Trydedd ton wres 2025 i Gymru wrth i'r tymheredd godi dros 30C

Traeth Portcawl ar ddiwrnod braf a nifer o bobl yn eu dillad haf neu ddilland nofio yn gwneud y gorau o'r tywydd, ambell un yn paratoi i syrffio
Disgrifiad o’r llun,

Pobl ar y traeth ym Mhorthcawl ddydd Mawrth wrth i rannau o Gymru weld y tymheredd yn codi i'r 30au

  • Cyhoeddwyd

Mae tymereddau dros 30 gradd selsiws wedi eu cofnodi yng Nghymru wrth i rannau o'r wlad fynd trwy'r drydedd don wres eleni.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi awgrymu'r posibilrwydd taw dydd Mawrth fyddai'r diwrnod poethaf yng Nghymru hyd yn hyn eleni, gan ddarogan tymheredd o 33° yn Sir Fynwy.

Roedd y gwres ym Mharc Bute, Caerdydd ar un cyfnod yn 32.8⁰ - ychydig yn is na'r 33.1° a gafodd ei gofnodi yno ar 12 Gorffennaf, sef y tymheredd uchaf i gael ei gofnodi yng Nghymru hyd yn hyn eleni.

Roedd yr arbenigwyr hefyd wedi darogan tymheredd o 30° yng Nghhaerfyrddin, 29° yn Aberystwyth a 28° yn Y Drenewydd, Caernarfon a Wrecsam.

Mae disgwyl tymereddau mwy cymhedrol, er yn dal yn gynnes, erbyn dydd Iau, ond mae ton wres arall yn bosib i rannau o Gymru dros y penwythnos.

Bu'n rhaid gohirio digwyddiadau a chanslo gwasanaethau trafnidiaeth ym mis Gorffennaf oherwydd gwres llethol, ond tywydd "anarferol o wyntog" wnaeth achosi trafferthion yn y gogledd ddechrau Awst yn sgil Storm Floris.

Dywedodd y cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Sabrina Lee, yn gynharach ddydd Mawrth bod "cael tymheredd o 33° ym mis Awst yng Nghymru yn eitha' anarferol".

Mae cofnodion ers 1930 yn dangos i hynny ddiwydd ond yn ystod y blynyddoedd 1990, 1995, 2003, 2020 a 2022.

Daw'r gwres cyfredol, meddai, yn sgil pwysedd uchel sy'n tynnu aer poeth a llaith o'r cyfandir, gan achosi'r bedwaredd don wres eleni yn rhannau o Loegr ble mae rhybuddion tywydd oren a melyn mewn grym tan ddydd Mercher.

"Gyda newid hinsawdd, gallwn ni ddisgwyl hafau mwy poeth a sych, ac i donnau gwres ddigwydd yn amlach," ychwanegodd.

Atal da byw rhag gorboethi yn y Primin

Wrth i'r haul dywynnu ar ddiwrnod cyntaf Sioe Môn yn nghanol yr ynys ddydd Mawrth, roedd yn rhaid i berchnogion da byw gymryd camau i'w hatal rhag gorboethi.

Roedd hynny'n cynnwys gosod ffaniau mawr i chwythu gwynt oer tua'r gwartheg o'u blaenau ac o'r tu ôl.

Y ffermwraig Rhian Thomas, mewn crys du a gyda gwallt brown byr a sbectol haul ar ei phen, gydag un o'i gwartheg ucheldir mewn sied ar faes Sioe Môn. Mae cyfres o ffaniau ar y wal tu ôl iddyn nhw sy'n oeri'r tymheredd ar gyfer y da byw.
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Thomas gydag un o'i gwartheg ucheldir mewn sied ar faes Sioe Môn

Roedd Eilwyn Davies a Rhian Thomas, o Bencader yn Sir Gâr, yn y Primin gyda'u gwartheg ucheldir, Cerys, Indeg, Elen, Marina a Scott, oedd yn sefyll yn amyneddgar wrth i ymwelwyr eu hedmygu.

"Mae'n frîd sy'n adnabyddus am fod yn flewog," dywedodd Eilwyn, "felly ry'n ni'n cadw llygad manwl i'w cadw'n oer tra'n aros am y beirniaid."

