Celt yn dathlu 40 mlynedd ers y gig cyntaf

- Cyhoeddwyd
Mae ardal Bethesda'n adnabyddus fel cartref nifer o fandiau nodedig Cymraeg.
Mae gan y Super Furry Animals, Maffia Mr Huws a 9Bach gysylltiadau â Pesda, ond band arall adnabyddus o'r ardal, sy'n dathlu 40 mlwyddiant y mis hwn, yw Celt.
Daeth y criw o ffrindiau, dan arweiniad Barry 'Archie' Jones, at ei gilydd am y tro cyntaf yng nghanol yr 80au, gan chwarae ei gig cyntaf ar 7 Awst, 1985.
A hithau'n union 40 mlynedd ers y gig gyntaf, a Celt newydd chwarae ar lwyfan Maes yr Eisteddfod yn Wrecsam, maen nhw'n mynd o nerth i nerth ac yn dal mor boblogaidd ag erioed.
Barry 'Archie' Jones a Martin Beattie yn sôn am hanes Celt o'r dechrau hyd heddiw
"Fe ddechreuodd o drwy fi ac Alwyn ein drymar gwreiddiol ni yn cymharu be' oedden ni'n licio gwrando arno - bandiau roc trwm ar y pryd.
"Gan fy mod i'n chwarae gitâr ar y pryd 'natho ni ddechrau band, 'nath Alwyn brynu drumsticks a waldio soffa ei fam nes bod llwch ym mhobman.
"Dyna fuon ni'n neud am ychydig o fisoedd ac yn raddol cymryd pethau ychydig mwy o ddifri a chael aelodau newydd."
Un o'r aelodau newydd hynny oedd Martin Beattie. Roedd Martin yn 'nabod Archie'n iawn, gan fod y ddau wedi tyfu i fyny yn byw drws nesaf ond un i'w gilydd yn blant.
Roedd Martin eisoes mewn band, Machlud. Ond fe ddigwyddodd y ddau fand daro i'w gilydd mewn gig mewn tafarn ym Methesda a Martin, oedd eisoes yn gwybod geiriau caneuon Celt, yn ymuno fel prif leisydd.
"Be' dwi'n gofio fwyaf ydi clywed ansawdd y caneuon, meddwl eu bod nhw'n catchy uffernol, o'n i'n gwbod y geiriau iddyn nhw i gyd achos o'n i'n gwrando ar y cassette yn gwaith.
"'Nes i ganu mewn un gig tafarn ym Methesda a chael gwahoddiad wedyn i ymuno," meddai Martin.
Diflannu ac @.Com
Erbyn diwedd y 1990au roedd Celt yn dechrau dod i amlygrwydd cenedlaethol.
Meddai Archie: "O ddechrau'r 90au roedd pethau'n dechrau prysuro'n raddol. Roedd 'na gyfresi teledu fel Fideo9 yn rhoi sylw i fandiau. Roedden ni'n mynd lawr i Gaerdydd i ffilmio'r rheiny a gwneud gigs mewn llefydd fel Clwb Ifor Bach tra oedden ni lawr yno.
"Ond fe wnaethon ni wedyn ddiflannu am ryw flwyddyn neu ddwy a sgwennu caneuon wnaeth wedyn ymddangos ar albym @.Com ac os oedd 'na drobwynt mae'n siwr 'mai hwnna oedd hi - roedd 'na lot o bethau'n digwydd bryd hynny."
Fe ryddhawyd albwm @.Com yn 1998 a oedd yn cynnwys sawl cân gofiadwy fel Dwi'n Amau Dim, Dros Foroedd Gwyllt, Streets of Bethesda a Rhwng Bethlehem a'r Groes.
Mae Martin yn sicr fod y llwyddiant yn bennaf yn deillio o ddawn Archie i allu sgwennu caneuon cofiadwy.
"Mae o i gyd lawr iddo fo oherwydd y caneuon mae o wedi ei sgwennu. I fi, fo ydi'r cyfansoddwr gorau yng Nghymru ac mae'n bleser gallu canu ei ganeuon o, a phan ti'n gweld y gynulleidfa yn canu'n ôl ata chdi, mae'n deimlad neis," meddai.

Llun o docyn gwreiddiol gig cyntaf Celt nôl ar 7 Awst, 1985.
"Mae 'na drobwynt arall wedi digwydd yn y pump i saith mlynedd ddiwethaf.
"Mae 'na gynulleidfa tipyn yn iau a newydd yn dod i'n gweld ni felly mae 'na egni newydd i'w weld yn y grŵp ar hyn o bryd," meddai Archie.
Celt oedd yn cloi nos Wener yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni ac mae Archie'n ystyried y gig yn un o'r goreuon tra bod Martin yn cofio'n ôl i'r flwyddyn 2000 a Thân y Ddraig oedd yn rhan o Wŷl y Faenol.
"Dwi'n cofio sefyll ar ochr y llwyfan yn Faenol yn gwylio Meic Stevens a throi at Archie a gofyn, 'ti meddwl y byddwn ni wrthi yn ein fifties'? a dyma ni," meddai Martin.

Alwyn ac Archie yn nyddiau cynnar Celt
Aeth yn ei flaen i sôn am ei hoff gân Celt. "O ran ymateb a'r buzz, mae'n rhaid i mi ddeud Bethlehem A'r Groes."
Roedd Archie'n rhyw led gytuno, ond fe gyfansoddwyd y gân oherwydd eu bod angen un gân arall ar gyfer albwm @.Com, ac roedd 'na deimlad hefyd bod angen cân fysa'n herio doniau llais Martin.
"Dyna pam mae'r darn operatig 'na yng nghanol Bethlehem A'r Groes, mae wir yn gwthio Martin. Roedd gynno ni gymdoges Eidalaidd a dyma fi'n gofyn iddi gyfieithu darn i ni er mwyn i Martin ganu."
Martin ac Archie yn trafod un o'u caneuon mwyaf poblogaidd 'Rhwng Bethlehem a'r Groes'.
O ran y dyfodol does gan y band ddim bwriad i ddiflannu eto am gyfnod.
"Mwy ohona fo i fi," meddai Martin.
Mae trefniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf eisoes ar droed ac Archie yn dweud fod hi'n gyfnod prysur iawn i'r band.
"Mae'r calendr yn dechrau llenwi'n barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"O fy rhan i, dal i gyfansoddi a dal i reidio'r awen 'ma ydi'r boi wan."
Felly mae'r neges yn glir i ffans Celt - mae'r band yn bwriadu cyfansoddi a pherfformio am flynyddoedd i ddod!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl