Ateb y Galw: Mike Phillips

  • Cyhoeddwyd
mike

Y chwaraewr rygbi Mike Phillips sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan y cyflwynydd Matt Johnson.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Chwarae rygbi gyda fy mrodyr hŷn, Mark a Rob.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Demi Moore.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Galle ni fod yma drwy'r nos... wir, mae gormod ohonyn nhw i mi enwi un.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n meddwl yn ystod yr anthem pan wnes i ennill fy 50fed cap dros Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r dagrau yn ystod yr anthem fe ddathlodd Mike ei 50fed cap drwy sgorio yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pigo fy nrhwyn - dwi'n trio stopio!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Hendy-gwyn. Hoffi gweld ffrindiau a theulu yno a mynd i'r clwb rygbi yno neu i'r clwb criced.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson allan yn Monaco. O'n i mas 'na gyda Jamie Roberts, a wnaethon orffen y noson mewn parti gyda Tywysog Monaco - arbennig iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Mike dair Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru yn 2008, 2012 a 2013

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Golygus, doniol a chilled.

Beth yw dy hoff lyfr?

'The Wolf of Wall Street' gan Jordan Belfort.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Crys gwyn Armani.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Y James Bond diweddara', 'Spectre'.

Disgrifiad o’r llun,

Mike gyda James Bond ei hun, Daniel Craig

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Colin Farrell.

Dy hoff albwm?

Rhywbeth gan The Cranberries.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Y prif gwrs ddelfrydol fyddai Cinio Nadolig Mam, gyda crymbyl afal yn bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Dan Carter, fel y byswn i'n gallu chwarae rygbi gyda Mike Phillips.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Sarra Elgan

Disgrifiad o’r llun,

Mike yn cael ei daclo tra'n chwarae i Racing 92, gyda Dan Carter yn y cefndir yn cysgodi