Dewin y Mwmbwls

  • Cyhoeddwyd

Mae'r newyddiadurwr Tweli Griffiths wedi ymddiddori mewn consuriaeth, ers pan ymwelodd â siop Gamages yn Llundain pan oedd yn blentyn. Yma mae'n adrodd hanes un consuriwr enwog o Gymru, Cardini, ac er gwaetha'i ddylanwad yn ei faes, does dim llawer wedi clywed ei hanes.

Mae pob gwlad yn hoff o frolio'u unigolion talentog. Anaml y bydd unrhyw un yn cyrraedd brig ei broffesiwn a dod yn fyd enwog, heb gydnabyddiaeth yn ei wlad ei hun. Ond dyna fu hanes Cardini.

Ychydig iawn o bobl Cymru sy wedi clywed am y dyn o'r Mwmbwls gafodd ei gydnabod, yn America a thu hwnt, fel un o'r consurwyr gorau a welwyd erioed.

'O blaned wahanol'

Yn ôl Lance Burton, un o gonsurwyr mwyaf Vegas heddiw, mae'n amhosib cymharu Cardini gyda pherfformwyr eraill. Roedd ei feistrolaeth o'r grefft yn profi meddai, ei fod 'o blaned wahanol i bawb arall'. Am hanner can mlynedd, o ganol y dauddegau tan ddiwedd y chwedegau, bu'n perfformio ar brif lwyfannau America a'r byd, tra'n gwneud sioeau preifat hefyd, i Arlywyddion yr UD, teulu brenhinol Prydain, - a hyd yn oed Al Capone!

Cafodd Richard Valentine Pitchford ei eni yn y Mwmbwls yn 1895. Yn ystod ei blentyndod, bu'r teulu'n byw hefyd yn Nhreharris a Chastell Nedd. Bu'n gweithio mewn pwll glo, ac, yn wyth oed, mewn lladd-dy.

Yn naw oed, cafodd swydd fel 'pageboy' yn y Park Hotel yng Nghaerdydd. Dyna lle ddechreuodd gymysgu gyda'r 'hustlers' oedd yn aml yn aros yn y gwesty - a dysgu sgiliau drwg wrthyn nhw, gan gynnwys dwyn o bocedi ar strydoedd y brifddinas. Byddai Fagin wedi bod yn falch ohono.

Ond dysgodd sgiliau hefyd fase'n allweddol i'w ffawd - oedd yn cynnwys trin cardiau, peli biliards, a sigarets. Un o'i hoff driciau oedd deifio i mewn i'r afon Taf, a dod allan gyda sigaret yn ei geg - wedi ei chynnau!

Effaith y rhyfel

Yn ystod y Rhyfel Byd Cynta, cafodd ei anfon i ffosydd y Somme, lle bu'n trio cadw'i ddwylo'n gynnes trwy ymarfer ei sgiliau. Ond wedi sioc ac anaf difrifol mewn ffrwydriad, treuliodd flwyddyn a hanner mewn ysbytai, gan gynnwys ysbyty meddwl i drin y trawma. Unwaith eto, byddai pac o gardiau yn ei ddwylo yn y ward bron drwy'r dydd.

Pan gafodd ei ryddhau, roedd gan yr awdurdodau gynllun i helpu cyn filwyr i ddod o hyd i waith. Pan ddatgelodd mai ei fwriad oedd bod yn gonsuriwr llawn amser, fe benderfynon nhw ei fod yn wallgo a cafodd ei anfon nôl i'r ysbyty meddwl.

Am gyfnodau byr, bu'n gweithio fel consuriwr yn Llundain, Awstralia, a Seland Newydd. Yn Llundain, bu'n gweithio ar stondin consuro yn siop Gamages - yr union siop lle dechreuodd fy niddordeb i ychydig dros 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Pan o'n i'n blentyn, mi oedd gen i Wncwl oedd yn Ficer mewn Eglwys Gymraeg yn Paddington. Ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au o'n i'n mynd i aros gyda fe ac yn cael mynd i ganol Llundain ac i siop Gamages. Roedd 'na stondin yn gwerthu triciau yno, a dyna'r stondin lle fuodd Cardini yn gwneud ei driciau yn y 1920au.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newyddiadurwr Tweli Griffiths wedi ymddiddori mewn consuriaeth ers pan oedd yn blentyn

'Cardini, the Suave Deceiver' - y Twyllwr Llyfn

Cyrhaeddodd America yn 1925, ei gartref tan iddo farw yn 1973. Anterth ei yrfa oedd cyfnod mwyaf llewyrchus Vaudeville, pan fabwysiadodd yr enw llwyfan 'Cardini'. Ond yn 1958, fe wnaeth un ymddangosiad teledu, sy'n ysbrydoliaeth hyd heddiw, i gonsurwyr ar draws y byd.

Yn y perfformiad hwnnw, mae'n actio rhan cymeriad oedrannus, braidd yn feddw, sy'n methu rheoli'r holl sigarets, peli biliards, a chardiau sy'n mynnu llenwi ei ddwylo, er gwaetha'i ymdrechion i gael gwared ohonyn nhw. Ei bortread o'r cymeriad yma oedd sylfaen ei bersona llwyfan, a chyfrwng ei fedrusrwydd anhygoel gyda 'sleight of hand'. Yr act hon arweiniodd iddo gael ei ddisgrifio fel 'Cardini, the Suave Deceiver', - y Twyllwr Llyfn.

Yn 1988, cafodd fideo 1958 ei ail ddarlledu ar un o sioeau teledu Paul Daniels. Cynhyrchydd y gyfres honno, John Fisher, yw awdur yr unig gofiant o Cardini, gafodd ei chyhoeddi yn 2007, a sy'n olrhain ei yrfa yn fanwl.

Roedd gwraig Cardini, Swan, yn cynorthwyo ei berfformiadau. Fe gawson nhw ddau o blant, Richard a Carole. Mae Carole yn ei saithdegau, ac yn byw yn America. Mae un o wyrion Cardini, Peter Pitchford, yn gonsuriwr hefyd, ac yn cynnal gwefan er cof am ei dadcu.

Arwahan o bosib, i Houdini, does dim un consurwr arall yn y byd wedi bod mor ddylanwadol yn ei faes, â Cardini. Does dim un consuriwr arall wedi ei gopïo gymaint gan berfformwyr eraill. Wrth dderbyn gwobr unwaith, cafodd ei ddisgrifio fel 'the greatest exponent of pure sleight of hand the world has ever seen'.

Ond fu na ddim cydnabyddiaeth o unrhyw fath iddo yng ngwlad ei febyd. Faint o bobl Cymru sy hyd yn oed wedi clywed amdano?

Mi fydd Tweli Griffiths, Karen Wyn, Paul Edwards a Cefin Roberts yn trafod Cardini, ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru, ddydd Mawrth 29 o Fawrth am 12.00

Hefyd gan y BBC