Uned newydd i 'leihau stigma' iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Llandochau

Creu awyrgylch 'heddychlon, cynnes a chroesawgar' i gleifion yw nod uned iechyd meddwl newydd sydd yn agor ger Caerdydd ddydd Iau.

Mae canolfan Hafan y Coed yn rhan ganolog o'r gwaith o foderneiddio Ysbyty Llandochau, sydd wedi costio £88m.

Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys ystafelloedd en-suite, sydd ddim ar gael yn Ysbyty'r Eglwys Newydd. Bydd yr uned iechyd meddwl yno'n cau fis nesa, wedi 108 o flynyddoedd o wasanaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y bydd yr uned newydd yn gwneud "gwahaniaeth gwirioneddol".

Mae gan Hafan y Coed 134 o welyau - o'i gymharu â 2,000 o welyau yn yr Eglwys Newydd pan agorodd yr ysbyty - sy'n adlewyrchu'r newid pwyslais sydd wedi bod dros y 35 mlynedd diwethaf tuag at ofal yn y gymuned.

Mae ysbytai Cymru'n trin tua 10,000 o achosion o broblemau iechyd meddwl bob blwyddyn, gyda bron i chwarter y rheiny'n aros yn ysbyty am lai na mis.

Bydd yr uned newydd yn trin cleifion sydd â'r problemau mwyaf difrifol, a bydd rhai ohonyn nhw'n cael eu monitro'n ofalus.

Disgrifiad o’r llun,

Un o ystafelloedd gwely'r uned.

Mae system wedi ei gosod i oruchwylio ystafelloedd gwely fel y gall staff weld cleifion heb amharu arnyn nhw, a sicrhau eu bod yn cael mwy o gwsg.

Bydd ardaloedd "tawel", lolfeydd, campfa, maes chwarae awyr agored a hyd yn oed sinema fechan yn yr uned newydd.

Cafodd arlunwyr lleol eu comisiynu i greu dros 40 o weithfeydd o gelfyddyd ar y thema natur.

Yn ôl Dr Annie Procter, cyfarwyddwr iechyd meddwl y bwrdd clinigol, mae'r gwahaniaeth rhwng yr uned newydd a'r hen ysbytai'n "anfesuradwy".

Dywedodd fod pobl yn aml yn fregus pan fyddan nhw'n cyrraedd yr ysbyty, a'i bod yn bwysig darparu amgylchedd diogel yn ogystal â rhywle pleserus a bywiog.

Disgrifiad o’r llun,

Llun archif o Ysbyty Eglwys Newydd. Ar ôl 108 o flynyddoedd, bydd yr uned iechyd meddwl yno'n cau fis nesaf.

Dywedodd Dr Procter fod yr ystafelloedd a'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i fod yn ddiogel yn ogystal â sicrhau preifatrwydd ac urddas cleifion.

"Mae'r gwaith celf a phopeth o liwiau'r waliau i'r cadeiriau a'r dillad gwely wedi eu dewis yn ofalus, gyda'r rhai fydd yn defnyddio'r gwasanaeth yn helpu i'w dewis", dywedodd.

"Mae'r uned yma'n arwydd o foderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl, a'r ffaith ein bod yn lleihau stigma.

"Cuddio cleifion a'u cadw dan glo oedd yn arfer digwydd - ond rydyn ni'n deall cymaint mwy nawr, felly mae'r canolbwynt nawr ar therapi a gwella."

Dywedodd Mr Drakeford fod yr adeilad newydd yn rhagorol ac y byddai Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Disgrifiad,

Owain Clarke fu'n gweld yr uned iechyd meddwl newydd

Dadansoddiad gan gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke.

Ffynhonnell y llun, Erich Auerbach/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nyrs ar ddyletswydd mewn ysbyty iechyd meddwl 60 mlynedd yn ôl.

Mae hwn yn teimlo mor wahanol â phosib i seilam Fictorianaidd.

Mae adeiladu'r uned iechyd meddwl yn ysbyty Llandochau - yn agos i wasanaethau eraill yr ysbyty, fel gofal mamolaeth a'r uned orthopedig - hefyd yn gam bwriadol.

Yn wahanol i'r hen sefydliadau, mae'n anfon neges glir na ddylai gofal iechyd meddwl gael ei guddio mewn adeilad tywyll.

Mae e'r un mor bwysig a pherthnasol ag unrhyw driniaeth arall ar y GIG - yn enwedig o gofio fod un o bob pedwar ohonon ni'n wynebu problemau meddylion ar ryw adeg yn ein bywydau.

A bod yn onest, dwi wedi gweld gwestai moethus sydd â llai o gyfleusterau.

Ac efallai bod hynny'n fwriadol hefyd.

Er y bydd yn rhaid i rai cleifion aros yma am rai misoedd, i eraill, y flaenoriaeth fydd eu cael nhw nôl gartref er mwyn cael gofal yn y gymuned.

Felly, mae'n teimlo fel lle pleserus i ddod i aros yn hytrach na rhywle y byddech yn arswydo wrth feddwl y gallech gael eich gorfodi i fyw ynddo.