Hanner Marathon: Dewi Griffiths yn barod am yr her

  • Cyhoeddwyd
Dewi GriffithsFfynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Griffiths yw'r unig Gymro yn nhîm Prydain

Bydd miloedd o redwyr yn heidio i Gaerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer ras Hanner Marathon y Byd.

Yn eu mysg bydd Mo Farah, enillydd dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd, gan ymuno â 200 o athletwyr gorau'r byd a hyd at 25,000 o redwyr amatur i rasio ar y llwybr cyflym a gwastad o amgylch y brifddinas.

Dewi Griffiths, rhedwr 24 oed o Lanfynydd yn Sir Gaerfyrddin, yw'r unig gynrychiolaeth o Gymru yn nhîm Prydain - sy'n cynnwys pum dyn a phum dynes.

"Hwn yw'r tro cynta' i fi redeg ar hewl a fi erioed wedi gwneud y bencampwriaeth o'r blaen," meddai.

"Fi fydd y Cymro cynta' erioed i wneud y ras [fel rhan o dîm Prydain]."

Bydd yn rhedeg ochr yn ochr â Mo Farah, am ryw hyd o leia': "Sa'i 'di cael cyfle i siarad yn iawn ag e ond ma' pawb moyn cael gair allan ohono fe ond fi jyst yn gadael e fod a peidio haslo fe!"

Mae'n dweud mai ei nod yw rhedeg yn gynt nag o'r blaen - ond nid yw'n gosod unrhyw darged pendant.

Mo Farah
Disgrifiad o’r llun,

Mae Farah wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd

'Mo yn Ysbrydoli'

Caerdydd 2016 fydd y digwyddiad athletau mwyaf yng Nghymru ers cynnal Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad 1958 yn y brifddinas.

Yn rhan o'r digwyddiad, bydd Farah yn cyfarfod â disgyblion rhai ysgolion lleol, gyda chyfle i'r plant sgwrsio gyda'r rhedwr a'i holi cyn y ras fawr.

Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen Prifysgol Caerdydd, sy'n cefnogi pobl ifanc sy'n cael eu tangynrychioli ym maes addysg traddodiadol, drwy gynnig gweithgareddau.

Linebreak
Hanner marathon
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl miloedd o bobl i ddod i wylio'r ras drwy ganol y ddinas

Rhybudd traffig

Bydd y ras yn golygu cau ffyrdd yn y ddinas, ac mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi canllaw i deithwyr, dolen allanol ar gyfer y penwythnos.

Bydd ffyrdd yng nghanol y ddinas yn cau yn oriau man bore Sadwrn, wrth i brif ras y merched ddechrau am 13:35, a prif ras y dynion am 14:10.

Mae gwaith ar y rheilffyrdd hefyd wedi ei gynllunio rhwng Caerdydd a'r Cymoedd nos Sadwrn, ac mae'r cyngor yn rhybuddio y gallai effeithio ar bobl sy'n teithio allan o'r brifddinas ddydd Sul.

Dywedodd llefarydd y byddai bysiau yn rhedeg yn lle trenau ar adegau.

Mae'r cyngor hefyd yn gofyn i siopwyr osgoi gyrru i mewn i Gaerdydd rhwng 11:00 a 14:30.