Gwreiddiau Cymreig Dolly Parton a nifer o sêr enwocaf canu gwlad

- Cyhoeddwyd
Dolly Parton, Hank Williams, Jerry Lee Lewis, Tammy Wynette, Nanci Griffith, George Jones, Buck Owens, Ray Price...
Dyma rai o sêr enwocaf canu gwlad America.
Ond wyddoch chi fod yna rywbeth arall sy'n cysylltu'r enwau hyn i gyd?
Maen nhw i gyd yn dod o dras Gymreig!
Roedd nifer fawr o Gymry'n ymfudo i daleithiau'r De yn America yn yr 17eg a'r 18fed ganrif, sef sut y mae gan gymaint o'r enwogion hyn o daleithiau'r De gyndeidiau a chyfenwau Cymreig.
Felly dyma ychydig o hanes y gwreiddiau Cymreig sydd yn perthyn i rai o artistiaid canu gwlad mwyaf yr 20fed ganrif.
Dolly Parton
Dolly Parton yw un o'r artistiaid mwyaf llwyddiannus erioed mewn unrhyw genre.
Mae hi wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau yn fyd-eang.
Mae ei chaneuon enwocaf yn cynnwys Jolene, 9 to 5 ac I Will Always Love You.
Ganwyd Dolly Parton yn nhalaith Tennessee yn 1946, ond mae ei gwreiddiau Cymreig yn dod o ochr ei mam, Avie Lee Owens.
Roedd teulu'r Owens yn dod yn wreiddiol o sir Conwy. Ymfudodd William Owen, un o hen deidiau Dolly, gyda'i deulu o hen blwyf Llangelynnin i dalaith Virginia tua'r flwyddyn 1650.

Dolly Parton yn canu yn yr Utilita Arena yng Nghaerdydd, y tro diwethaf iddi berfformio yng Nghymru yn 2014
Mae Dolly yn falch o'i gwreiddiau Cymreig, ac wedi cyfeirio at y ffaith ei bod hi o dras Gymreig sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd, ac wedi ymweld â Chymru sawl tro.
Mewn cyfweliad yn 2008, dywedodd ei bod hi wastad yn mwynhau ymweld â Chymru "because it feels like family. Many years ago we took a little tour there because some of my mother's people are from Wales."
Yn ôl bob sôn, mae gan Dolly garreg o Gymru ar ei lle tân yn ei chartref o'r daith hon, i'w hatgoffa o'i gwreiddiau Cymreig.
Mae'r gantores Jada Star, nith Dolly Parton, yn dysgu Cymraeg ac wedi ymchwilio fwy i wreiddiau Cymreig y teulu. Mae hi'n credu i mam Dolly gael ei geni yng Nghymru.
Yn ogystal, llynedd wnaeth Dolly ymddangos mewn fideo hyrwyddo gyda Ryan Reynolds a Rob McElhenney, dolen allanol ar gyfer y gyfres Welcome to Wrexham lle roedd perchnogion y clwb yn cyfeirio at ei Chymreictod mewn ffordd ddigri.
Hank Williams
Hank Williams yw un o sêr amlycaf a mwyaf dylanwadol canu gwlad yr ugeinfed ganrif.
Gwnaeth 55 o'i senglau gyrraedd y 10 uchaf ar y siartiau canu gwlad yn America, gyda 12 ohonyn nhw yn cyrraedd y brig - yn eu plith Hey, Good Lookin' a Your Cheatin' Heart.
Ganwyd Hank Williams yn 1923 yn Alabama, a bu farw yn 1953 yn 29 oed o achos ei broblemau cyffuriau ac alcohol.
Ond beth yw'r cysylltiad Cymreig?
Un o gyndeidiau Hank Williams ar ochr ei dad Elonzo, sef John Williams o Langollen, ddaeth draw i America o Gymru rywbryd yn ystod y 1640au.
Penderfynodd John Williams ymfudo i America i geisio cael bywyd gwell gan symud i dalaith Virginia.
Roedd Gwladfa Virginia'n fan poblogaidd i'r Cymry a phobl eraill o'r Deyrnas Unedig a oedd yn allfudo i America yn y cyfnod.
Gwnaeth John Williams briodi Cymraes o'r enw Katherine Jenkins yn Virginia, ac fe anwyd eu mab cyntaf, Roger Williams yn 1650. Ef felly oedd y cyntaf o deulu'r Williams i gael ei eni yn America.

Hank Williams gyda'i deulu yn Nashville yn 1949 - ei wraig gyntaf Audrey Sheppard, ei lysferch Lycrecia a'i fab, yr enwog Hank Williams Jr.
Ychydig o genhedloedd cyn i John Williams ymfudo i Virginia, roedd cyndeidiau Hank Williams yn deulu bonheddig oedd yn berchen ar diroedd yng Nghymru a Lloegr.
Roedd gan aelodau'r teulu enwau Cymraeg fel Hywel ap Madog, Morgan ap Hywel, Ieuan ap Morgan a Marged ferch Thomas.
Roedd un o hen deidiau Hank Williams, Syr Wiliam ap Ieuan yn byw yn Llanisien ger Caerdydd.
Roedd yn was i Siasbar Tudur a'i ewythr, brenin Harri VII. Mae'n debyg y bu Syr Wiliam yn gweithio hefyd fel stiward ystadau brenhinol, neu royal bailiff i'r brenin Harri VIII.
Jerry Lee Lewis
Jerry Lee Lewis oedd un o'r sêr roc a rôl gwreiddiol, a ddaeth yn adnabyddus am ganeuon fel Great Balls of Fire a'i egni gwyllt ar lwyfan.
Ond yn ystod ail hanner ei yrfa, symudodd at ganu gwlad, gan ryddhau sawl albwm llwyddiannus yn y genre fel Country Songs for City Folks yn 1965.
Bu farw Jerry Lee yn 2022 yn 87 oed.

