Côr mas yn India

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o aelodau o Gôr CF1 newydd ddychwelyd i Gymru wedi taith anhygoel i ardal Mizoram yn India. Yn y 19eg a'r 20fed ganrif, aeth cenhadon o Gymru i'r dalaith a lledu'r ysbryd glân.

Erbyn hyn, mae 90% o'r boblogaeth yn Gristnogion, a'r ffydd yn gryf yno. Cafodd y côr o Gaerdydd wahoddiad i ganu mewn cynhadledd gafodd ei threfnu gan gymdeithas Gristnogol ifanc yng ngogledd ddwyrain y wlad. Llio Rhys, aelod o'r côr, sy'n disgrifio rhai o'u profiadau:

Profiad gwbl anhygoel oedd ein taith i India. Ar ôl diwrnod a noson yn Kolkata, aethon ni i Aizawl, prifddinas Mizoram, i gynhadledd Gristnogol anferthol yn Champhai, yn ôl i Aizawl ac yna i Shillong, i ymweld ag ysbyty gafodd ei sefydlu gan genhadon o Gymru.

Mae hi'n anodd rhoi'r daith mewn i eiriau... ond mi dria i... ac mae'r geiriau'n digwydd dechrau â 'C'.

Ffynhonnell y llun, Llio Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Bu Llio a Chôr CF1 yn perfformio yng nghynhadledd Kristian Thalai Pâwl - cymdeithas ieuenctid Gristnogol enfawr a gafodd ei sefydlu gan y cenhadwr o Gymru, y Parch. O W Owen, yn 1954

Canu

Mynd allan i ganu wnaethon ni - a chael y fraint o fod y côr cyntaf o Gymru i fynd i'r dalaith. Mae canu yn rhan annatod o ddiwylliant a chrefydd y Mizos, felly roedd hi'n hyfryd cael mynd a rhannu ein caneuon â nhw, a derbyn eu gwerthfawrogiad gwresog.

Yn ystod y gynhadledd, cawson ni glywed nifer o gorau yn canu a oedd yn ddiddorol iawn, gan fod ganddyn nhw arferion dra gwahanol i ni gorau o Gymru. Roedd pob côr yn canu i backing track, a phob emyn, am ryw reswm, yn swnio fel canu gwlad!

Y profiad mwyaf gwefreiddiol oedd ein perfformiad olaf ni yn y gynhadledd. Roedd y pafiliwn yn llawn - dros 20,000 o bobl - a'r un faint o bobl tu allan. Wrth i ni ganu, diffoddodd y golau, a dyma gannoedd o ffonau symudol yn cael eu goleuo yn y dyrfa. Roedd gweld yr olygfa hon wrth ganu o'r llwyfan, o gannoedd o sêr yn disgleirio drwy'r tywyllwch, yn rhywbeth anghofia i fyth!

Ffynhonnell y llun, Johny Khiangte
Disgrifiad o’r llun,

Côr CF1 yn canu yng ngolau cannoedd o ffonau symudol ar noson olaf y gynhadledd

Profiad anhygoel arall oedd canu 'Calon Lân' gyda chôr Synod Mizoram. Cawson ni gyfle i recordio'r emyn - nhw'n canu'r bennill gyntaf ym Mizo, ni'n canu'r ail yn Gymraeg a phawb yn ymuno i ganu'r bennill olaf a'r gytgan yn Gymraeg! Roedden ni hanner ffordd rownd y byd, ac roedd pobl yn canu emyn Gymraeg gyda ni... rhyfedd o fyd!

Crefydd

Er ein bod ni'n deall fod y rhan fwyaf o boblogaeth Mizoram yn Gristnogion - dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi amgyffred gwir gryfder eu cred.

Yn ystod y gynhadledd, roedd pobl yn gweiddi, dawnsio, mewn perlewyg ac yn rowlio ar hyd y llawr - oll wedi eu cymryd drosodd gan yr ysbryd glân. Roedd hyn yn amlwg yn rhywbeth dieithr iawn i'r rhai ohonom sydd wedi arfer â'r capel yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Osian Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dau o aelodau'r côr, Eilir ac Osian, wedi ffeindio eu hunain yng nghanol y cannoedd o bobl oedd yn dawnsio o flaen llwyfan y gynhadledd

Roedd rhai agweddau o'r gwasanaethau yn debyg i'r gwasanaethau adref - gan mai Capel y Cymry yw sail capeli Mizoram - ond eu bod wedi eu plethu â thraddodiadau cynhenid yr ardal. Roedd pregeth, gweddïo, darllen o'r Beibl, ac wrth gwrs, canu emynau.

