Arddangos darluniau Da Vinci i ailagor oriel yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mi fydd Oriel Glynn Vivian yn Abertawe yn ailagor yn hwyrach yn y flwyddyn gydag arddangosfa o ddarluniau gan Leonardo da Vinci.
Mae'r oriel wedi bod ar gau ers 2011 er mwyn cael ei adnewyddu. Roedd y broses honno i fod i gymryd tair blynedd, ond fe aeth y contractwyr gwreiddiol i'r wal yn 2013.
Mi fydd yr arddangosfa gyntaf ers yr adnewyddiad yn dod â 10 o ddarluniau Da Vinci o ddiwedd y 15ed ganrif a chychwyn y 16eg ganrif i'r ddinas ar fenthyg gan y Casgliad Brenhinol.
Mae'n debyg y bu'r darluniau'n rhan o gasgliad oedd yn eiddo i'r Brenin Siarl II yn yr 17eg ganrif.
Fe ddywedodd Robert Francis-Davies, sy'n gyfrifol am fenter, datblygu ac adfywio ar gabinet Cyngor Abertawe, fod gan "pobl Abertawe ac ymwelwyr lawer i edrych ymlaen tuag ato pan fydd yr oriel yn ailagor yn yr hydref."
Ychwanegodd: "Mae'r staff yn brysur yn gweithio ar arddangosfa o safon uchel a rhaglen addysgol a gweithdai fydd o fudd i gannoedd o filoedd o bobl.
"Mae'r darluniau hyn gan un o'r artistiaid mwyaf ac un o'r meddylwyr craffaf erioed o ddiddordeb i gynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol, felly mae'n ffordd berffaith i ddechrau ein cynllun i atgyfnerthu enw'r oriel fel lle ar gyfer profiad diwylliannol rhagorol."
Oriel Glynn Vivian
Cafodd yr oriel ei adeiladu mewn arddull Baróc Edwardaidd i arddangos casgliad celf Richard Glynn Vivian.
Un rhan o'r adnewyddiad yw estyniad sy'n cysylltu rhannau o'r oriel gafodd eu hadeiladu yn 1911 a'r 1970au.
Mae paentiadau gan Claude Monet, Augustus John a Kyffin Williams yn rhan o gasgliad yr oriel.
Mae gan yr oriel hefyd gasgliad o borslen a tsieina Abertawe o bwys rhyngwladol.
Bydd yr arddangosfa o ddarluniau Leonardo da Vinci yn agor ar 15 Hydref.