Cyngor Môn yn cefnogi cynllun tai cyngor newydd

  • Cyhoeddwyd
Tai cyngor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Môn eisiau atal y cynllun 'Hawl i Brynu' am gyfnod i geisio cwrdd â'r galw cynyddol am dai rhent fforddiadwy

Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn wedi cefnogi cynlluniau "uchelgeisiol" i gychwyn adeiladu tai cyngor newydd ac atal y cynllun 'Hawl i Brynu'.

Mae'r rhaglen yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 2016 - 2046.

Golyga'r penderfyniad mai Cyngor Môn - fel un o 11 awdurdod yng Nghymru sy'n dal i gadw eu stoc tai - yw'r diweddara' i brynu'r ddyled sydd ganddyn nhw i Drysorlys EM a'i throsglwyddo i Fwrdd Benthyciadau Cyhoeddus Cymru (BBCC) a dod trwy hynny'n hunan-gyllidol.

Eleni bydd yr awdurdod yn buddsoddi dros £2m mewn adeiladu tai cyngor newydd ar yr ynys, gan ystyried safleoedd ym Mhentraeth, Llanfaethlu, Y Fali a Chaergybi.

Yn ôl y cyngor, bydd y cynllun yn arwain at o leia' 500 yn rhagor o gartrefi i'r stoc dai dros y 30 mlynedd nesa'.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, sydd â chyfrifoldeb dros dai:

"Mae yna gyfnod cyffrous o'n blaenau o ran tai ym Môn. Mae'r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu stoc tai'r Cyngor a chreu rhagor o dai fforddiadwy ar gyfer trigolion Môn.

"Bydd y rhaglen adeiladu newydd yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i ni o ran cynyddu stoc tai, galluogi buddsoddiad yn ein cartrefi ac o fudd wrth adfywio'n cymunedau."

Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn berchen ar, ac yn rheoli, ychydig dros 3,800 eiddo ar hyd yr ynys.

Fe wnaeth aelodau'r Pwyllgor Gwaith hefyd gefnogi cais i atal y cynllun 'Hawl i Brynu', sydd ar hyn o bryd yn galluogi i denantiaid cymwys tai'r cyngor a thai cymdeithasol brynu eu tai ar ostyngiad o £8,000.

Bydd Gwasanaethau Tai Môn nawr yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am atal y cynllun 'Hawl i Brynu' am gyfnod o bum mlynedd, i geisio cwrdd â'r galw cynyddol am dai rhent fforddiadwy ar Ynys Môn.

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai, Shan Lloyd Williams, "Fe ŵyr pawb bod prinder o dai fforddiadwy trwy Gymru gyfan a gweddill y DU. Mae pob eiddo y mae'r Cyngor yn ei werthu trwy'r cynllun 'Hawl i Brynu' yn lleihau ein gallu i ddarparu tai cymdeithasol fforddiadwy i gwrdd ag angen lleol."

Roedd 540 o denantiaid cyngor wedi ymateb i ymgynghoriad diweddar, gyda 72% ohonynt yn ystyried atal 'Hawl i Brynu' fel cam cadarnhaol i geisio cynyddu nifer yr eiddo rhent fforddiadwy ym Môn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones:

"Gyda materion tai yng Nghymru wedi eu datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i Awdurdodau Lleol gyflwyno cais gwirfoddol i atal 'hawl i brynu' tenantiaid am gyfnod o bum mlynedd. Mae ceisiadau gan Gynghorau Sir Gaerfyrddin ac Abertawe eisoes wedi eu cymeradwyo."

"Ein nod yw cynyddu'r nifer o eiddo rhent fforddiadwy ar yr Ynys ac rydym nawr yn gobeithio y bydd ein cais yn llwyddiannus. Byddai atal y cynllun yn sicr yn ein helpu i gwrdd â'r gofyn cynyddol am dai rhent fforddiadwy ac yn atgyfnerthu ein stoc dai ar yr Ynys."

Disgrifiad o’r llun,

Margaret Thatcher gyda rhai o'r tenantiaid cyntaf i fanteisio ar y cynllun hawl i brynu tai cyngor yn 1980