Mesur e-sigarets yn methu wedi ffrae Llafur a Plaid

  • Cyhoeddwyd
e-cigFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae mesur iechyd cyhoeddus - oedd yn cynnwys gwaharddiad ar ddefnyddio e-sigarets mewn rhai mannau cyhoeddus - wedi ei wrthod gan ACau yn dilyn ffrae rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Penderfynodd Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn y mesur ar y funud olaf, gan olygu bod y Cynulliad wedi ei rannu gyda 26 pleidlais o blaid a 26 yn erbyn.

Oherwydd y canlyniad cyfartal, roedd rhaid i'r Llywydd wrthod y mesur.

Daw'r canlyniad ar ôl i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ddweud bod cytundeb blaenorol gyda Plaid Cymru yn "cheap date".

'Bychanu cydweithio'

Yn wreiddiol, roedd Plaid wedi bwriadu caniatáu pleidlais rydd i'w haelodau, ac roedd disgwyl i rai ACau gefnogi'r mesur nos Fercher.

Dywedodd llefarydd bod y blaid yn teimlo bod sylwadau Mr Andrews - oedd yn ymwneud â chytundeb am fesur llywodraeth leol - yn amharchus.

Dywedodd y llefarydd bod Mr Andrews wedi "dewis bychanu cydweithio a pheryglu deddfwriaeth ei lywodraeth ei hun".

"Y prynhawn 'ma, fe wnaeth Plaid Cymru gynnig i'r llywodraeth y dylai'r mesur gael ei dynnu'n ôl cyn y bleidlais ac y dylai'r Cynulliad ddod at ei gilydd ar unwaith wedi'r Pasg i bleidleisio ar fesur nad oedd yn cynnwys e-sigarets.

"Byddai Plaid Cymru wedi cefnogi'r ddeddfwriaeth honno."

Fe wnaeth Plaid Cymru ymuno a'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr wrth bleidleisio yn erbyn y mesur oherwydd y gwaharddiad ar e-sigarets.

Daeth y bleidlais ar ôl i ACau gefnogi cynlluniau i wahardd defnydd e-sigarets mewn rhai llefydd.