Jean Rhoades: Teithio dros 6,000 o filltiroedd i'w heisteddfod olaf?
Jean Rhoades: Teithio dros 6 mil o filltiroedd i'w heisteddfod olaf?
- Cyhoeddwyd
Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, fe ddaeth Jean Rhoades sy'n dod o Landderfel ger Y Bala'n wreiddiol, ond sy'n byw yn Albuquerque, New Mexico ers 1956 yn ychydig o 'seléb'.
Roedd Jean wedi teithio dros 6,000 o filltiroedd i'r maes ym Moduan ar ei phen ei hun yn 92 mlwydd oed, ac fe aeth y clip teledu ohoni hi a'r cyflwynydd Eleri Siôn yn feiral.
Bob yn ail blwyddyn, pan fydd yr eisteddfod yn y gogledd, bydd Jean yn dychwelyd i Gymru i weld ei theulu yn Y Bala ac i fynd i'r Eisteddfod. Ei threfn yw eistedd yn y pafiliwn drwy'r dydd er mwyn mwynhau'r cystadlu. Mae Jean yn aelod o'r orsedd am sefydlu cymdeithas Gymraeg yn Albuquerque.
Cyn iddi hedfan yn ôl i Albuquerque fis Awst 2023, fe aeth Cymru Fyw i weld Jean yng nghapel ei phlentyndod, sef Capel Tegid, Y Bala.
Pan ofynnodd Cymru Fyw iddi a oedd hi'n bwriadu dod i Eisteddfod Wrecsam mewn dwy flynedd, dywedodd: "Fydda i'n 94 erbyn hynny, hwyrach ddo'i i Wrecsam, gawn ni weld."
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a ddwy flynedd yn hŷn, mae Jean wedi cyrraedd maes Eisteddfod Wrecsam 2025 ar ôl gwneud y daith bell ar ei phen ei hun yn 94 mlwydd oed.
Gwyliwch Jean yn dweud beth mae hi'n edrych ymlaen ato dros y dyddiau nesaf.
Yn ôl Jean, "Wrecsam fydd ei heisteddfod olaf, ond gawn ni weld". Gyda'r holl deithio pwy all feio Jean, ond gobeithio wir y bydd Cymru Fyw'n cael sgwrs arall gyda hi ar y maes ymhen dwy flynedd arall.

Eleri Siôn yn cyfweld Jean Rhoades yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.