Wrecsam yn ail-gymryd rheolaeth o stadiwm y Cae Ras
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Wrecsam wedi pleidleisio o blaid i'r clwb ail-gymryd rheolaeth o stadiwm y Cae Ras.
Bydd y clwb, gafodd ei brynu gan y cefnogwyr yn 2011, yn rhedeg y stadiwm o ddydd i ddydd ar les 99 mlynedd.
Cafodd stadiwm y Cae Ras ei adeiladu yn 1807, ac mae'n cael ei gydnabod fel y stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd.
Bydd y clwb yn rhentu'r stadiwm gan Brifysgol Glyndŵr, wnaeth brynu'r stadiwm ym mis Awst 2011.
Roedd pob un o 4,129 o berchnogion y clwb yn gymwys i bleidleisio ar benderfyniad Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam nos Fawrth.
Fe wnaeth 777 bleidleisio o blaid cymryd rheolaeth o'r stadiwm, gyda 11 yn erbyn ac un yn dewis peidio pleidleisio.