'Addasiadau' eleni yn sgil hinsawdd ariannol ond mae'n 'Steddfod sbeshal'

- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod eleni wedi addasu i gwrdd â heriau codi arian, yn ôl y Prif Weithredwr Betsan Moses.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, fe wrthododd Ms Moses ddweud faint o arian oedd wedi ei godi'n lleol.
Dywedodd bod yr hinsawdd ariannol wedi gwneud codi arian yn heriol i fusnesau ac aelwydydd, ond bod "digon" o ymwybyddiaeth yn lleol.
"Mae'n rhaid i ni gofio bod 'na gyni ariannol ac un o'r pethau mae'r Eisteddfod angen ei sicrhau yw nad yw cost yn golygu bod pobl yn cael eu heithrio.
"Ac felly un o'r pethau ni wedi bod yn ddweud mewn digwyddiadau yw 'Rhowch beth allwch chi' ac fe wnaethom ni yr un peth ym Mhontypridd achos be' ni isie yw i bobl ddod i siarad Cymraeg.
"Do'n ni ddim isie i bobl deimlo bod 'na ddigwyddiadau ble o'n nhw'n methu cymryd rhan."
Er bod rhai busnesau enfawr wedi eu lleoli ar y stad ddiwydiannol dafliad carreg o'r Maes, dywedodd Ms Moses bod cwmnïau hefyd yn edrych ar sut maen nhw'n defnyddio arian.
"Mi welwch chi o ran yr economi, mae 'na nifer o gwmnïau sylweddol yn dweud 'Mae'n rhaid i ni ailedrych ar fel i ni'n cyfrannu.' Nifer sydd â thargedau yn gorfod edrych yn wahanol."
Pan ofynnodd BBC Cymru faint yn union o arian oedd wedi ei godi atebodd Ms Moses; "O ran y Sadwrn cyntaf, dyw e ddim yn briodol i ni ddweud oherwydd ni'n gwybod bod yr arian yn dal i ddod i fewn.
"Targed ar gyfer y Pwyllgor Gwaith oedd e (y £400,000), nid rhywbeth ni'n rhannu.
"Targed ar gyfer ein cynllunio ac wrth gwrs be' ni wedi 'neud yw edrych ar ein cynllunio a gwneud addasiadau i sicrhau bod y 'Steddfod yn talu am ei hun."
Dywedodd MS Moses bod diwrnod cyntaf yr Eisteddfod yn "odidog".
"Pan agoron ni'r drysau y bore 'ma roedd 'na nifer sylweddol o bobl yn awychu ddod i fewn.
"Mae'n ddiwrnod hyfryd braf ac mae pobl wedi bod yn edrych ymlaen i'r Eisteddfod i ddod ac fe ddaethon nhw y peth cyntaf."
Llinos Roberts: 'Roedd codi arian yn her'
Mae cyrraedd targed ariannol ar gyfer yr Eisteddfod eleni "wedi bod yn her" yn ôl Llinos Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl.
"Mae'n rhaid cyfaddef ei bod wedi bod yn her.
"Dwi'n meddwl lle rydan ni ar hyn o bryd yn y byd, mae elusennau yn cael llawer o drafferthion i godi arian.
"Mae pethau fel Covid a Brexit yn golygu bod dim cymaint o arian o gwmpas a oedd rai blynyddoedd yn ôl."
Er gwaethaf yr heriau dywedodd ei bod wrth ei bodd fod yr wythnos fawr wedi cyrraedd, a fod y criw "wedi cael llawer o hwyl" wrth gynnal digwyddiadau amrywiol.
Fe fydd yr ymdrechion i godi arian yn parhau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys gwerthu crysau-T arbennig ar y cyd â Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

Mae cael y Steddfod yn yr ardal, medd Llywydd yr Ŵyl, yr actor Marc Lewis Jones
Mae amseriad yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni yn "berffaith" yn ôl Llywydd yr Ŵyl, yr actor Marc Lewis Jones.
Wrth siarad ar ddiwrnod cyntaf y Brifwyl yn Is-y-Coed ar gyrion stad ddiwydiannol y ddinas, dywedodd Mr Jones bod ymweliad yr Eisteddfod ar gyfnod pan mae'r clwb pêl-droed yn creu enwogrwydd ar draws y byd yn "sbeshal".
Wedi serennu mewn ffilmiau Hollywood a llawer o gyfresi teledu llwyddiannus, cafodd Jones ei fagu ym mhentref Rhosllannerchrugog, sydd i'w weld, yn ôl yr actor, o'r Maes.
"Pan o'n i'n tyfu fyny, oedd Rhos yn lle Cymreig, celfyddydol. Oedd 'na lot o gorau, oedd 'na'r Stiwt, lle oedd 'na lot o ffilms yn cael eu dangos.
Oedd 'na aelwyd yn perfformio. Yna es i i Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam." meddai Mr Jones.
"Oedd yr ardal yn teimlo bod ni'n lwcus iawn er bod ni mor agos at y ffin, bod 'na gymaint o Gymraeg.
"Ac yn Rhos yn arbennig, bod 'na dafodiaith Rhos. So oedden ni'n teimlo bod ni bach yn sbeshal rili, yn ngogledd ddwyrain Cymru.
"Mae 'di newid lot so mae cael y 'Steddfod yn ôl yn sbeshal.
"Mae'n anhygoel yr effaith mae'r clwb pêl-droed wedi ei gael ar yr ardal a'r gydnabyddiaeth mae'r rhaglen wedi ei chael dros y byd, mae hwnna'n effaith positif iawn ar yr ardal. Ac oedd o ei angen hefyd.
"So mae cael y 'Steddfod yma, mae'r timing yn berffaith achos mae cael ein hatgoffa pa mor bwysig ydy'r celfyddydau Cymraeg i'r ardal hefyd yn beth sbeshal."
- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.