Ond ynghyd â'r piano, roedd drwm mawr yn cyfeilio'r canu, a rhyddid i bobl godi o'u seddi a mynd i flaen y capel i ddawnsio mewn cylch anferth. Roedd nifer y bobl oedd yn gwneud hyn yn y gynhadledd yn anferthol - roedd hi'n edrych yn beryglus o brysur ar adegau.

Cyfleusterau

Roedd rhaid dod i arfer efo'r cyfleusterau, oedd braidd yn fwy sylfaenol na'r rhai rydyn ni wedi arfer â nhw... twll yn y llawr fel toiled, a bwced o ddŵr oer i gael cawod. Dyma rywbeth roedd pawb yn cael trafferth ag o - a mawr oedd ein diolch am y toilet gorllewinol yn Champhai!

Rhaid oedd cofio mynd â phapur toilet gyda ni i bob man, ac roedd defnydd mawr ar yr anti-bacterial gel (yn enwedig gan ein bod ni'n ysgwyd llaw efo gymaint o bobl...) Oll yn rhan o'r profiad, wrth gwrs, ond dwi'n falch o gael fy stafell 'molchi fy hun yn ôl!

Ffynhonnell y llun, Llio Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Aizawl - dinas ddyrus, liwgar oedd yn crogi o'r mynydd, gyda'r holl adeiladau yn pwyso ar stilts anferthol

Cyri

Roedd y bwyd yn hyfryd, er ychydig yn ailadroddus ar adegau - cyri i frecwast, cyri i ginio, cyri i dê... yn aml iawn yr un cyri... Dwi ddim yn siŵr os dwi am fwyta reis am ychydig eto, os dwi'n onest!

Crwydro

Dwi ddim yn meddwl wneith yr un ohonon ni fyth gwyno am yr A470 byth eto. Pan mae'n cymryd 13 awr i deithio 185km, ar hyd lonydd cul, tyllog, mynyddig, mae rhywun yn dod i werthfawrogi ffyrdd Cymru ychydig bach mwy.

Roedd steil yr Indiaid o yrru yn ddiddorol, a dweud yn lleia' - gyrru yng nghanol dwy lôn, tan i rywun ganu corn i ddweud eu bod eisiau pasio... ac os oedd yna gar yn dod i'ch cyfarfod chi, roedd hi'n bosib y byddech chi'n sownd yno am dipyn, gan fod neb yn fodlon symud!

Ffynhonnell y llun, Llio Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ardal fynyddig, gyda'r lonydd igam-ogam yn nadreddu ar draws y tir

Roedd traffig Kolkata yn anhygoel o wyllt, welis i fws orlawn bron â mynd ar ddwy olwyn gan ei fod wedi trio troi'n rhy gyflym, a moped, gyda babi yn eistedd rhwng y ddau deithiwr yn gwibio rhwng y cerbydau. Dydy rheolau iechyd a diogelwch ddim yn golygu fawr o ddim yno.

Camerâu / 'celebs'

'Naethon ni dreulio'n cyfnod ym Mizoram yn teimlo fel sêr - gan fod pawb yn tyrru aton ni i ysgwyd llaw neu i dynnu hunlun gyda ni. A dwi ddim yn sôn am un neu ddau, dwi'n sôn am ddegau ar ddegau o luniau a phobl. Roeddech chi'n gallu cael eich dal mewn cylch dieflig o 'jest un llun arall...' wrth i bobl giwio i gael llun.

Ffynhonnell y llun, Osian Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Steffan ambell i ffan...

Roedd y ffaith ein bod ni'n bobl wyn yn denu sylw, a'r ffaith ein bod ni'n Gymry yn eising ar y gacen! 'Sna neb wedi gofyn am lun gyda ni ers dychwelyd adre'...tybed pam?!

Cyfeillgarwch

Un o'n pethau fydd yn aros gyda mi am y daith hon fydd y cyfeillgarwch a'r cynhesrwydd a gafodd ei ddangos i ni gan drigolion Mizoram. Roedden nhw wrth eu boddau fod yna griw o Gymry wedi dod draw i ymweld, a mor gyffrous i gwrdd â ni.

Roedd pawb yn hynod groesawgar, a chawson ni nifer o wahoddiadau i ymweld â phobl - gan gynnwys brecwast yng nghartref Prif Weinidog Mizoram, a oedd yn brofiad braidd yn swreal!

Ffynhonnell y llun, Sioned Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Cyfeillion hen a newydd o Gymru a Mizoram

Gwnaethon ni nifer o ffrindiau, yn enwedig ag aelodau o gôr y Synod. Roedd ffarwelio â nhw'n emosiynol i nifer ohonon ni gan ein bod wedi cael profiadau mor arbennig gyda'n gilydd. Yn ffodus, mae modd cadw mewn cysylltiad ar wefan Facebook, a chael gweld yr hunluniau aneirif gafodd eu tynnu!

Profiad nad anghofiaf i fyth.