Gwagio stadiwm Casnewydd yn sgil argyfwng meddygol

Ambiwlans awyr yn cyrraedd y cae wedi i'r stadiwm gael ei wagio
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid gwagio stadiwm tîm pêl-droed Casnewydd lai nag awr cyn gêm gyntaf y tymor yng Nghynghrair Dau yn erbyn Notts County brynhawn Sadwrn.
Mae'n debyg bod yn rhaid gwagio stadiwm Rodney Parade yn sgil argyfwng meddygol cysylltiedig â chefnogwr ar y cae.
Bu'n rhaid i'r dorf ac aelodau'r cyfryngau adael ac yna fe laniodd dau ambiwlans awyr.
Ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol y clwb roedd neges yn dweud: "Oherwydd i gefnogwr fynd yn sâl mae ambiwlans awyr wedi glanio ar y cae.
"Mae oedi i'r gic gyntaf yn debygol, gyda mwy o fanylion i ddilyn cyn gynted â phosibl.
"Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau i'r unigolyn dan sylw."
Ond fe aeth y gêm yn ei blaen wedi oedi a'r sgôr terfynol oedd 1-1.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.