Hanes rasio ceffylau ger Maes yr Eisteddfod

Fe reidiodd yr awdur enwog, Dick Francis ym Mangor Is-y-coed
- Cyhoeddwyd
Eleni bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn ardal Is-y-coed.
Ardal wledig, chwe milltir i'r dwyrain o ganol dinas Wrecsam sy'n enwog am fath arbennig o chwaraeon.
Ers 1859 mae rasys ceffylau wedi bod yn cael eu cynnal ar y trac rasio sydd wedi'i leoli ychydig filltiroedd i'r de o'r pentref yn Bangor Is-y-coed.
Mae'n chwaer drac i'r un enwog yn Nghaer ac mae sawl ceffyl nodedig wedi rhedeg yma cyn mynd ymlaen i ennill ras y Grand National.
Dyma ychydig o'r hanes.

Dyma'r olygfa yn ystod y cwrdd rasio yn 1939
Nôl yn 1858 roedd y rhan fwyaf o'r tir o amgylch Wrecsam yn perthyn i Syr Watkin Williams-Wynn, tirfeddiannwr ac Aelod Seneddol blaenllaw.
Ganrif ynghynt roedd teulu'r Williams-Wynn wedi dod y tirfeddianwyr mwyaf yng Ngogledd Cymru.
Roedd dau aelod cyfoethog o grŵp hela Williams-Wynn wedi penderfynu cynnal ras traws gwlad ar y tir ym Mangor Is-y-Coed; Lloyd Kenyon yn erbyn Richard Myddelton Biddulph o Gastell y Waun.
Y wobr oedd £50 sy'n cyfateb i tua £7,000 heddiw ac roedd y gymuned gyfan wedi dod i glywed am y ras a'r wobr.
Sefydlu'r ras
Daeth cannoedd o bobl i wylio a dyma ble blannwyd yr hedyn y gallai ras flynyddol o'r fath ddenu tyrfaoedd mwy, a dod yn rhan o galendr blynyddol yr ardal.
O hynny ymlaen roedd rasio yn cael ei drefnu pob blwyddyn ym Mangor Is-y-coed.
Roedd ariannu'r cyfan yn syml. Roedd y rasio'n cael ei dalu amdano drwy ddefnyddio tâl aelodaeth y rhai cyfoethog oedd yn aelodau o grŵp hela teulu'r Wynn.
Cafodd y cwrdd rasio cyntaf swyddogol ei gynnal yn 1859, ar y tir ble mae'r trac rasio'n parhau i fod heddiw.
Y brif ras ar y diwrnod hwnnw oedd ras ffos a pherth (steeplechase) y Grand Wynnstay dros bellter o dair milltir.
Roedd 12 ceffyl yn rhedeg, a'r enillydd oedd ceffyl Mr Jones, Charley, oedd yn cael ei reidio gan joci o'r enw Gaff.

Roedd yn gwrs poblogaidd ymysg rhai o'r ceffylau oedd ar fin rhedeg yn y Grand National - fel The Crofter ym Mawrth 1957
Dros y degawdau mae sawl enillydd ym Mangor Is-y-coed wedi mynd ymlaen i ennill y Grand National yn Aintree; un o'r rheiny oedd Gamecock yn 1897.
Fe enillodd ceffyl cyn berchennog trac rasio Bangor Is-y-coed y Grand National yn 1919 gyda Poethlyn, oedd yn cael ei reidio gan Ernie Piggott sef taid y joci enwog, Lester Piggott.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd fe gafodd ffensys neidio eu hychwanegu at y trac a oedd wedi ei adnewyddu fymryn.
Yn 1947 hefyd y gwnaeth yr awdur enwog a'r joci, Dick Francis ennill ym Mangor Is-y-coed ar gefn ceffyl o'r enw George Owen.

Trac heriol
Er nad yw'r trac yn cynnwys rasys mawr, mae'n gyrchfan dda i jocis sy'n ceisio gwneud enw iddyn nhw eu hunain yn y byd rasio.
Does dim traciau rasio tebyg i un Bangor Is-y-coed. Mae'n cael ei adnabod fel un weddol heriol oherwydd y nifer o droadau a'r ffaith fod y cwrs rhedeg mor gul.
Mae bron fel siâp triongl gyda rhai o'r troadau i'r chwith yn rhai hynod anodd i geffylau trwm sy'n rhedeg ar gyflymder. Mae hefyd yn drac gweddol fyr, dim ond milltir a hanner o hyd.
Mae naw ffens yn wynebu'r jocis sy'n ei wneud yn lle perffaith i'r rheiny sy'n paratoi am rasys neidio mwy yn y dyfodol.
Erbyn heddiw dyma unig drac rhedeg yng ngogledd Cymru ac un o dri drwy Gymru gyfan sy'n parhau i ddenu pobl o bob cwr ers 1858.

Mae rhai o'r troadau i'r chwith yn ei gwneud hi'n drac eithaf heriol i'r ceffylau a'r jocis
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd16 Ebrill