Brandio harddwch: Beth ydy 'Brazilian' yn Gymraeg?

Lois MorganFfynhonnell y llun, Lolfa Lois
  • Cyhoeddwyd

"Pam bod yr angen gennym ni i ddefnyddio termau a meithrin geiriau Americanaidd fel Hollywood a Brazilian a ninnau efo iaith unigryw ein hunain?"

Mae Lois Morgan o'r Ffôr ger Pwllheli wedi derbyn cryn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl bathu termau Cymraeg i'w thriniaethau harddwch.

 hithau'n dymor gwyliau mae mwy o ferched yn mynd am driniaeth wacsio neu laser ar hyn o bryd ond yn Lolfa Lois, gofyn am Ynys Enlli, Crib Goch neu Moel Eilio fydd ei chwsmeriaid.

Dyma'r geiriau mae hi wedi ei fathu am driniaethau laser Bikini Line, Brazilian a Hollywood.

Penderfynol i gynnig popeth yn Gymraeg

Eglurai Lois ei bod "yn benderfynol" i wneud popeth o fewn ei gallu i gynnig gwasanaeth dwyieithog i'w chwsmeriaid.

Dechreuodd Lois ei busnes bron i ddegawd yn ôl ar ôl ffarwelio ar yrfa fel athrawes i wireddu breuddwyd plentyndod o redeg busnes harddwch.

Ond fel Cymraes a siaradwr Cymraeg iaith gyntaf o Ben Llŷn, mae brandio ei chwmni yn Gymraeg, yn enwedig triniaethau harddwch, yn gallu bod yn heriol.

Meddai: "Mae'n anodd cyfieithu llawer o'r geiriau mewn triniaethau harddwch i'r Gymraeg.

"Dydyn nhw ddim yn gwneud synnwyr, a dyna pam dwi'n meddwl bod 'na brinder o fusnesau estheteg a harddwch yng Nghymru sy'n brandio a rhoi y Gymraeg yn gyntaf ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati."

Lois ac Ynys EnlliFfynhonnell y llun, Lolfa Lois

Yn ôl Lois, mae angen i fusnesau fod yn fwy hyderus a mentrus wrth frandio'n Gymraeg a meddwl yn wreiddiol yn hytrach na chyfieithu'n slafaidd.

Felly pa mor anodd oedd bathu termau Cymraeg i'w thriniaethau laser?

"I fod yn onast mi ddoth yr enwau yn eithaf naturiol. Y Grib Goch ddaeth i fy meddwl yn gyntaf oherwydd y siâp unigryw sydd i'r Grib Goch, a Moel Eilio... wel mae'r enw yn dweud y cyfan!

"Roeddwn eisiau enwau bachog sydd yn rhoi rhyw awgrym o'r driniaeth a pham ddim enwau llefydd adnabyddus yng nghyffiniau Pen Llŷn ac Eryri.

"Mi oedd y Lôn Goed hefyd wedi fy ysbrydoli, ond mi gadwa i yr enw honno dan fy het at eto.

"Dwi'n cofio eistedd ar y soffa a chrybwyll hyn i fy ngŵr sydd yn hoff o fynydda. Chwerthin wnaeth o ac ysgwyd ei ben i fy mrên-wêf diweddaraf."

Ymateb

Ac ymateb gogleisiol mae hi wedi ei ennyn gan ei chwsmeriaid a'i dilynwyr hefyd.

"Mae'r ymateb wedi bod yn wych, pwy fasa'n meddwl y byddai enwau gwahanol ar down belows yn cael ffasiwn sylw a dwi'n ymddiheuro o flaen llaw os na fyddwch chi fyth yn sbio ar y llefydd yma yr un fath eto," chwarddai.

Mae Lois yn gobeithio gweld mwy o fusnesau harddwch ledled y wlad yn marchnata eu triniaethau yn Gymraeg:

"Mae'n dangos i'r to ifanc bod modd llwyddo gan rhoi Cymraeg yn gyntaf a rhoi Cymru ar y map."

Crib Goch, Moel EilioFfynhonnell y llun, Lolfa Lois

Pa dermau fydd Lois yn ei fathu nesaf i Lolfa Lois?

"Wel, mae gen i Ta-ta Tatŵ yn barod a mi fyswn i'n wirion i beidio parhau... felly'r sialens rŵan ydy meddwl am ragor o enwau crafog, naturiol sy'n gweithio'n fy iaith gyntaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig