Lansio papur newydd dwyieithog yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Papurau newyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd papur newydd dwyieithog, y Ceredigion Herald, yn cael ei lansio ddydd Gwener.

Dywedodd y cyhoeddwyr, Papurau Newydd yr Herald, y byddai'n cael ei gyhoeddi yn bennaf yn Saesneg ond gyda "mwy o gynnwys Cymraeg" na phapurau wythnosol eraill.

Mae'r grŵp nawr yn cyhoeddi pedwar papur yn yr ardal, wrth i'r Ceredigion Herald ymuno â'r Pembrokeshire Herald, y Carmarthenshire Herald a'r Llanelli Herald.

Bwriad y papur yw canolbwyntio ar yr ardal rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Yn ôl y cyhoeddwyr, bydd tri neu bedwar tudalen yn y Gymraeg pob wythnos, a bydd llythyrau a cholofnau yn cael eu derbyn hefyd.