Cyllido cyffur ar gyfer cyflwr prin

  • Cyhoeddwyd
Gracie Mellalieu and mother Yvette at a riding centre
Disgrifiad o’r llun,

Gracie Mellalieu a'i mam Yvette

Mae merch ysgol gyda chyflwr genetig hynod o brin yn dathlu ar ôl i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru benderfynu cyllido cyffur fydd yn gwella ansawdd ei bywyd.

Mae Gracie Mellalieu, naw oed, o Sir Fflint yn un o bump yn unig sy'n dioddef o gyflwr syndrom Morquio, cyflwr sy'n effeithio ar sut mae esgyrn yn tyfu.

Cafodd y cyfle i dreialu cyffur newydd o'r enw Vimizim, cyffur sydd nawr wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru i gael ei ddefnyddio.

Fe fydd y driniaeth yn golygu cost o tua £880,000 y flwyddyn ar gyfer cleifion sy'n gymwys.

Croesi bysedd

"Roedd ein bysedd wedi eu croesi am amser hir, yn aros ac yn gobeithio fod hyn am ddigwydd," meddai mam Gracie, Yvette.

"Mae'n bwysau mawr oddi ar ein hysgwyddau. Rydym yn teimlo mor hapus fod y canlyniadau wedi bod yn rhai positif. "

Cafodd y cyffur sêl bendith yr awdurdodau iechyd yn Lloegr fis Rhagfyr y llynedd, ond roedd rhaid aros i weld a fyddai'r driniaeth ar gael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

"Ydi, mae'n gyffur sy`n ddrud, ond mae'n rhaid i chi gofio fod hwn yn gyflwr hynod o brin sy'n cael ei drin gan gyffur, cyffur nad oes modd ei gynhyrchu ar yr un lefel a paracetemol," meddai Yvette.

"Mae'n mynd i gymryd llawer mwy o waith ymchwil i ddatblygu'r cyffur sy'n gwneud yn iawn am yr ensym sy` ar goll yng nghorff Gracie."

"Rwy'n meddwl ei bod yn anghywir dweud nad yw rhywun fel Gracie yn ei haeddu oherwydd ei fod yn rhy ddrud.

"Mae ganddi fywyd i fyw a llawer i gyfrannu i'n cymdeithas. "

Cyflwr wedi gwella yn sylweddol

Mae Gracie, sy'n byw ym Mynydd Isa, ger yr Wyddgrug, wedi bod yn derbyn therapi wythnosol wrth gymryd y cyffur yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Dywed meddygon fod ei chyflwr wedi gwella yn sylweddol, gyda'i ysgyfaint yn gweithio'n well, ei golwg yn gwella, ac nid yw hi nawr angen cadair olwyn.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i gymeradwyo'r cyffur newydd dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakefor ei fod wedi gwrando ar gyngor ac "y dylai Vimizim, y driniaeth gyntaf sydd â'r potensial i newid cwrs Syndrom Morquio, fod ar gael yng Nghymru."

"Mae arbenigwyr clinigol yn awgrymu bod disgwyl i'r therapi arafu'r cyflwr, lleihau'r angen am lawdriniaeth, a gwella ansawdd bywyd," meddai Mr Drakeford.