Pan cafodd Brenhines Romania ei hurddo i'r Orsedd...

Brenhines Maria (gyda'r blodau) pan cafodd ei hurddo, gyda'r Foneddiges Margaret Lloyd George (dde) a Winifred Coombe-Tennant (ail o'r dde) a ddaeth yn Feistres Gwisgoedd yr Orsedd
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Llun a ddydd Gwener yr Eisteddfod, mae aelodau newydd yn cael eu hurddo i'r Orsedd bob blwyddyn, am gyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru.
Y dyddiau yma, rhaid i bob aelod allu siarad Cymraeg, ond ganrif yn ôl, roedd y meini prawf yn llawer llacach, ac mae'n ymddangos fod unrhyw un bron yn gallu dod yn aelod...
Yn Eisteddfod Pwllheli yn 1925 cafodd y Frenhines Maria o Romania ei derbyn i'r Orsedd, fel Mari Gwalia, tra'i bod ar ei gwyliau yng Nghymru.
Fideo o'r Frenhines Maria yn cael ei hurddo i'r Orsedd ac ar wyliau ym Mhorthmadog
Er iddi gael ei geni yng Nghaint yn Lloegr, ymgartrefodd yn Romania ar ôl priodi'r tywysog Ferdinand, a ddaeth yn frenin yn 1914.
Roedd hi'n frenhines gefnogol i'w gwlad mabwysiedig, yn enwedig yn ystod cyfnod cythryblus y Rhyfel Byd Cyntaf, lle'r oedd hi'n helpu gyda'r Groes Goch ac yn cynnig cyngor i'w gŵr am benderfyniadau gwleidyddol yn ymwneud â'r rhyfel.
Yn ystod ei gwyliau yma, ymwelodd â'r Wern ym Mhorthmadog, cartref perchennog chwarel Llechwedd, Richard Metheun Greaves.
Roedd yna sicr barch tuag ati yn ôl sylw yng nghylchgrawn Cymru am ei hymweliad â'r Eisteddfod:

Pwt am y digwyddiad yng nghylchgrawn Cymru (Cyfrol LXIX) o 1925
Yn ddiddorol, nid hi oedd yr unig Frenhines o Romania a gafodd ei hurddo ; roedd y Frenhines Elisabeth wedi ei derbyn i'r Orsedd 35 mlynedd ynghynt.
Elisabeth oedd gwraig Brenin Carol I, a oedd wedi mabwysiadu ei nai, Ferdinand (a ddaeth yn ddiweddarach yn Ferdinand I), er mwyn parhau â'r llinach ar ôl i'w hunig ferch farw.
Yn haf 1890, treuliodd y Frenhines Elisabeth bump wythnos yn aros yng ngwesty'r Adelphi (bellach y Marine) yn Llandudno am gyfnod o adferiad, ar ôl argymhelliad gan Dywysog Cymru.
Treuliodd ei chyfnod yn cymdeithasu gyda rhai o deuluoedd bonheddig y gogledd, fel teulu Mostyn, ac yn mynd am de draw i Gastell Penrhyn.
Cafodd fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn ystod ei chyfnod yma.
Mae sôn ei bod eisoes yn gyfarwydd â'r Gymraeg a'i diwylliant gan mai ei hathro yn ei hieuenctid yn Yr Almaen oedd yr ieithydd a'r polyglot enwog, Georg Sauerwein.
Cafodd ei hurddo o dan yr enw Carmen Sylva, sef yr enw roedd hi'n ei ddefnyddio wrth ysgrifennu traethodau, nofelau a cherddi. Hi hefyd gyflwynodd y Gadair i'r bardd o Landudno, Thomas Tudno Jones.

Y Frenhines Elisabeth, neu Carmen Sylva, yn Llandudno
Cymerodd drigolion y dref Elisabeth i'w calonnau - roedd cyngerdd swyddogol i ffarwelio â hi a gorymdeithiodd blant lleol heibio'r gwesty pan roedd yn amser iddi adael.
Gadawodd ei hôl ar Landudno, gyda thair stryd wedi ei henwi er teyrnged iddi; Ffordd Carmen Sylva, Roumania Drive a Roumania Crescent.
Ac mae'n debyg mai cyfieithiad o'i sylwadau wrth adael Llandudno - 'a beautiful haven of peace' - yw arwyddair y dref wyliau hyd heddiw; Hardd, Hafan, Hedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Medi 2023
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022