Cais i sefydlu cartref newydd i gymuned teithwyr a Sipsiwn
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd cyngor sir yn darparu safle a chartref newydd i deuluoedd teithwyr a Sipsiwn yn ardal Casnewydd.
Bwriad cyngor y ddinas yw sefydlu safle yn ardal Llanwern ar gyfer teuluoedd sydd ar hyn o bryd yn aros ar safleoedd heb ganiatâd swyddogol.
Casnewydd yw'r ardal yng Nghymru gyda'r nifer uchaf o wersylloedd anghyfreithlon, ac yn 2009 roedd 28 allan o 30 o garafannau wedi eu parcio yn anghyfreithlon.
Fe fydd y cais i leoli safle teithwyr yn Ffordd Hartridge yn cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Casnewydd yn y dyfodol agos.
Yn ôl gofynion deddf newydd mae'n ofynnol i bob cyngor sir yng Nghrymu i ddarparu llety ar gyfer cymunedau teuluoedd teithwyr a Sipsiwn.