Sicrhau arian digonol gan y Trysorlys 'am fod yn heriol'
- Cyhoeddwyd
Bydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd yn wynebu talcen caled wrth geisio sicrhau arian digonol o'r Trysorlys, yn ôl arbenigwr gwleidyddol.
Gyda'r ymgyrch etholiadol yn dechrau o ddifrif, mae pryderon y gallai Cymru fod ar ei cholled gyda mwy o doriadau i wariant cyhoeddus a newidiadau i'r system o ariannu Llywodraeth Cymru.
Bydd etholwyr yn dewis Cynulliad newydd ar 5 Mai.
Yn ôl Ed Gareth Poole o Ganolfan Lywodraethant Gymru, mae'n debyg taw datganoli trethu - a'r sgil-effeithiau i gyllideb Llywodraeth Cymru - fydd yn "diffinio" y pumed Cynulliad.
Yn ogystal â'r dreth stamp a threth tirlenwi, sy'n cael eu pasio i Fae Caerdydd yn 2018, fe fydd rheolaeth dros 10p yn y bunt o dreth incwm yn dilyn rhywbryd yn ystod y pum mlynedd nesaf.
'Dadleuol'
"Mae'r modd y bydd cyllideb Cymru yn cael ei newid er mwyn nodi'r trethu newydd yma yn debyg o fod yn hynod o ddadleuol, ac yn esgor ar drafodaethau anodd â'r Trysorlys," meddai Mr Poole.
Fe allai trefn newydd sy'n anfanteisio Cymru "arwain at golled dros amser o gannoedd o filiynau o bunnoedd", rhybuddiodd.
"Bydd swydd y gweinidog cyllid yn y pumed Cynulliad felly yn un anodd ac uchel ei broffil," meddai.
Er bod cynlluniau presennol Llywodraeth Prydain yn awgrymu codiad bychan - cyn ystyried chwyddiant - yng nghyllideb llywodraeth Cymru, roedd hyn yn ddibynnol ar iechyd cyffredinol yr economi rhyngwladol, rhybuddiodd Mr Poole.