Tafarn adnabyddus Y Ring yng Ngwynedd yn ailagor ei drysau

Llun o aelodau Menter y Ring y tu allan i dafarn y Brondanw ArmsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn y Brondanw Arms, neu Y Ring, yn ailagor ei drysau ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae un o dafarndai mwyaf adnabyddus Gwynedd yn ailagor ei drysau ddydd Sul ar ôl ymdrech "anhygoel" gan y gymuned.

Dywedodd y fenter fu'n gyfrifol am yr ymgyrch fod dros 900 o bobl leol ac o dramor wedi codi mwy na £216,000 i brynu les tafarn y Brondanw Arms, sy'n cael ei hadnabod fel 'Y Ring'.

Mae wedi bod yn rhan ganolog o'r gymuned ers y 17eg ganrif, ac wedi bod trwy gyfnod hir o ansicrwydd.

"Mae'r gefnogaeth 'di bod yn anhygoel, dim o'r ardal leol yn unig ond o dramor hefyd - o Gymru ac ymhellach i ffwrdd," meddai is-gadeirydd Menter y Ring, Llio Glyn Griffiths.

Brondanw Arms, LlanfrothenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llio Griffiths eu bod wedi gwario ar hanfodion megis bar newydd ac ailwefru, ond gwirfoddolwyr a'r gymuned sydd wedi eu helpu i agor erbyn yr haf

Fe gaeodd drysau'r dafarn "eiconig" ym mis Medi.

Yna, penderfynodd aelodau'r gymuned ddod ynghyd a ffurfio corff o'r enw Menter y Ring, gan obeithio prynu'r les a throi'r dafarn yn un gymunedol.

Roedd yr ymateb yn "anghredadwy deud y gwir", meddai Llio Griffiths.

"'Da ni dal methu credu faint o fuddsoddwyr sy' 'di bod a'r holl ymdrech gan bawb."

Yn ôl y fenter mae dros 900 o bobl wedi buddsoddi - y rhan fwyaf o Wynedd, ond mae bron i 300 ohonyn nhw o du hwnt i'r ardal leol.

"Os ydy pobl yn gofyn i chdi 'o le tin dod?' A ti'n d'eud 'Llanfrothen' – 'o da chi'n gwbod y Ring!?' Mae'n eiconig," meddai Llio.

"Dim ots os ti'n wyth neu'n 80, ma'r Ring yn cynnig rhywbeth i bawb – dim ots be 'di dy gefndir di.

"Mae'n rhywle ma' pawb yn gwatchad allan am ei gilydd."

Cyfarfod yn y Brondanw ArmsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd yr ymgyrch £216,450 i brynu les y dafarn

Dywedodd hefyd mai dyma'r lle i fod ar gyfer "gigiau eiconig a chymuned Gymraeg".

"Mae'r ardd gwrw yn anhygoel yn edrych allan dros yr Wyddfa – ma' wir yn le sbesial a 'da ni methu aros i weld hi'n ailagor dydd Sul."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig