Deugain mlynedd ers gig elusennol Arian Byw! yn Steddfod Rhyl

- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 40 mlynedd ers i gyngerdd arbennig Arian Byw! gael ei gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl.
Nos Sul 11 Awst, daeth cannoedd ynghyd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod i wrando ar rai o enwau mwyaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg ac i godi arian tuag at achos y newyn yn Ethiopia.

Roedd y cwbl wedi dechrau ychydig fisoedd ynghynt gyda llwyddiant cân Band Aid ddiwedd 1984, Do They Know It's Christmas?.
Rhyddhaodd artistiaid o Gymru eu record eu hunain ar 1 Mawrth 1985 – yr anthemig Dwylo Dros y Môr gan Huw Chiswell.
"O'dd honna 'di gwerthu'n dda iawn; 'naethon ni werthu tua 15,000 yn yr wythnos gynta'," cofiodd Dafydd Roberts o'r grŵp Ar Log, un o'r rhai oedd yn gyfrifol am drefnu'r sengl.

Record Dwylo Dros y Môr
"O'dd o'n anhygoel ac yn hynny'n llwyddiant enfawr. Ac mi 'naethon ni hyd yn oed gyrraedd y siartiau Prydeinig achos y gwerthiant yn yr wythnos gynta' 'na - tua safle 40. Dwi'n cofio gwneud cyfweliad i Newsbeat ar Radio 1 amdani.
"Ac es i i weld Bob Geldof yng Nghaerdydd pan oedd y Boomtown Rats yn chwarae, jest er mwyn cael ei gefnogaeth o. Roedd 'na sawl gwlad wedi gwneud eu fersiynau eu hunain ar ôl yr un Saesneg."
"Achos fod Live Aid wedi bod yn y mis Gorffennaf – o’dd o’n gyfle hefyd yng Nghymru i wneud rhywbeth"
Dafydd Roberts yn hel atgofion am Dwylo Dros y Môr ac Arian Byw! ar BBC Radio Cymru
Wedi hynny, parhaodd y diddordeb a'r awydd am fwy o gyfleoedd i godi arian drwy gerddoriaeth, a cafodd cyngerdd Dwylo Dros y Môr ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant i gydfynd ag Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn y mis Mai.
Ac ym mis Awst – mis ar ôl cyngerdd anferth, Live Aid, a gafodd ei gynnal yn Llundain ac yn Philadelphia ac a gafodd ei wylio gan 1.9 biliwn o bobl mewn 150 o wledydd dros y byd – roedd cerddoriaeth yn seinio yng nghyngerdd Arian Byw! yn Y Rhyl, a hynny am bump awr a hanner yn ddi-stop.
Roedd amseru'r cyngerdd ychydig yn anarferol, cofiodd Dafydd Robert, rhwng dau o ddigwyddiadau mwy traddodiadol y Pafiliwn ar ddydd Sul olaf y Brifwyl; ar ôl yr Oedfa a chyn y Gymanfa.
Ond wnaeth hynny ddim lleihau ar yr hwyl.

Un o'r artistiaid a berfformiodd yn y gyngerdd oedd Neil Williams a oedd yno gyda Maffia Mr Huws:
"Roedd y gig yn loads o hwyl. O'dd y pafiliwn yn llawn dop, ac o'dd o jest fath â dathliad mawr o fiwsig a pobl yn mwynhau.
"Dwi'n cofio o'n i'n reit nerfus a reit gyffrous hefyd ar gyfer set Maffia. Ond unwaith o'dda ni 'mlaen, o'dd o'n grêt."
"'Nes i chwarae dryms i Manna ar noson y gig, oherwydd 'nath drymar nhw ddim troi fyny! O'n i erioed 'di chwara efo nhw o'r blaen. O'dd o bach o car crash, dwi'n meddwl ond o'dd o'n ocê - rock n roll!"
Ymhlith rhai o'r artistiaid a gymerodd ran oedd Geraint Løvgreen a'r Enw Da, Rhiannon Tomos, Bwchadanas a Geraint Jarman.

