb ar y safle, a byddwn yn parhau i weithredu yn gadarn mewn ymateb i unrhyw ymddygiad sy'n bygwth hynny."
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod am atgoffa pobl "i feddwl dwywaith am yr hyn maen nhw'n ei ddarllen ar-lein ac i edrych am ffynonellau y mae modd ymddiried ynddyn nhw o fewn ein cymunedau".