Cyhoeddi newid 'unwaith mewn cenhedlaeth' i ffermwyr Cymru
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn "enfawr" i ffermwyr fel Rhodri Lloyd-Williams
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau mawr i'r cymorth ariannol sy'n cael ei gynnig i amaethyddiaeth yn dynodi "perthynas newydd rhwng pobl Cymru a ffermwyr", medd y llywodraeth.
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi bod dan ddatblygiad ers saith mlynedd, er mwyn disodli hen system gymorthdaliadau'r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl arweinwyr y diwydiant, mae cyhoeddi'r fersiwn derfynol fel "digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth".
Ond mae grwpiau bywyd gwyllt wedi rhybuddio nad yw'r cynlluniau yn mynd yn ddigon pell i alluogi ffermwyr daclo newid hinsawdd a cholledion byd natur.
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
Dan yr hen drefn byddai cymorthdaliadau'n cael eu talu'n bennaf ar sail faint o dir oedd yng ngofal ffermwr.
Mae'r mwyafrif yn ddibynnol iawn ar y taliadau yma - ar gyfartaledd, daeth 67% o incwm ffermydd Cymru o gymorthdaliadau yn 2020-21.
Nod y cynllun newydd yw gwobrwyo arferion cynaliadwy o amaethu, a darpariaeth "nwyddau cyhoeddus" fel cynefinoedd bywyd gwyllt ac amsugno carbon yn y tir.
Ar gyfer y taliad cyffredinol, bydd raid i ffermwyr gytuno i 12 o ofynion sy'n cynnwys cynllunio i wella ansawdd y pridd ac ymgymryd â chyrsiau datblygiad proffesiynol ar ffermio cynaliadwy.
Mae'r symiau ar gyfer y taliad yma hefyd yn cydnabod "gwerth cymdeithasol" - rhywbeth yr oedd ffermwyr wedi gofyn amdano - gan geisio cydnabod buddion ehangach amaethu cynaliadwy i gymdeithas - gan gynnwys cynhyrchu bwyd a chynnal cymunedau gwledig.
Bydd 'na £1,000 yn ychwanegol i bob fferm yn 2026 fel taliad sefydlogrwydd er mwyn cydnabod y cyfnod ansicr o newid sy'n eu hwynebu.

Bwriad haen opsiynol y cynllun fydd ychwanegu at incwm ffermydd sy'n cynnal gwaith amgylcheddol pellach, gan gynnwys creu coetiroedd, gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad, a chefnogaeth i fynd yn organig.
Bydd taliad arall wedyn yn cefnogi ffermwyr sydd eisiau gweithio ar y cyd ar brosiectau mawr, ar draws tirweddau cyfan.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd £238m yn cael ei glustnodi yn 2026 ar gyfer y taliad cyffredinol - sy'n cyfateb â'r prif gymhorthdal y mae ffermwyr yn ei dderbyn ar hyn o bryd.
Bydd cyllid "sylweddol", meddai'r cynllun, ar gyfer yr haenau opsiynol a chydweithredol hefyd - gyda'r gyllideb lawn yn debyg i'r £340m sydd eisoes yn cael ei wario ar amaeth.
Roedd yr undebau amaeth a grwpiau amgylcheddol wedi gofyn am lawer mwy - yn nes at £500m y flwyddyn o gofio costau cynyddol a faint yn fwy sy'n cael ei ofyn i ffermwyr ei wneud dan y drefn newydd.
Dywedodd CLA Cymru ei bod hi'n rhwystredig bod y gyllideb yn aros yn yr unfan, ond dweud mae Undeb Amaethwyr Cymru bod y cynllun yn darparu "graddfeydd talu ymarferol" a "sefydlogrwydd sydd wir ei angen ar gyfer y sector".

Mae Rhodri Lloyd-Williams a'i deulu yn edrych ymlaen at ddeall mwy am y cynllun
I Rhodri Lloyd-Williams, sy'n ffermio defaid a gwartheg ar 750 erw o dir mynydd ger Talybont, Ceredigion, mae hyn yn "foment enfawr".
Mae'n gobeithio am "eglurder" wedi "blynyddoedd o ansicrwydd" yn dilyn pleidlais Brexit yn 2016.
'Dim ffordd o gadw pawb yn hapus'
I Mr Lloyd-Williams, mae'n cydnabod bod y swyddogion sydd wedi llunio'r cynllun "wedi cael jobyn anodd iawn", gan ragweld bod "dim ffordd y gwnawn nhw gadw pawb yn hapus".
Fel ffermwr organig ac aelod o'r Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur, ei fath yntau o amaethu mae'r llywodraeth yn awyddus i'w gefnogi - o warchod ansawdd y pridd, i blannu coed a gwrychoedd.
Mae'n gobeithio y bydd 'na "fwy o anogaeth" ar gyfer y math yma o waith, sydd o fudd i'r busnes fferm a'r amgylchedd, meddai.
Ond "y peth mwya' pwysig i fi yw bod ffermydd Cymru yn dal i gynhyrchu bwyd a bod ffermydd bach, traddodiadol teuluol Cymru dal 'ma," pwysleisiodd.

