Cau Twnnel Hafren am chwe wythnos

  • Cyhoeddwyd
Twnnel Hafren

Mae'r BBC ar ddeall y bydd Twnnel Hafren, sydd wedi'i leoli ar y brif reilffordd rhwng de Cymru a Llundain, ar gau am chwe wythnos o fis Medi ymlaen.

Bydd y paratoadau ar gyfer trydaneiddio'r twnnel, cynllun gwerth £2.8bn, yn golygu oedi i deithwyr.

Dros y cyfnod o chwe wythnos, bydd y gwasanaethau sy'n defnyddio'r twnnel un ai'n cael eu dargyfeirio neu yn cael eu cyflawni gan wasanaethau bws, fydd yn arwain at siwrneiau hirach.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys trenau i Lundain ac i Fryste.

Fe ddywedodd Network Rail, y cwmni sy'n gofalu am y rheilffyrdd, fod rhaid i'r gwaith gael ei wneud yn yr hydref i osgoi amharu pellach i wasanaethau.

Ychwanegon nhw eu bod yn addo y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar amser.

Yr effaith ar deithwyr

  • Y twnnel ar gau rhwng 12 Medi a 21 Hydref

  • Trenau i Lundain yn cael eu dargyfeirio drwy Gaerloyw, fydd yn ychwanegu 40 munud i deithiau

  • Dim trenau i Fryste, ond gwasanaeth bws yn cysylltu gorsafoedd Casnewydd a Chyffordd Twnnel Hafren gyda Bristol Parkway, fydd yn ychwanegu 40 munud i'r siwrne

  • Llai o wasanaethau ar y lein

Yn ystod y chwe wythnos, bydd rheilen ddargludo'n cael ei gosod ar do'r twnnel.

Mae'r gwaith yn rhan o brosiect i drydaneiddio prif lein rheilffordd Great Western rhwng Abertawe a Llundain ac, yn ôl Network Rail, bydd yn arwain at drenau amlach a chynt ac yn hwb i economi de Cymru.

Mae'r cwmni hefyd yn dweud fod rhaid i'r gwaith gael ei wneud gyda'i gilydd gan y byddai'n cymryd pedair blynedd i'w gwblhau pe bai'n cael ei wneud ar benwythnosau.

Dywedodd grŵp Passenger Focus, sy'n cynrychioli teithwyr, y bydden nhw'n cadw llygad ar y cwmnïau rheilffordd i weld a oes oedi diangen.