Y band Afro-jazz, Sankomota, o Lesotho
Ar y rhestr perfformwyr hefyd oedd band Afro-jazz o Lesotho, sef Sankomota, oedd yn "anhygoel," cofiodd Neil.
"O'dd y bandiau yma i gyd jest yn ymuno hefo'i gilydd yn yr hwyl, doedd dim teimlad o gystadlu, dim egos na dim byd. Pawb yn mwynhau!
"O'dd pawb jest mor gefnogol o achos Arian Byw, pawb yn tynnu yr un ffordd. Dyna be' ti'n cael efo rwbath fel 'na."

Roedd Dylan Jones yn fyfyriwr ar y pryd, ac yn cofio bod "dipyn o wmff" o gwmpas y Pafiliwn y prynhawn hwnnw:
"O'dd y lle yn llawn; o'dd hi'n noson reit dda, os dwi'n cofio'n iawn.
"Roedd cael gig yn y pafiliwn yn beth anghyffredin doedd – dwi'm yn siŵr os oedd o wedi digwydd o'r blaen. Doedd cael bandiau yn chwarae yn y pafiliwn yn rhywbeth fyddet ti wedi ei weld yn arferol. Mae'n debyg mai rhywbeth ar y cyrion oedd o mwy.
"A chael rhywbeth fasai rhai pobl yn ei ystyried ddim mor barchus, rhwng yr Oedfa a'r Gymanfa, ac ar ddydd Sul! 'Da ni'n eu derbyn nhw rŵan, ond ar yr adeg, 'sa hynny wedi bod mwy o beth."

Prin fod Pafiliwn yr Eisteddfod wedi gweld y fath beth â cherddoriaeth Brodyr y Ffin o'r blaen...
Roedd cyngerdd Arian Byw! yn cael ei ddarlledu ar S4C ac ar Radio Cymru, felly wrth i'r cerddoriaeth ddiddanu'r dyrfa, roedd yr arian yn llifo i'r coffrau elusennol wrth i'r gynulleidfa adra ffonio i addo arian i'r elusen Arian Byw.
Mae Dafydd Roberts yn cofio'i wylio ar y teledu:
"Pan oedden bron â chyrraedd £100,000, 'naethon ni fel criw Dwylo Dros y Môr benderfynu, beth am gyfrannu ein £25,000 ni i'r gronfa yna i'w gael dros y £100,000."
Y cyfanswm yn y diwedd oedd £210,000, a thri mis ar ôl y cyngerdd, dilynodd Hywel Gwynfryn a'i gamerâu teledu Osian Wyn Jones, trefnydd y cyngerdd, draw i Swdan gyda lorïau oedd yn llawn offer a bwyd, oedd wedi eu prynu gyda pheth o'r arian.
Roedd Osian wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel Trefnydd yr Eisteddfod yn y Gogledd ac wedi teithio i Affrica er mwyn gweld sut orau i helpu ffoaduriaid oedd yn dioddef oherwydd y newyn difrifol yn Ethiopia.

Trefnydd cyngerdd ac elusen Arian Byw!, Osian Wyn Jones, ar ei ffordd i Swdan gyda'r lorïau oedd wedi eu prynu gyda'r arian oedd wedi ei godi ar y noson
Dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae Dwylo Dros y Môr yn parhau yn un o'r recordiau Cymraeg mwyaf cofiadwy, gyda'r geiriau a'r ystyr wedi goroesi, a ffans yn dal i gofio am y gig yn Y Rhyl lle cafodd pawb ddod ynghyd at achos da.
Mae Neil – a oedd hefyd yn unawdydd ar sengl Dwylo Dros y Môr - yn cofio'r cyfnod yna yn annwyl, er ei bod hi'n anodd credu bod deugain mlynedd wedi pasio, meddai:
"Mewn ffyrdd ma'n teimlo fel canrifoedd yn ôl, ond mewn ffyrdd eraill mae'n teimlo fath â ddoe – mae'n rhyfedd iawn!

Neil 'Maffia' Williams - o'r cyngerdd Dwylo Dros y Môr yng Nghaerdydd, fis Mai 1985
"Wrth gwrs, ma'r holl stwff Live Aid 'ma wedi bod ar y teledu yn ddiweddar, dwi 'di bod yn gwatsiad rheini i gyd.
"Roedd hynny'n ddylanwad amlwg ar be' o'dda ni'n trio 'neud gyda Arian Byw!, wrth gwrs. O'dd o gyd yn teimlo'n rhan o'r un peth – ni'n uno i godi arian at achos mor bwysig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021