'Y rhodd orau erioed'
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n Ddiwrnod yr Aren, dolen allanol ar 10 Mawrth 2016 - ymgyrch fyd eang i godi ymwybyddiaeth o glefyd yr arennau ac egluro pa mor bwysig yw ein harennau i'n iechyd.
Dau sy'n gwybod hynny'n iawn yw'r cyflwynydd teledu Leni Hatcher a chyflwynydd BBC Radio Cymru, Tommo, gan fod y ddau wedi cael trawsblaniad aren.
Roedden nhw ymysg y rhai wnaeth groesawu'r drefn newydd o roi organau a ddaeth i rym yng Nghymru fis Rhagfyr 2015. Mae'r gyfraith newydd yn golygu fod yn rhaid i bobl ddatgan os nad ydyn nhw'n dymuno i'w horganau gael eu defnyddio ar ôl iddyn nhw farw.
Bu Leni a Tommo yn siarad gyda BBC Cymru Fyw:

Leni Hatcher

Gobeithio, syched a chysgu....
Dyna oedd fy mywyd i pan oeddwn ni'n aros i gael trawsblaniad. Gobeithio fyddai'r alwad hwnnw'n dod cyn iddi fynd yn rhy hwyr, syched ofnadwy am unrhywbeth i'w yfed - achos mod i ond yn cael yfed 300ml y dydd (llai na chan o ddiod) a chysgu drwy'r amser achos doedd gen i ddim egni o gwbl.
Cefais y diagnosis pan oeddwn ni'n naw oed, a chael gwybod "rhyw ddydd yn y dyfodol pell, fyddi di angen aren newydd". Pan o'n i'n 15 oed, 'naeth yr arennau fethu'n gyfan gwbl.
Roedd hi'n beth anodd iawn i ddygymod â, i feddwl ei bod hi'n amser mor bwysig ym mywyd fy ffrindiau: pawb yn arbrofi gydag alcohol am y tro cyntaf, rhai'n mynd i bartïon, cyfnod boom y ffonau symudol a'r hair straighteners. Yn anffodus dim fel 'na aeth hi i fi.
Tra oedd fy ffrindiau i allan yn joio, roeddwn i'n gaeth i beiriant dialysis am naw awr y nosweth. Hyd yn oed petawn i wedi gallu mynd allan i ddawnsio fyddwn ni wedi ei gweld hi'n anodd achos, doedd gen i ddim egni o gwbl - roedd hi'n job i godi a mynd i'r ysgol!
A doedd dim pwynt trio cadw lan â'r ffasiynau diweddara' achos fod fy wyneb i wedi chwyddo lan oherwydd steroids, fy ngwallt i'n cwympo mas ac roeddwn ni'n wyn fel y galchen - 'sai'n meddwl welech chi'r look yna mewn unrhyw gylchgrawn i ferched ifanc.
Ond ar ôl dwy flynedd o aros, ar 28 o Chwefror 2002, fe ddaeth yr alwad - roedd yna aren i mi.
Ma' rhaid i fi weud - fi ddim yn berson crefyddol ond roedd hwn fel gwyrth. Unwaith dechreuodd fy ngwaed i lifo drwy'r aren newydd daeth rhyw deimlad o ail gyfle. Roeddwn i'n llawn egni, llawn gobaith am y dyfodol.
Dywedodd y doctoriaid wrtha i fyddwn i'n cael mynd adre mewn 10-14 diwrnod ... ond bu'r llawdriniaeth yn gymaint o lwyddiant o'n i adre'n gwylio 'Dawson's Creek' dridiau'n ddiweddarach a nôl yn yr ysgol wythnos ar ôl hynny.
A dwi ddim 'di edrych nôl.
Efallai ei bod hi'n haws arna i achos fod gen i esgus i fyw bywyd i'r eithaf ... dwi'n gwybod sut beth yw gorwedd mewn gwely yn aros i fy mywyd ail-ddechrau.
Ers cael y trawsblaniad, dwi 'di teithio'r byd, dysgu iaith newydd, wedi bod yn gyflwynydd teledu, wedi byw mewn campervan, wedi concro Machu Picchu, wedi goroesi yn jwngwl Borneo... ac mae'r diolch I GYD i'r person hwnnw wnaeth y penderfyniad anodd iawn i ymuno â'r gofrestr rhoddwyr organau.
Y rhodd orau gefais i erioed!

Cyflwynydd BBC Radio Cymru, Tommo

Pan o'n i'n 20 oed ac yn gweithio i'r swyddfa bost, roedd rhaid cael prawf gwaed yn rheolaidd, ac roedd fy mhwysau gwaed i'n uchel iawn. Pan es i i'r ysbyty, ges i'r diagnosis mai dim ond un aren oedd gen i. Ond ar ôl aros yn yr ysbyty i gael fy mhwyse gwaed i lawr, ges i'n anfon adre, a mwy neu lai anghofio am y peth.
Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, ro'n i a ngwraig Donna yn cael trafferth cael plant, a phan es i i'r ysbyty, roedd y doctoriaid yn synnu pa mor wael o'n i. Disgrifiodd un doctor fi fel "dying on his feet".
Roedd yr aren erbyn hynny yn gweithio llai na 50% ac yn gwaethygu. Dechreuais i gael dialysis yn Ionawr 2007 a chael trawsblaniad aren ym Mehefin yr un flwyddyn yng Nghaerdydd. Mae'r aren mewn 'poced' bach ar dop fy nghoes i, gan ei fod yn haws cyrraedd y bledren o fan'no.
Pan mae organ ar gael, mae'r pencadlys ym Mryste yn ffonio rhestr o bobl sy'n aros, ac yn gadael i'r ffôn ganu pum gwaith cyn symud ymlaen i'r enw nesaf ar y rhestr. Fi oedd yr ail alwad ffôn, gan fod y person cyntaf heb ateb - am lwcus!
Ro'n i yn yr ysbyty am wythnos ac yn ôl ar y radio bythefnos yn ddiweddarach. Ro'n i'n teimlo fel taswn i wedi cael ail gyfle ar fywyd, ac felly ddim eisiau methu eiliad yn fwy.
Dwi'n cymryd tabledi anti-rejection bob 12 awr, ac yn mynd i gael check-up bob tri mis - a byth ofn mynd at y doctor os nad ydw i'n teimlo'n dda, yn enwedig gan mai aren 'ail-law' yw e.
Bellach, mae gan Donna a fi fab 5 oed, Cian, a dwi'n gweithio ar BBC Radio Cymru. Dwi'n teimlo fel tase fy mreuddwydion i wedi dod yn wir - a fi'n deffro bob bore yn ddiolchgar mod i yma!
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol fis Rhagfyr 2015