Sîn celf weledol y gogledd yn 'gryfach o achos diffyg buddsoddiad'

Un o ddarnau celf Barnaby Prendergast - stôl bren wedi ei ffurfio o ffyn brown tywyll ond mae'r tri choes wedi eu hamgylchu â deunydd lliw arian
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r darnau a enillodd un o brif wobrau celf Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i'r artist ifanc Barnaby Prendergast

  • Cyhoeddwyd

Dydy'r sîn celfyddydau gweledol erioed wedi bod yn gryfach yng ngogledd Cymru, yn ôl artistiaid o'r rhanbarth.

Mae hynny, medden nhw, yn rhannol oherwydd diffyg buddsoddiad.

Mae dau o enillwyr gwobrau celf Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn hanu o Fynydd Llandygai ger Bangor.

Enillodd Gareth Griffith, 84, y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, a Barnaby Prendergast oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen.

Ac o ardal Rhuthun yn Sir Ddinbych y daw enillydd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, Verity Pulford.

Yn ôl un o'r detholwyr, yr artist Bedwyr Williams, mae gogledd Cymru yn lle perffaith i artist ddatblygu oherwydd mae'n bosib osgoi "llygaid y llywodraeth", sy'n rhoi mwy o ryddid creadigol.

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod wedi rhoi tua £1.3m o arian cyhoeddus i sefydliadau celf weledol yn gogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, a £3.6m i'r sector dros Gymru gyfan.

Disgrifiad,

Mae Bedwyr Williams yn obeithiol iawn am sîn celfyddydau gweledol y gogledd

Symudodd Bedwyr Williams, sy'n hanu o Lanelwy ac wedi cynrychioli Cymru yn y Biennale yn Fenis, yn ôl i'r gogledd yn 1999.

Gan gyfeirio at ddatblygiadau o fewn y maes ers hynny, dywed bod "lot o artistiaid ifanc yn penderfynu byw yng ngogledd Cymru a gweithio fa'ma".

"Mae pobl Cymraeg, ar y cyfan, yn fwy switched on efo cerddoriaeth a barddoniaeth na maen nhw efo celf.

"O'n i'n meddwl bod hwnna'n rheswm da i symud yn ôl achos mae bod yn artist yn lleoliad lle mae pobl ddim hynny bothered, actually yn fwy o hwyl."

Bedwyr Williams yn ystod seremoni wobrwyo cystadlaethau celf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Bedwyr Williams (canol) yn ystod seremoni wobrwyo cystadlaethau celf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam

Mae'r sîn o amgylch Wrecsam yn benodol, meddai, yn arbennig o fywiog.

"Dwi'n meddwl bod y pêl-droed yn un peth, ond dwi'n meddwl bod pobl yn actually teimlo bod investing yn y sîn yn beth bwysig.

"Dwi'n meddwl rŵan mae pobl yn 'chydig llai driven efo'r farchnad, efo isho gwerthu.

"Mae pawb isho gwerthu, ond 'wyrach bod pobl yn meddwl bod bod yn rhan o sîn mwy grassroots yn bwysig."

'Symud i Wrecsam oherwydd y sîn gelfyddydol'

Canolfan gelfyddydau Tŷ Pawb yng nghanol Wrecsam wnaeth guradu Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae swyddog marchnata'r ganolfan, Gareth Thomas, yn cytuno bod 'na "buzz" ynghylch Wrecsam - a'r gogledd yn fwy cyffredinol – ar y foment.

"Mae 'na sîn cryf, yn bendant," meddai.

Gareth Thomas yn Lle Celf Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae safleoedd celf newydd yn agor o hyd, medd Gareth Thomas, ac yn denu ymwelwyr

"Mae 'na lefydd newydd yn agor o hyd - a'r ffaith bod artistiaid yn arddangos ynddyn nhw, a phobl yn mynd i'w gweld nhw.

"Mae'n wir dros Gymru i gyd, dwi'n meddwl, ond yn enwedig yn y gogledd mae 'na sîn cryf ar y funud.

"Dyna'r rheswm nes i symud i Wrecsam fy hun."

Gareth Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Gareth Griffith, sy'n hanu o Gaernarfon, gyfnodau yn Lerpwl a Jamaica cyn dychwelyd i Gymru a dysgu celf mewn ysgolion yn ardal Bangor

Dywedodd Gareth Griffith, enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, bod y sîn wedi dod ymlaen yn y gogledd ers y 1970au, pan symudodd yntau yn ôl yno i weithio a byw.

