Teulu'n galw am reolau llymach i yrwyr hŷn wedi gwrthdrawiad Môn

Roedd Katherine a Stephen Burch yn dod o Alcester, Sir Warwick
- Cyhoeddwyd
Mae teulu cwpl fu farw ar ôl i yrrwr yn ei 80au golli rheolaeth o'i gerbyd wedi galw am "fesurau diogelwch a rheolau llymach" i yrwyr hŷn.
Bu farw Stephen a Katherine Burch, 65, ym Miwmares yn Awst 2024, pan wnaeth car a oedd yn cael ei yrru gan John Pickering, 81, eu taro.
Fe wnaeth Mr Pickering, a fu farw hefyd yn y digwyddiad, "wasgu ar y sbardun yn hytrach na'r brêc", gan achosi cyflymder ei gar i gynyddu o 25mya i 55mya yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad.
Daw'r alwad wrth i Lywodraeth y DU ystyried gwahardd gyrwyr dros 70 rhag gyrru os ydyn nhw'n methu prawf llygaid angenrheidiol.
'Codi cwestiynau poenus'
Fe wnaeth teulu Mr a Mrs Burch ddweud bod eu galar yn "enfawr", a bod yr amgylchiadau o amgylch eu marwolaethau yn "drasig a hynod boenus".
"Roedden nhw wedi eu dal a'u lladd mewn gwrthdrawiad oedd yn cynnwys cerbyd pŵer uchel awtomatig, a oedd yn cael ei yrru ar gyflymder mewn stryd 20mya," medden nhw.
"Mae'n codi cwestiynau poenus ond pwysig ynghylch diogelwch cerbydau pwerus ac awtomatig yn nwylo gyrwyr hŷn, a'r galw brys am reolau llymach a mesurau diogelwch er mwyn atal y fath drasiedi yn y dyfodol."
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Fe wnaeth teulu Mr Pickering ddiolch i'r rheiny a oedd wedi gweithio "gyflwyno esboniad o'r hyn oedd wedi digwydd y diwrnod hwnnw".
"Bydd yr atebion yma yn ein helpu i symud ymlaen yn ein galar ac yn gam bach ymlaen i'n teulu dderbyn y ddamwain drasig," medden nhw.
"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf a diffuant i'r teulu Burch, rydym wedi ein llorio gan eu colled, colled a fydd bob amser yn pwyso'n drwm arnom."
Fe wnaethon nhw ddisgrifio Mr Pickering, oedd o Fae Colwyn, fel "gŵr, tad, taid a hen daid, brawd ac ewythr cariadus" gan ddweud y bydd pawb "yn ei golli yn fawr".

Yr olygfa yn Stryd Alma, Biwmares yn dilyn y gwrthdrawiad ar 28 Awst y llynedd
Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU wrth y BBC eu bod yn cynllunio strategaeth diogelwch ffyrdd a fyddai'n golygu "cosbau llymach i'r rhai sy'n torri'r gyfraith, amddiffyn defnyddwyr ffyrdd ac adfer trefn i'n ffyrdd".
Gallai gofyniad sy'n cael ei baratoi gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Heidi Alexander wneud profion llygaid yn orfodol i bobl dros 70 oed pan fyddant yn adnewyddu eu trwydded yrru bob tair blynedd.
Mae'r DU yn un o ddim ond tair gwlad Ewropeaidd sy'n dibynnu ar hunan-adrodd am gyflyrau gweledol sy'n effeithio ar y gallu i yrru.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried profion meddygol posibl ar gyfer cyflyrau fel dementia, a rheolau llymach ar gyfer gyrru dan ddylanwad alcohol.