'Ryff geid' Steddfod Wrecsam i sêr Hollywood

Nage, nid dathlu ennill y ddeuawd Cerdd Dant mae Rob McElhenney a Ryan Reynolds ond dathlu dyrchafiad diweddaraf eu clwb pêl-droed, Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fydd Ryan a Rob yn mynd i'r Steddfod?
Ynghyd ag 'a fydd teilyngdod?' a 'sut dywydd fydd hi?', dyma un o'r cwestiynau sy'n cael ei holi fwyaf cyn y Brifwyl eleni.
Mae eu cefnogaeth i ardal Wrecsam a'u parch at y Gymraeg yn amlwg, mae eu ffrind Maxine Hughes yn cael ei hurddo ar y dydd Gwener, ac ar y dydd Sadwrn fe fydd eu tîm pêl-droed yn chwarae eu gêm gyntaf yn eu cynghrair newydd... digon i ddenu Ryan Reynolds a Rob McElhenney siawns?
Gyda hynny mewn golwg, dyma 'ryff geid' i'r Steddfod iddyn nhw neu unrhyw seren Hollywood arall sydd awydd dod draw i Eisteddfod Genedlaethol 2025.
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
Hollywood, Shmollywood
Os oes unrhyw un yn pwyntio tuag atoch chi ac yn sibrwd wrth rywun arall, cyn i chi wenu a chynnig eich llofnod, mae'n well i chi edrych tu ôl i chi. Mae'n ddigon posib bod eu sylw wedi ei hoelio ar gyn-enillydd y Rhuban Glas sy'n sefyll tu cefn i chi.
Tydi enwogrwydd Hollywood ddim yn yr un cae (neu Maes) ag enwogrwydd Steddfod.
Yr Orsedd
Na, dydych chi heb gamu ar set ffilm Marvel neu debyg efo degau o Supermen a Superwomen yn cyfarfod yn eu clogynnau gwyn, glas neu wyrdd. Nid arch-arwyr ydyn nhw, ond mae 'na Archdderwydd. Ac mewn ffordd maen nhw i gyd yn arwyr.

Dy dy dyyyy... dy dy dy dy dyyyyy...
Meddyliwch am seremoni'r Oscars ond heb yr angen i gystadlu am y wisg fwyaf crand gan fod pawb yn gwisgo'r un ffrog. Does na'm carped coch, dim ond gwair a thraciau metel. Sna'm champagne - ond fydd 'na banad.
Ac i'r rhai fydd yn cael eu hurddo, fe fydd y cyfan yn fwy emosiynol na ffilm Disney, a heb yr angen am feiolins i helpu dynnu'r dagrau.
Maxine Hughes
Gwyliwch Maxine Hughes yn dysgu Hei Mistar Urdd i Rob McElhenney
Fydd pawb yn ei hadnabod hi ar y Maes. A chyn i Wrecsam chwarae nesaf, fydd ganddi enw barddol.
Freebies i'r plant
Tydi sêr Hollywood ddim yn brin o geiniog ac nid rhieni pawb ar y Maes sy'n gallu fforddio prynu clwb pêl-droed. Ond os ydi'r plantos yn dod gyda chi, PLIS cofiwch hyn: waeth faint o bres sydd gan rywun, un o bleserau mawr y Steddfod i blant ydi mynd o gwmpas y stondinau yn chwilio am unrhywbeth sydd am ddim: y freebie Steddfod.
Efallai nad ydi o'n amgylcheddol glên, ac mae'n debyg nad ydych chi angen degau o feiros, bagiau cotwm, sticeri a goncs efo logos sefydliadau Cymreig arnyn nhw - ond mae'n rhan o'r traddodiad eisteddfodol i holl blant Cymry gasglu cymaint o 'freebies' â phosib.
Dyma'r 'trick or treat' Cymreig felly gadewch iddyn nhw fod.

Does neb rhy hen i freebies Steddfod
Amaturiaid proffesiynol
Ydych chi'n ystyried mynd i'r pafiliwn i weld côr meibion yn morio canu? Mae'n bosib y byddwch chi'n pendroni pam bod cymaint o gerddorion proffesiynol yng Nghymru yn edrych fel ffermwyr, labrwrs a chigyddion. Wel, dyna ydi nhw - nid cerddorion proffesiynol.
Er gwaethaf lefel uchel y perfformiadau ar y llwyfan yn yr holl gystadlaethau, amaturiaid ydi nhw - rhywbeth maen nhw'n ei wneud ar nosweithiau Llun glawog.
Ymarfer eich llinellau Cymraeg
Mae 'na dri chwestiwn Eisteddfodol sy'n SICR o godi. Os ydych chi eisiau gwneud argraff, pam 'na wnewch chi ymarfer eu gofyn nhw ac ymarfer eich atebion yn Gymraeg?
Dyma nhw:
Yda chi yma drwy'r wythnos?
Lle yda chi'n aros - y maes carafanau?
Sut mae'r teulu? (Fydd y person sy'n gofyn y cwestiwn yma i chi yn siŵr o adnabod eich wyneb, ond ddim cweit yn gwybod pwy ydych chi. Os ydyn nhw wedyn yn gofyn "Prifysgol Aberystwyth 1995?", gwenwch a dywedwch "Cofio Rhyng-gol '96?" a cherddwch i ffwrdd).
Cuddwisg

"Da ni'n nabod ein gilydd dwch?"
'Da ni'n wlad fechan, a phawb yn nabod pawb. Felly mae'n amhosib i unrhywun - sêr Hollywood neu beidio - groesi'r Maes mewn llai nag awr heb strategaeth.
Mae smalio bod ar y ffôn bob tro'n opsiwn da, neu beth am frasgamu efo copis cerddoriaeth wrth i chi geisio cyrraedd eich 'cystadleuaeth' mewn pryd. Gwnewch yn siwr bod y gân yn Gymraeg neu fyddwch chi yn y newyddion.
Fel arall, siwt Deadpool amdani.
Mwd a glaw

Roedd y dyn yma yn barod am y glaw yn Eisteddfod Pontypridd 2024
Mae'r Cymry Cymraeg yn cynnal eu prif ŵyl ddiwylliannol tu allan, mewn caeau, yng Nghymru ganol haf. Plot twist: ella fydd hi'n bwrw a gawn ni fwd.
Os felly, peidiwch â chwyno - welis a ponchos S4C ymlaen, ac awê. Lle 'da chi'n feddwl ydych chi, California?
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023