'Ychwanegu a gwella' rôl yr Ombwdsmon

  • Cyhoeddwyd
nick bennet

Mae angen cyflwyno cyfraith newydd i gryfhau pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol nesaf, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi ystyried sut y gellid datblygu rôl yr Ombwdsmon yn y dyfodol ar ôl dod i'r casgliad mewn ymchwiliad blaenorol, er bod y rôl bresennol yn gweithio'n effeithiol, roedd angen cyfraith newydd i 'gydgrynhoi'r rôl a'i diogelu at y dyfodol'.

Y bwriad gwreiddiol oedd cyflwyno Bil yn ystod y Cynulliad cyfredol, ond ni chafodd y Pwyllgor ddigon o amser i wneud hynny.

Aed ati i lunio Bil drafft, ac mae'r Aelodau wedi argymell y dylai'r cynulliad newydd, gyflwyno'r Bil hwn ar ôl yr etholiad ar 5 Mai.

'Gwella a chryfhau'

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r newidiadau canlynol yn gwella ac yn cryfhau rôl yr Ombwdsmon:

  • Pwerau i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun;

  • Disgresiwn llwyr i'r Ombwdsmon benderfynu sut y gellir gwneud cwynion;

  • Ymdrin â chwynion ar draws y gwasanaethau cyhoeddus;

  • Ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat (mewn rhai amgylchiadau).

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Mae'r Ombwdsmon yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n credu ei fod wedi cael cam drwy gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gorff cyhoeddus, yn gallu gwneud cwyn gyda'r sicrwydd y bydd ei gŵyn yn cael ei thrin yn deg ac yn annibynnol."

"Am y rheswm hwn, rydym yn mawr obeithio y bydd y Pumed Cynulliad yn bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth, ac y bydd gweithredu'r ddeddfwriaeth yn ychwanegu at rôl yr Ombwdsmon ac yn gwella ffydd y cyhoedd yng Nghymru."