"Mae 'na lot o bethau'n digwydd," meddai.

"Mae artistiaid yn mynd at ei gilydd i ffurfio grwpia' bach anffurfiol neu gydweithio. Mae 'na ysbryd go dda yma, d'eud y gwir."

Mae'r artist aml-gyfrwng yn arddangos dros 20 o ddarnau yn y Lle Celf.

Yn eu plith mae llun mawr o'r arlunydd wedi'i baentio ar ddrychau, gyda lluniau llai o bobl a digwyddiadau arwyddocaol o'i gwmpas.

Rhan o arddangosfa crys gwaith Gareth Griffiths - paentiad o grys brown dan grys go iawn sy'n hongian uwch ei ben, a phaentiad o grys oren o flaen cyfres o ddarliniau bach amrywiol,
Disgrifiad o’r llun,

Blas o arddangosfa crys gwaith Gareth Griffiths yn Lle Celf yr Eisteddfod eleni

Mae cyfres o ddarluniau o grys gwaith a gafodd Gareth gan ei fab hynaf fel anrheg hefyd yn cael eu harddangos.

"Pan o'n i'n hogyn bach oedd celf i fod yn arlunio a phaentio," dywedodd.

"Oeddach chi'n gorfod cael ryw ddawn arbennig, felly doedd o'm yn cael ei cysidro fel r'wbath naturiol bysa rywun yn gallu mynegi ei hun fatha dawnsio a chanu.

"[Fel] Cymru gwlad y gân 'dan ni'n cael ein cydnabod - dwi'n meddwl mae 'na ddipyn go lew o ffordd i fynd.

"Ond mae [gwobr ryngwladol] Artes Mundi yn r'wbath ffantastic, 'di dechra' yng Nhgymru, sy'n codi proffil y celf weledol."

Barnaby Prendergast, dyn ifanc â gwallt golau byr
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Barnaby Prendergast i Ysgol Friars, Bangor cyn mynd i'r brifysgol ym Mryste

Daeth Barnaby Prendergast, 22, i'r brig yng nghystadleuaeth yr ysgoloriaeth artist newydd ar ôl cyflwyno tri darn o waith i'r Lle Celf.

Yn ddiweddar, mae wedi symud yn ôl i Fynydd Llandygai o Fryste.

"Y rheswm rydw i wedi symud yn ôl ydy i fod yn safe hands fy mam a fy nhad," meddai.

"Hefyd mae 'na adeilad dwi'n ail-drefnu i'w wneud yn stiwdio gelf.

"Mae llawer mwy yn digwydd nag oedd arfer bod rownd fa'ma.

"Dwi'n meddwl bod mwy o buzz am y gogledd rŵan, yn bendant."

Arwydd Y Lle Celf - ysgrifen lliw gwyn ar gefndir coch - o flaen pabell fawr streipiau glas a melynFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Y Lle Celf ydy canolbwynt y celfyddydau gweledol ar faes yr Eisteddfod

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: "Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi rhannu bron i £3.6m o arian cyhoeddus i sefydliadau celf weledol ar draws Cymru, ac mae'r sefydliadau o'r gogledd yn derbyn tua £1.3m o hwnnw, yn ogystal â'r arian sy'n cael ei gynnig i brosiectau ac unigolion drwy grantiau Loteri.

"Rydym eisoes wedi cyhoeddi bod Cyngor y Celfyddydau yn cael ei ailstrwythuro mewn ymateb i adborth gan staff a'r sector."

Ychwanegodd fod "adolygiad strategol o'r celfyddydau gweledol" yn cael ei gynnal.

"Rydym yn croesawu adborth gan y sector bob amser ac yn edrych ymlaen at barhau i roi lle canolog i gelf weledol yn ein cefnogaeth o'r celfyddydau."

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut i ddosbarthu arian i sefydliadau celfyddydol.

"Rydym wedi cynyddu gwariant dyddiol ar y sector diwylliant ehangach 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl, gan gynnwys cyflwyno cronfa newydd o £8m ar gyfer cyfleusterau celfyddydol a buddsoddi £26.5m yn ailddatblygu Theatr Clwyd," meddai llefarydd.

"Mae mynediad democrataidd at gelf gyfoes a'r casgliad cenedlaethol o'r pwys mwyaf, a dyna pam mae sefydlu Celf, Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru, yn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu.

"Mae'n cynnwys model gwasgaredig o orielau ledled Cymru, yn ogystal â digideiddio celf ar blatfform Celf."