Jerry Lee Lewis - y seren roc a rôl a gafodd ail yrfa yn canu gwlad - oedd o dras Gymreig
Un wnaeth gwrdd â'r Killer sawl tro, a'i weld yn perfformio nifer o weithiau ar hyd y blynyddoedd ydy Phil Davies o Gastell Nedd.
Mae Phil yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru ac yn arbenigwr ar hanes canu gwlad:
"Mae 'na stori bod teulu Jerry Lee wedi dianc o Gymru yn ystod y cyfnod pan roedd llawer o'r Cymry'n setlo yn nhaleithiau'r De, ar ôl iddyn nhw roi adeilad ar dân oedd yn perthyn i un o'r uchelwyr lleol!" meddai Phil.
"Ac roedd y gwaed tanllyd Cymreig yna'n amlwg yn Jerry Lee ei hunan a'i deulu hefyd - wnaeth ei dad Elmo fynd i'r carchar am werthu moonshine yn ystod y Gwaharddiad."
Ond wnaeth gwaed Cymreig Jerry Lee Lewis hefyd achub y dydd un tro mewn modd cofiadwy:
Mae Phil yn cofio stori pan fu bron i Jerry Lee gael ffeit gyda Keith Richards o'r Rolling Stones yn ystod jam session yn y 90au:
"Mae Keith Richards yn dweud yn ei hunangofiant iddo bron gael ffeit gyda Jerry Lee pan roedd y Stones yn cael jam session gydag e yn y 90au. Wnaeth Keith esmwytho'r sefyllfa gan droi at Jerry Lee a dweud, 'Look, Killer, you're Welsh, and I'm Welsh, so let's not get in a fight here!'"
Pan berfformiodd Jerry Lee Lewis yng Nghasnewydd yn 1993, cafodd Phil sgwrs gyda'i arwr a'i wraig Karrie am wreiddiau Cymreig y Killer.
"Roedd e'n cymryd diddordeb mawr yn beth roeddwn i'n dweud," meddai Phil, "am y ffaith bod y cyfenw Lewis yn dod o'r enw Cymraeg, Llywelyn."
Nanci Griffith
Roedd Nanci Griffith yn artist canu gwlad llwyddiannus oedd yn adnabyddus am ei llais unigryw a'i geiriau barddonol.
Enillodd wobr Grammy am ei halbwm Other Voices, Other Rooms yn 1994.
Ganwyd hi yn Texas yn 1953, a bu farw yn 2021 yn 68 oed.
Roedd ganddi wreiddiau Cymreig ar ochr ei thad, David Griffith. Y gred yw roedd hen hen daid David yn dod o Gymru ac wedi ymfudo i Texas yn yr 1850au.
Roedd Nanci Griffith yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau Cymreig.
Yn y gân The Road to Aberdeen mae'n canu am ei hagosatrwydd at Gymru:
"I thought I heard my father's voice
Along the coast of Wales
Singing sweet of tenor in a Cardiff pub
With the wind the gust of gales.
One day I'll take my father there
To sing the harmony
He'll sing high above the water
In his grandfather's voice he'll sing."

Nanci Griffith yn perfformio yn y 90au - artist oedd yn cymysgu arddull canu gwlad, gwerin a pop
Mae Phil Davies hefyd yn cofio gweld Nanci Griffith yn perfformio yng Nghaerdydd yn 1997:
"Wnaeth hi sôn wrth y dorf fod ei theulu hi'n dod o Gymru, ac felly bod hi'n dwlu chwarae yng Nghymru. Gafodd hi standing ovation am hynny.
"A dyma hi'n dweud wedyn, 'My father's Welsh... I left him earlier today in a Brain's pub in the city... And he's not come back yet! I probably won't see him until tomorrow!'"
Sêr eraill o dras Gymreig

George Jones (chwith), Tammy Wynette (canol) a Buck Owens (dde)
Mae rhai o enwogion eraill canu gwlad America yn dod o dras Gymreig, gan gynnwys George Jones, Tammy Wynette, Buck Owens, Conway Twitty (ei enw go iawn oedd Harold Lloyd Jenkins), Ray Price a'r cynhyrchydd nodedig Owen Bradley.
Mae'r artistiaid hyn i gyd wedi cael eu hurddo bellach i'r Country Music Hall of Fame.
Esbonia Phil Davies: "Mae'r ffaith bod y sêr hyn i gyd o dras Gymreig o ganlyniad i'r ffaith wnaeth cymaint o Gymry, a phobl o Brydain yn gyffredinol, allfudo i daleithiau'r De yn yr 17eg a'r 18fed ganrif yn bennaf.
"Beth sydd mewn ffordd yn cysylltu'r bobl hyn gyda'u cyndeidiau Cymreig yw'r cefndir capelyddol. Mae canu gwlad wedi ei siapio gan y grefydd fire and brimstone sydd yn y De a'r holl eglwysi yn y Bible Belt a hefyd yr holl ganu emynau."
"Er enghraifft, roedd taid Dolly Parton, Jake Owens yn bregethwr Pentecostaidd nodedig.
"Mae hefyd gen ti'r traddodiad canu gwerin cryf yng Nghymru - dweud straeon trwy ganu - sydd yn cysylltu gyda chanu gwlad y De, sydd yn fath unigryw o ganu gwerin mewn gwirionedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023