Darganfod dolffin wedi marw ar draeth ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
dolffinFfynhonnell y llun, Ali Chedgy/Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae dolffin wedi marw ar ôl mynd yn sownd ar draeth yng Ngheredigion, er gwaethaf ymdrechion i achub yr anifail.

Bu farw'r dolffin yn Ynyslas, ger Aberystwyth, cyn i Wylwyr y Glannau ei ddychwelyd i'r môr.

Fe wnaeth syrffwyr alw Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl iddynt weld y dolffin, a gredir oedd tua 18 mis oed, ar 18 Mawrth.

Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gwblhau er mwyn helpu i ddeall sut daeth y dolffin yn sownd.

Ffynhonnell y llun, Ali Chedgy/Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffynhonnell y llun, Ali Chedgy/Cyfoeth Naturiol Cymru