O Shanghai i Wrecsam: Cadair Steddfod 1933
Hanes Cadair Shanghai
- Cyhoeddwyd
Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 oedd Edgar Phillips (Trefin); cadair oedd yn arbennig iawn am iddi gael ei chreu yn Shanghai.
Cafodd ei rhoi gan Dr John Robert Jones, bargyfreithiwr ac eisteddfodwr brwd, a oedd yn wreiddiol o Lanuwchllyn ond oedd erbyn hynny yn byw yn Shanghai.
Treuliodd crefftwyr yn amddifaty Gatholig T'ou-se-we, tu allan i Shanghai, dros flwyddyn yn cerfio'r gadair gywrain, hardd, sydd â symbolau ac ysgrifen Cymreig a Chineaidd arni.
Mae'r hi bellach yn cael ei gwarchod yn Amgueddfa Sain Ffagan ar ôl i deulu Edgar Phillips ei chyflwyno i'r amgueddfa yn 1981.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2017