Cyflog Byw Cenedlaethol yn dod i rym
- Cyhoeddwyd
Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn dod i rym ddydd Gwener gan olygu codiad yn nhâl rhai gweithwyr.
Mae'r newid yn golygu bydd unrhyw un dros 25 oed sydd ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn cael 50c yr awr yn fwy pan fydd yn cynyddu o £6.70 i £7.20.
Dyma godiad cyflog o hyd at £900 y flwyddyn i weithwyr llawn amser sydd ar yr isafswm cyflog ar hyn o bryd, meddai Llywodraeth y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Mae Llywodraeth y DU yn credu'n gryf fod pobl weithgar Prydain yn haeddu codiad cyflog, a bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn sicrhau bod hyn yn digwydd."