Galw am eithrio rhai busnesau gwyliau Gwynedd rhag y premiwm treth

AberdaronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn "edrych ar y sefyllfa mewn perthynas ag eithriadau i'r Premiwm Treth Cyngor"

  • Cyhoeddwyd

Mae llythyr wedi ei gyflwyno i gabinet Cyngor Gwynedd, yn galw am "bolisi i ganiatáu eithrio llety hunan-ddarpar sydd ym meddiant brodorion rhag y premiwm treth cyngor".

Rhai o gynghorwyr ardal Llŷn ac Eifionydd sy'n galw am y newid, wedi i rai trigolion gael biliau treth sydd, meddai'r llythyr, "am symiau aruthrol o £10,000 a £20,000".

Dweud mae Cyngor Gwynedd mai'r Swyddfa Brisio, sef asiantaeth o Awdurdod Cyllid a Thollau EF, sy'n penderfynu pa drethi sy'n ddyledus ar eiddo ac nid Cynghorau sir.

Er hyn, medden nhw, maen nhw'n "edrych ar y sefyllfa" ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheol sy'n golygu bod rhaid i lety gwyliau fod yn llawn am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn cael ei ystyried yn llety gwyliau, a chael talu trethi busnes yn hytrach na threth cyngor domestig.

Ond yn ôl y cynghorwyr sydd wedi arwyddo'r llythyr, dydi nifer o letyau yn yr ardal ddim yn cyrraedd y trothwy.

Yn ôl y llythyr, mae rheidrwydd ar berchnogion eiddo sy'n cael ei ddefnyddio "fel llety hunan-ddarpar, y mae iddo hanes o'i ddefnyddio i'r pwrpas hwnnw dros nifer o flynyddoedd ac sydd o fewn cwrtil tŷ annedd perchennog yr eiddo, yn rhan o dŷ annedd y perchennog neu yn sownd yn nhŷ annedd y perchennog", i dalu'r premiwm uwch, domestig.

Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

"Mewn ffordd, ma' peidio cael polisi eithrio yn peri bod y premiwm ynddo'i hun yn annheg," meddai'r Cynghorydd Richard Glyn Roberts

Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts, sy'n cynrychioli ward Abererch ydi awdur y llythyr, ac mae 12 yn rhagor wedi ei arwyddo.

"Mewn ffordd, ma' peidio cael polisi eithrio yn peri bod y premiwm ynddo'i hun yn annheg," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae'n debyg y bysa hi wedi bod yn gallach petasa' yr awdurdod lleol wedi cyflwyno polisi eithrio yn barod cyn cyflwyno'r premiwm, er mwyn osgoi enghreifftiau o annhegwch, o bobl leol sydd yn trio gwneud bywoliaeth.

"Mae'r datganiad yn gofyn am eithriada' - yn syml iawn – ar gyfer eiddo mae 'na hanes hir o'i ddefnyddio fel llety gwyliau, a bod yr eiddo hwnnw naill ai yn sownd wrth dŷ… yn feudy neu yn annexe, neu yn rhan o dŷ.

"Hynny ydi, y math o fusnesa' gosod visitors ar raddfa fechan, 'da ni wedi ei weld yn draddodiadol yn yr ardal, ac sydd, siŵr o fod y rhan fwya' ohonyn nhw, yn nwylo Cymry lleol."

Anwen Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Oedd gweld y bil o dros £10,000 yn syfrdanu rhywun… Oedd, mi oedd ei weld o yn hitio adra," meddai Anwen Jones

Mae teulu Anwen Jones yn rhedeg llety gwyliau o'u cartref ger Cricieth ers dwy genhedlaeth, a bellach yn ystyried y dyfodol yn sgil bil treth diweddar oddeutu £10,000.

"Oedd gweld y bil o dros £10,000 yn syfrdanu rhywun… Oedd, mi oedd ei weld o yn hitio adra," meddai.

"Wedyn o'n i'n meddwl 'mae isio talu hwn'. Be' fydd 'na'n elw ar ddiwedd y dydd? I be' dw i'n trafferth rhedeg busnes?"

Mae'r llety yma wastad wedi bod yn rhan o brif gartref Anwen a'i theulu ac felly'n annhebygol iawn o gael ei ddefnyddio fel ail gartref.

A dyma'r math o lefydd mae rhai cynghorwyr rŵan yn teimlo dylai gael eu heithrio'r premiwm treth cyngor.

Cyngor yn 'rhoi ystyriaeth i wahanol sefyllfaoedd'

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Y Swyddfa Brisio, sef asiantaeth o Awdurdod Cyllid a Thollau EF, sy'n penderfynu pa drethi sy'n ddyledus ar eiddo ac nid Cynghorau sir.

"Mae Cyngor Gwynedd – fel pob llywodraeth leol arall – yn gweithredu yn unol â'r wybodaeth a dderbynnir.

"Rydym yn edrych ar y sefyllfa mewn perthynas ag eithriadau i'r Premiwm Treth Cyngor ar hyn o bryd a bydd Polisi yn cael ei lunio ar ôl rhoi ystyriaeth i wahanol sefyllfaoedd.

"Sefydlodd Llywodraeth Cymru'r hawl i godi Premiwm treth Cyngor er mwyn ceisio cynorthwyo Awdurdodau Lleol i reoli'r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau. Nid yw'r rheoliadau premiwm yn gwahaniaethu rhwng pwy yw perchennog y tŷ.

"Gall trethdalwyr sy'n cael trafferth talu eu treth gysylltu ag Adran Gyllid Cyngor Gwynedd i drafod eu sefyllfa unigol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig