Addysg Caerdydd: Dim mwy o ymyrraeth, medd Estyn

  • Cyhoeddwyd
Addysg

Ni fydd angen mwy o ymyrraeth gan arolygwyr yng ngwasanaethau ysgolion Caerdydd wedi i'r Prif Arolygydd Addysg ddod i'r casgliad ei fod wedi gwneud "cynnydd digonol".

Daeth adroddiad gan Estyn ym mis Chwefror 2014 i'r casgliad bod angen i wasanaethau addysg y cyngor "wella'n sylweddol".

Ond yn dilyn nifer o gyfarfodydd monitro, mae'r gwasanaeth wedi gwneud cynnydd wrth gyrraedd chwe argymhelliad penodol.

Mae hyn yn golygu fod pob un awdurdod lleol yng Nghymru'n ddigon da i beidio gorfod bod yn destun camau pellach, er mai dim ond un awdurdod sydd wedi ei ddisgrifio fel un sydd yn cynnig gwasanaeth gwych.

Ers mis Rhagfyr 2015 mae pedwar awdurdod lleol wedi dod allan o fesurau arbennig, sef categori gwaethaf y gall yr arolygwyr ei osod ar awdurdod.

Caerdydd yw'r awdurdod addysg mwyaf yng Nghymru, ac roedd wedi ei osod yn y safle isaf ond un gan Estyn.

Ond bellach mae'r Prif Arolygydd Addysg wedi dweud fod yr awdurdod wedi llwyddo i gryfhau ei wasanaethau addysg, er bod angen mwy o waith ar rai agweddau o'r gwasanaeth.

Gwelliant

Mae gwelliant wedi bod mewn safonau ymysg disgyblion 14 i 16 oed, ond dywedodd arolygwyr bod gormod o wahaniaeth yn dal i fod rhwng perfformiad ysgolion y brifddinas.

Dywed Estyn bod y cyngor wedi cymryd camau "cryf ag amserol" i leihau gwaharddiadau disgyblion o ysgolion.

Ond mae perfformiad y gwasanaeth addysg wrth geisio lleihau'r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant ymysg y gwaethaf yng Nghymru.

Mae'r cyngor wedi gwella'r gefnogaeth mae'n ei gynnig i ysgolion "ond mae perfformiad ambell i ysgol uwchradd yng Nghaerdydd yn dal yn bryder sylweddol".

Yn ystod y tri mis diwethaf, mae cynghorau Blaenau Gwent, Merthyr, Sir Fynwy a Thorfaen i gyd wedi dod allan o fesurau arbennig.

Gwasanaethau ysgolion Cyngor Ceredigion yw'r unig un yng Nghymru i gael ei ddisgrifio fel gwasanaeth gwych yn dilyn arolwg ym mis Chwefror 2014.