Cytundeb £372m yn diogelu 470 o swyddi yn Awyrlu'r Fali
- Cyhoeddwyd
Dywed Y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd buddsoddiad o £372 miliwn mewn awyrennau Hawk yn help i ddiogelu 700 swyddi ym Mhrydain, tua 470 ohonynt yng nghanolfan yr Awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn.
Yn ôl llefarydd, bydd y cytundebau pum mlynedd yn "chwarae rhan bwysig yn darparu cyfres o wasanaethau i awyrennau Hawk mewn meysydd awyr yng Nghymru, Sir Efrog, Sir Gaerhirfryn, Sir Lincoln, Gwlad yr Haf a Chernyw.
Mae un cytundeb gwerth bron £300 miliwn wedi ei roi i BAE Systems er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw a gwaith ôl-gynlluio ar gyfer yr Hawk TMki a'r TMKs.
Yr awyren Hawk sy'n cael ei defnyddio ar gyfer hyfforddi peilotiaid.
Dywedodd Philip Dunne, Gweinidog yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, fod y cytundebau'n cynnwys gwaith "dylunio'r awyren ac unrhyw addasiadau sydd eu hangen ar ôl hynny."
Ychwanegodd Mr Dunne y bydd BAE Systems yn defnyddio eu canolfan yn Y Fali fel y brif ganolfan ar gyfer y gwaith yma.
Buddsoddiadau
Mae un o'r cytundebau eraill, gwerth £79 miliwn, ar gyfer injans Rolls-Royce fydd yn help i ddiogelu 40 o swyddi ar safleoedd yn Y Fali a Filton, Bryste.
Fe fydd y cytundeb gyda Rolls-Royce yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i'r injans 'Adour' sy'n cael eu defnyddio gan awyrennau Hawk.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru: "Mae'r cyhoeddiad yn tanlinellu'r effaith bwysig mae penderfyniadau'r llywodraeth i gynyddu cyllid ar amddiffyn yn ei gael ar y sector yng Nghymru.
"Dim ond drwy lynu at y cynllun economaidd hirdymor y mae'r llywodraeth yn gallu gwneud buddsoddiadau o'r fath.
"Mae'r cytundebau hyn yn cynnal cannoedd o swyddi o sgiliau uchel yng ngogledd Cymru, ac yn sicrhau fod Awyrlu'r Fali, sy'n cyflogi 470, yn cadw ei henw da fel canolfan ar gyfer gwasanaethau sy'n cynorthwyo'r lluoedd arfog."
'Newyddion da'
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Llun, mi fu arweinydd Cyngor Môn, y cynghorydd Ieuan Williams, yn croesawu'r buddsoddiad.
"Mae'n newyddion da, wrth gwrs," meddai. "Mae'n fuddsoddiad tymor hir, rhyw bum mlynedd. Mae'n gredyd, dwi'n meddwl, i'r gweithwyr yno. Mae hefyd yn fuddsoddiad i'r cwmnïau 'ma.
"Mi fydd o'n golygu pethau fel hyfforddiant, prentisiaethau, y math yna o beth."