Lluniau: Dydd Sadwrn yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Roedd dydd Sadwrn y diwrnod mwyaf gwyntog eto ar faes Eisteddfod Wrecsam, ond er hynny roedd yr haul dal i dywynu ar gaeau Is-y-coed.
Dyma rai o luniau diwrnod olaf y Brifwyl am eleni.

Einir a Nanw, o Gerrigydrudion, yn y Peiriant Amser. Fyddech chi'n mynd yn ôl mewn amser i ddechrau'r wythnos i gael profi'r Eisteddfod i gyd eto?!

Mae Beca a Nel yn crwydro'r Maes yn hyrwyddo'r Coleg Cymraeg.

Yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg mae cyfle i fynd ar daith drochol i fyd natur Cymru gyda setiau VR a chyfnasoddiad o symffoni arbennig sef, Seiniau Gwyllt Cymru: Bywyd yn y Coed .

Dr Owain Llwyd sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth sy'n cael ei pherfformio gan Gerddorfa Welsh National Opera, sy'n brofiad 360° o fyd natur Cymru.

Yn Y Babell Lên, Sharon Morgan a Steffan Rhodri oedd yn sgwrsio am wreiddiau gyrfa Richard Burton ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant dan arweiniad Daniel G. Williams.

Y Lle Celf: Cysur Keltaidd gan Gwyn Williams. Fyddech chi'n gwisgo trôns fel hwn?

Y Lle Celf: Dylan Huw oedd yn arwain sgwrs gyda'r awdur ac artist Esyllt Lewis, enillydd gwobr Ifor Davies yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am ei pherfformiad llafar 'Blobus a Phryderon Eraill'.

Daeth cannoedd o Eisteddfotwyr at Lwyfan y Maes i wylio gêm bêl-droed Wrecsam yn erbyn Southampton lle'r oedd Nic Parry a Malcom Allen yn sylwebu'n fyw o'r llwyfan.

Dywedodd Malcom fod y dorf yn gwrando'n astud ar y sylwebaeth cymaint nes bod rhaid iddo "checkio bod nhw dal yno!"

'Dych chi byth rhy hen i fwynhau gêm o bêl-droed yn yr haul!

Aeth Rhys, Sian, Ses ac Elis o Ruthun i gael cip ar gêm bêl-droed Wrecsam ar sgrin fawr Llwyfan y Maes yn yr haul. Roedden nhw wedi mwynhau er gwaetha'r canlyniad!

Sapphire, Idris a Teifi yn mwynhau un o'r nifer o lefydd da i dynnu llun ar y Maes!

Mae Caffi Maes B wedi bod yn boblogaidd iawn drwy'r wythnos i glywed trafodaethau, perfformiadau byw a chomedi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl