Cawson ni ein magu ar yr un stryd, ond dim ond fi oedd yn siarad Cymraeg

Josef a LlioFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
  • Cyhoeddwyd

Yn ddiweddar, cysylltodd gohebydd BBC Cymru Fyw, Llio Rhys, gyda Josef Roberts sy'n gwneud fideos am ystyr enwau lleoedd... cyn sylweddoli eu bod wedi eu magu ar yr un stryd.

Ond tra fod y Gymraeg wedi bod yn rhan ganolog i holl fywyd Llio erioed - yn gymdeithasol ac o fewn ei haddysg a'i gyrfa - roedd Josef wedi ei fagu mewn diwylliant gwbl ddi-Gymraeg.

Ag yntau bellach wedi dysgu'r iaith fel oedolyn, cafodd y ddau sgwrs ynglŷn â'r profiadau gwahanol y cawson nhw o ran y Gymraeg, o fewn yr un milltir sgwâr.

Er i Josef Roberts a fi fyw ychydig ddrysau i ffwrdd o'n gilydd yn Hen Golwyn pan yn blant - finna' yn rhif 6, ac yntau yn rhif 23 - cawson ni fagwraeth wahanol iawn.

Cefais i fy magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith, tra ei fod o o deulu di-Gymraeg.

I ysgol gynradd Bod Alaw es i, oedd â chymuned Gymraeg gref, yna i Ysgol Uwchradd y Creuddyn. Roedden ni'n mynd i Gapel Hebron i lawr y ffordd, ac i Aelwyd yr Urdd Abergele ar nos Wener.

Ond i fyny'r ffordd, doedd y Gymraeg ddim yn chwarae rhan ym mywyd Josef o gwbl, ac ar ôl gadael ei ysgol cyfrwng Saesneg, doedd o methu rhoi brawddeg o Gymraeg at ei gilydd.

Josef yn Ysgol Eirias a Llio yn Ysgol Bod AlawFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Josef (canol y rhes gefn) yn ddisgybl chweched dosbarth Ysgol Eirias - a Llio wedi cael llwyddiant mewn eisteddfod gylch yn Ysgol Bod Alaw; mae'r ddwy ysgol dros y ffordd i'w gilydd ym Mae Colwyn, ond yn addysgu'r disgyblion mewn dwy iaith wahanol

Dysgu Tsieinëeg a threulio cyfnod yn byw yn China a'i ysgogodd i ddysgu ei iaith frodorol yn y diwedd, meddai, ac mae hyn wedi 'newid popeth' iddo.

"Un o'r brofiadau gora' yn fy mywyd yw dysgu Cymraeg. Mae'n agor llawer o ddrysau.

"Ti'n teimlo mwy cysylltiedig efo ardaloedd eraill yng Nghymru. Ac ma'n neis i gael bach o rwydwaith – os ti'n siarad Cymraeg ac yn mynd i'r Steddfod, mae 'na lot o bobl ti'n eu 'nabod.

"Mae'n neis bod yn gysylltiedig efo hanes a threftadaeth ein gwlad. Dwi medru darllen y Mabinogi rŵan (mae o lot gwell yn y Gymraeg) a dwi'n dechrau dysgu sut i gynganeddu, er dwi'n hollol warthus ynddo fo!"

JosefFfynhonnell y llun, Josef Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Josef a Chroes Elisedd ger Llangollen - mae nawr yn creu fideos sy'n egluro ystyron enwau lleoedd

Cymraeg oedd popeth i mi yn Hen Golwyn - roedd fy holl fywyd yn Gymraeg, a phrin o'n i'n medru siarad Saesneg tan o'n i rhyw saith oed. Ond doedd hi ddim yn amlwg iawn yn y gymdeithas o gwbl i Josef pan oedd yn tyfu i fyny, meddai.

"Mae cymuned o bobl sy'n siarad Cymraeg yma [yn Hen Golwyn], ond os ti ddim yn siarad Cymraeg, dydyn nhw ddim yn amlwg iawn. Ti weithiau'n gweld bach o Gymraeg, ond es i i ysgolion Saesneg, felly do'n i'm yn nabod fawr neb oedd yn siarad Cymraeg.

"Pan o'n i'n dechra' dysgu Cymraeg, o'n i'n meddwl bod 'na ddim lawer o bobl sy'n siarad Cymraeg, achos os ti'n siarad mewn Saesneg, mae'n nhw'n siarad Saesneg efo ti, hyd yn oed os ydyn nhw'n medru siarad Cymraeg.

"Ond mae 'na bobl 'di dod allan o'r woodwork; pobl sy'n dysgu Cymraeg ar eu pen eu hun neu'n mynd i ddosbarthiadau. Neu weithiau dwi'n cael, 'do'n i'm yn gwbod bo' ti'n siarad Cymraeg Joe!'...a fi'n dweud, 'Do'n i'm yn gwbod bo' ti'n siarad Cymraeg!'

"Ond os ti'n siarad Cymraeg ma'n newid popeth; ma'n agor llawer o ddrysau lleol i gysylltu efo pobl leol ac i ddeall mwy am dy gymdeithas."

Josef a LlioFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Josef yn cael llymaid tra'i fod yn gweithio yn China. Llio yn cael llymaid ar ôl taflu ei hun yn gyfan gwbl i fywyd cymdeithasol Cymraeg yn y brifysgol yn Aberystwyth

Ers ychydig fisoedd bellach, mae Josef yn cyhoeddi fideos byr ar y cyfryngau cymdeithasol ar y sianel Tirlun, dolen allanol, ble mae'n egluro ystyr enwau llefydd - ledled y gogledd ar hyn o bryd, ond mae â'i fryd ar deithio ymhellach o amgylch Cymru.

Y fideos yma y des i ar eu traws wnaeth i mi gysylltu â Josef am sgwrs yn y lle cyntaf; cyd-ddigwyddiad llwyr oedd ein bod yn hannu o'r un stryd.

Mae'n falch o allu helpu i roi teimlad o berthynas dros yr iaith, meddai, hyd yn oed i bobl di-Gymraeg, drwy egluro'r enwau lleoedd mae pobl yn eu gweld ar arwyddion bob dydd. Roedd hyn yn deimlad oedd yn ddieithr iddo yntau tan y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'n fath o ffordd i gysylltu pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg i'r iaith a'r diwylliant a'r straeon, achos mae'n cynnwys pob un ohonon ni. Ti'n medru cysylltu efo'r tir a'r enwau llefydd o'ch cwmpas, a dwi'n rili mwynhau hynny.

"Os 'di pobl yn medru deall yr enwau o'u cwmpas, mae nhw am wybod bach mwy am hanes Cymru a diwylliant Cymru.

"Os ti'n dweud 'mae enw Dwygyfylchi yn dod o 'dwy' a 'cyfylchi', sef caerau', mae hynny'n ddiddorol, ac mae'r rhwystr sy'n eu gwahanu oddi wrth yr enw yn diflannu.

"Os ti'n medru cysylltu efo nhw drwy'r enwau o'u cwmpas, mae'n ffordd o fynd yn syth at eu calonnau."

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan tir.lun

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan tir.lun

Un cyd-ddigwyddiad diddorol arall yw fod gan y ddau ohonon ni berthnasau yn ardal Y Rhyl oedd wedi colli'r peth Gymraeg oedd ganddyn nhw; doedd siarad yr iaith ddim yn cael ei annog, neu hyd yn oed yn cael ei wahardd mewn rhai teuluoedd.

Fe ddaeth y Gymraeg yn ôl i'n teulu ni oherwydd fod Nain wedi mynnu mai'r Gymraeg oedd fy mam am ei siarad, er bod Taid Rhyl yn ddi-Gymraeg.

Mae hi wedi cymryd un genhedlaeth arall i'r Gymraeg ddychwelyd i deulu Josef.

"Mae 'na newid dwi'n meddwl. Roedd 'na dipyn o agwedd gwrth-Gymraeg gan bobl sy'n siarad Saesneg ar arfordir y gogledd, ond dydi o ddim mor gryf ag oedd o.

"Os dwi'n siarad efo pobl oedran fy nhad mae o'n gallu codi, ond mae pobl iau yn fwy derbyniol o'r iaith, ac yn fwy agored i ddysgu'r iaith.

"Does 'na neb yn erbyn y Gymraeg yn fy nheulu i, felly er bod nhw ddim yn deall, maen nhw'n gefnogol."

Josef RobertsFfynhonnell y llun, Josef Roberts

Do'n i ddim yn adnabod Josef pan oedden ni'n byw ar yr un stryd – doedd ein cylchoedd ddim yn croesi – ond mae gennyn ni nawr un peth mawr yn gyffredin, sef angerdd gwirioneddol tuag at y Gymraeg.

Dydyn ni 'chwaith ddim wedi cyfarfod go iawn, dim ond dros y we, lle gefais i gipolwg ar yr olygfa hyfryd o gyfarwydd o ardal fy magwraeth drwy ffenest tŷ Josef.

Beth am i ni drio trefnu aduniad Hen Golwyn-aidd yn y Steddfod, ia?!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.