Protest yn erbyn cynllun 700 o dai ar Fynydd Caerffili

  • Cyhoeddwyd
Protest CaerffiliFfynhonnell y llun, Kirsty Luff

Mae tua 400 o bobl wedi bod yn protestio yn erbyn cynlluniau i adeiladu bron i 700 o dai a ffordd osgoi ar lethrau mynydd yn Sir Caerffili.

Yn ôl ymgyrchwyr byddai'r cynlluniau ar gyfer Mynydd Caerffili yn difetha harddwch yr ardal.

Un o'r rhai sy'n eu cefnogi yw'r naturiaethwr Iolo Williams.

Mae Cyngor Caerffili yn ymgynghori ar y cynlluniau, ac yn dweud bod yr angen am dai yn yr ardal yn fawr.

'Hollbwysig'

Dan y cynllun, byddai hyd at 685 o dai yn cael eu hadeiladu ar 30 hectar o dir, rhan ohono yn safle tir llwyd, ond hefyd ar dir fferm.

Byddai'r ffordd osgoi yn cysylltu parc busnes y dref gyda ffordd yr A469.

Gallai mwy o dai gael eu hadeiladu ar dir fferm Gwern y Domen a Phlasnewydd hefyd.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos y datblygiad sy'n cael ei drafod

Dywedodd Kirsty Luff, oedd yn un o'r rhai drefnodd y brotest yng Nghanolfan Gymunedol Twyn, bod pobl leol yn poeni nad yw'r isadeiledd i gefnogi gymaint o dai yn bodo

"Mae Caerffili yn brysur iawn yn barod ac mae safon yr aer yn wael iawn, felly maen nhw'n poeni y bydd hyn yn gwaethygu hynny," meddai.

Dywedodd Mr Williams bod safleoedd fel hyn yn "hollbwysig" ar gyfer cadwraeth yn ogystal â threftadaeth leol.

Mewn adroddiad, mae Cyngor Caerffili yn dweud bod modd "lleihau effeithiau ar y dirwedd a'r ecoleg" drwy "gynllunio gofalus a sensitif".li.