Gerald Thomas, mewn crys-T glas, cap brown golau a sbectol haul tywyll yn gwenu tua'r camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "braf" cael bod allan yn yr haul, medd Gerald Thomas, sy'n byw ym Mhorthcawl, ond mae'n rhy boeth i'w gŵn

Roedd yna deimladau cymysg ynghylch y gwres ymysg pobl ym Mhorthcawl ddydd Mawrth, er "mor braf" yw gweld y dref "mor brysur", yn ôl Gerald Thomas

"Mae sawl tref bydde wrth eu boddau'n gweld gymaint â hyn o bobl [o gwmpas] yn gwario'u harian, felly ry'n ni'n lwcus.

"Mae'n braf cael mynd allan, Yn anffodus, gallen ni ddim dod â'r cŵn. Mae'n rhy boeth iddyn nhw."

Mae'r tywydd, fe ychwanegodd, "ym mynd mewn cylchoedd" ac yn "amhosib" i'w reoli.

Eileen a Tony Biggs ar stryd ym Mhorthcawl, y ddau â hetiau haul lliw golau. Mae hithau'n eistedd mewn cadair olwyn ag yntau'n penlinio wrth ei hochr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eileen a Tony Biggs yn osgoi mynd allan pan mae hi'n boeth fel arfer

Dywedodd Eileen a Tony Biggs, oedd yn ymweld â Phorthcawl o Crosskeys yn Sir Caerffili, bod y gwres yn gallu bod yn "heriol".

"Sa i'n licio hi'n rhy dwym," meddai Eileen. "Dydyn ni ddim yn mynd allan llawer yn y gwres fel arfer."

Ychwanegodd y ddau bod ymweliad dydd Mawrth yn eithriad gan eu bod yna gyda theulu sy'n ymweld â'r ardal.

Marta ac Ella Adams mewn hetiau a sbectolau haul ar y prom ym Mhorthcawl - dynes ifanc gwallt brown mewn fest lliw lelog a merch fach bedair oed gyda gwallt melyn mewn ffrog gwyn a streipiau glas tywyll
Disgrifiad o’r llun,

Marta Adams, gyda'i merch Ella - mae Marta'n poeni a fydd y gwres yn amhosib i'w fwynhau yn y dyfodol

Roedd Marta ac Ella Adams, sy'n bedair oed, hefyd yn ymweld â Phorthcawl o Gaerffili.

Dywed Marta bod angen "cymryd gofal ychwanegol" o blant bach pan fo'r tymheredd yn uchel.

"Mae gyda ni hetiau a phabell [a] digonedd o ddŵr," meddai, gan ddweud ei bod wedi sylwi bod hafau bellach yn boethach.

"Weithiau mae'n cyrraedd pwynt ble ry'ch chi wir ddim eisiau mynd allan.

"Rwy'n poeni sut fydd hi mewn 20 mlynedd ac a fydd hi'n bosib i ni fynd allan a mwynhau'r haul."

Mae'r RNLI yn rhybuddio pobl i gadw'n ddiogel wrth ymweld â'r arfordir yn y tywydd braf gan fod disgwyl sawl llanw uchel yr wythnos hon.

"Rydym yn atgoffa pobl i wirio amseroedd llanw a sicrhau modd o alw am help – fel ffôn â batri llawn," dywedodd llefarydd.

"Os oes bwriad i fynd i'r dŵr, byddwn ni wastad yn argymell dewis traeth gydag achubwyr bywyd a nofio rhwng y baneri coch a melyn."

Daw'r rhybudd wedi i wirfoddolwyr yr RNLI ym Mhorthcawl RNLI orfod achub dau lanc yn eu harddegau oedd yn gaeth ar graig wedi i'r llanw godi'n sydyn.

"Mae gyda ni un o amrediadau llanw mwyaf y byd ac mae'n hawdd cael eich dal, yn enwedig mewn ardal anghyfarwydd."

Fflamau a mwg ar hyd llwybr mewn ardal welltog blae mae'r tir yn amlwg yn sych grimpFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae criwiau tân yn dal yn ymateb i dân a ddechreuodd ar dir rhwng Y Fenni a Thredegar brynhawn Sadwrn

Yn y cyfamser, mae criwiau tân wedi parhau gyda'r ymateb i dân gwyllt a ddechreuodd brynhawn Sadwrn ar dir ger yr A465 rhwng Y Fenni a Thredegar.

Y gred, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yw bod y tân "wedi ei gynnau'n fwriadol".

"Mae'r tân yma'n dal i losgi ac mae'r amodau'n gymhleth a heriol i ein criwiau eu rheoli," dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth.

"Mae ein criwiau tân wedi gweithio'n ddiflino ers dydd Sadwrn ar dir heriol i warchod cartrefi, bywoliaethau a da byw."