Cyfrannodd pryderon ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy at don o brotestiadau gan ffermwyr ledled Cymru yn 2024
Mae'r cryn drafod a dadlau ar hyd y blynyddoedd wedi canolbwyntio ar sut i sicrhau cynllun y mae ffermwyr yn gyfforddus ag ef ac sy'n gweithio i'w busnesau nhw, tra'n ddigon uchelgeisiol i helpu cyrraedd targedau amgylcheddol Cymru.
Mae'r llywodraeth eisoes wedi ildio ar rai gofynion - gan gynnwys cael gwared ar reol fyddai wedi mynnu bod gan ffermydd goed ar 10% o'u tir er mwyn gallu hawlio cyllid.
Daeth hyn yn dilyn protestiadau eang gan ffermwyr ar draws Cymru yn 2024.
Pryder grwpiau amgylcheddol yw na fydd y cynllun maes o law yn ddigon i helpu'r diwydiant addasu i fygythiadau newid hinsawdd a dirywiad natur.
Maen nhw'n pwysleisio bod amaeth ar y trywydd i fod y sector sy'n cyfrannu fwya' at allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru ymhen degawd.

Mae'r cyhoeddiad dydd Mawrth yn amlinellu dull newydd o annog plannu coed.
Bydd raid i bob fferm sy'n rhan o'r cynllun gyflawni cynllun cyfleoedd plannu coed a gwrychoedd yn ystod y flwyddyn gyntaf, a phrofi eu bod ar y trywydd tuag at gyflawni hynny erbyn 2028.
Mae'r llywodraeth yn gofyn i bob ffermwyr blannu o leiaf 0.1ha - neu 250 o goed erbyn 2028.
Bydd 'na "gefnogaeth hael" ar gyfer plannu yn haen opsiynol y cynllun, gan gynnwys taliad uwch yn ystod y tair blynedd gyntaf.
Y bwriad yw bod y cynllun yn sicrhau gwerth 17000ha o goetir newydd drwy Gymru erbyn 2030, gydag uchelgais o gyrraedd 21500ha.
'Llai o swyddi a mwy o ddifrod amgylcheddol'
Mae'r llywodraeth hefyd yn targedu 1,500km o wrychoedd newydd erbyn 2030, gyda'r gobaith o gyflawni 2,000km yn ychwanegol.
Ond dweud eu bod yn teimlo fod y cynllun wedi'i wanhau er mwyn tawelu'r dyfroedd yn dilyn protestiadau'r ffermwyr, mae grwpiau natur.
Dywedodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru fod y corff yn "poeni'n fawr" na fyddai'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy "yn gwneud digon i fynd i'r afael a'r argyfyngau hinsawdd a natur".
"Mae ffermio yng Nghymru mewn argyfwng - llai o ffermydd, llai o swyddi a mwy o ddifrod amgylcheddol.
"Mae angen mwy o gyllideb arnon ni ar gyfer yr SFS, yn benodol ar gyfer yr haenau opsiynol a chydweithredol - er mwyn helpu ffermwyr newid at ddulliau sy'n gyfeillgar i natur," meddai.

Cafodd miloedd o esgidiau glaw eu gosod o flaen Senedd Cymru yn 2024 fel protest yn erbyn y cynlluniau
Dywedodd Alexander Philipps of WWF Cymru nad oedd yr hyn a gyhoeddwyd yn dod yn agos at fod yn ddigon er mwyn sicrhau newid er lles yr amgylchedd yn gyflym.
"Mae 'na risg o ail greu rannau o hen gynlluniau gyda thaliadau sy'n darparu fawr ddim lles cyhoeddus," meddai.
Daw'r cyhoeddiad cyn dechrau Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru'r wythnos nesaf, pan fydd gwleidyddion o bob lliw yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol amaeth a chefn gwlad ar drothwy etholiadau'r Senedd.
Erbyn hynny, mae'r llywodraeth yn addo teclyn ar eu gwefan fydd yn galluogi ffermwyr i amcangyfrif eu taliad dan y cynllun newydd.

Bydd y cynllun newydd yn rhoi mwy o eglurder i ffermwyr meddai'r Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros faterion gwledig, ei fod wedi "gwrando yn ofalus ar ffermwyr drwy Gymru a diwygio ein cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i'r diwydiant amaeth a chwrdd â'r cyfrifoldebau ry'n ni'n eu rhannu i'r byd naturiol o'n cwmpas".
"Mae'r cynllun yn gytundeb newydd rhwng pobl Cymru a'n ffermwyr a pherchenogion ein tir.
"Nid Cynllun i ffermwyr yn unig yw hwn, mae hwn yn Gynllun ar gyfer Cymru gyfan – Cynllun fferm gyfan, cynllun gwlad gyfan," meddai.
'Partneriaeth rhwng ffermwyr a phobl Cymru'
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cynllun yn "creu partneriaeth rhwng ffermwyr a phobl Cymru er mwyn cefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy tra'n mynd i'r afael â newid hinsawdd ac adfer natur".
Roedd y cynlluniau wedi'u "symleiddio yn dilyn ymgynghori helaeth â'r diwydiant amaeth," meddai llefarydd, gyda'r bwriad o fod yn hygyrch ar gyfer pob math o fferm, gan gynnwys tenantiaid a newydd ddyfodiaid i'r sector.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd12 Mehefin