Lluniau: Dydd Iau yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Dydd Iau oedd y diwrnod gwlypaf o'r wythnos hyd yma ar y Maes, ond fe ddaeth yr haul i'r golwg ar ôl amser cinio.
Y Fedal Ddrama oedd prif seremoni'r dydd, ond roedd digon o liw drwy gydol y dydd hefyd.
Dyma rai o luniau'r dydd:

Roedd heddiw#n ddiwrnod emosiynol i Jean Rhodes o Albuquerque, New Mexico, sydd wedi bod yn dod i'r Eisteddfod ers 1956. Dyma'r diwrnod olaf iddi erioed gamu i'r pafiliwn ar ei diwrnod olaf un ar Faes yr Eisteddfod, gan iddi benderfynnu mai eleni fydd y tro olaf iddi ymweld â'r Brifwyl

Grŵp llefaru Coleg Cambria yn barod i gamu ar lwyfan Maes D

Daeth y glaw ac roedd rhaid cael ymbarél ar y Maes

Mared yn perfformio ar lwyfan Pentref Wrecsam

Dau o swyddogion Heddlu'r Gogledd yn mwynhau smŵddi

Wedi'r glaw, daeth yr haul ac roedd yn rhaid i Betsi gael ei sbetol cŵl allan

Hen Faledi yn cael eu perfformio gan Gwilym Bowen Rhys yn y Tŷ Gwerin

Noa ac Elis o Langefni yn mwynhau gwisgo fyny mewn dillad hanesyddol ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol

Beti a Bobi o'r Wyddgrug yn gwlychu ei Taid, Cledwyn Ashford gyda'i gynau dŵr. Mae Cledwyn yn ran o dîm y Prif Stiward ac fe fydd yn rhoi'r gorau idi eleni wedi 18 mlynedd

Caleb Nicholas yn ennill Ysgoloriaeth Osborne Roberts

Cymdeithas Cymru-Ariannin yn gorymdeithio drwy'r Maes ac yn dathlu 160 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa. Mae'r Poncho yn un gwreiddiol o Orsedd y Wladfa

Dewi Bryn Jones oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg eleni

Lily Beau yn diddanu'r dorf ar Lwyaf y Maes yn ystod y prynhawn

Greta Siôn o Waelod-y-garth, Caerdydd, enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 awr yn ôl