Y ffrindiau ysgol a'u busnes gwerthu cyfrifiaduron gemau

Rhys, Elis, Now, Cain a Wil - Tec Tarw
- Cyhoeddwyd
Mae digon o rieni yn pryderu bod eu plant yn chwarae gormod o gemau cyfrifiaduron, ond mae criw o ddisgyblion ysgol wedi defnyddio'u diddordeb i greu busnes - a chymdeithasu ar yr un pryd.
Maen nhw'n cael gafael ar hen gyfrifiaduron fyddai fel arall yn cael eu rhoi yn y sgip, eu huwchraddio gyda darnau arbennig ar gyfer chwarae gemau a'u gwerthu am elw. Y syniad ydi cadw'r pris yn fforddiadwy i bobl ifanc eraill fel eu bod nhw'n elwa hefyd.
Fe ddechreuodd y cyfan pan oedd dau ffrind yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, yn trafod beth oedden nhw'n gobeithio ei gael fel anrheg Nadolig. Roedd Now a Cain wedi gofyn am rannau cyfrifiadurol er mwyn gallu adeiladu peiriant fyddai'n ddigon pwerus i chwarae gemau fel Minecraft a Fortnite.
"Roedd Now a fi yn gwbod bod ni am gael partia Dolig felly roedda ni'n siarad am y peth - 'pa bartia ti'n mynd i gael fatha presant a ballu," eglurodd Cain.
Pan gyrhaeddodd y diwrnod mawr wnaeth eu teuluoedd ddim eu gweld nhw am rai oriau wrth iddyn nhw adeiladu'r cyfrifiadur 'gaming'.

Mae Tec Tarw yn cael cefnogaeth gan gronfa Cylchol Menter Môn, sy'n hybu'r economi drwy gefnogi prosiectau sy'n lleihau, ailddefnyddio neu ailgylchu gwastraff
Nôl yn yr ysgol ddechrau eleni, daeth un arall o hogiau blwyddyn 9 yn ymwybodol eu bod nhw'n rhannu ei ddiddordeb mewn gemau a'u bod nhw'n gallu adeiladu cyfrifiaduron. Roedd hadyn wedi ei blannu ym mhen Wil ar gyfer cynllun busnes.
Meddai Wil: "Gen i'r llyfr yma adra How to Become a Millionaire ac o'n i 'di bod yn darllan hwnna a meddwl be' faswn i'n gallu 'neud - a dyma'r syniad yn dod i meddwl fi."
"O'n i'm yn nabod Wil yn dda," eglurodd Now, "mond drwy chwarae pêl-droed, wedyn ddaeth o fyny ata fi a jest gofyn 'tisho dechrau busnes?'"
Y cam cyntaf, oedd enw.
"COW Tech oedd yr enw i ddechrau achos enwau ni - Cain, Now a Wil - a ma' Wil yn byw ar ffarm," meddai Cain. "Nath Wil fynd yn carried away a designio logo a bob dim tan 'nath Now feddwl achos bod ni isio gwerthu yn Gymraeg hefyd fasa'n well newid o i enw Cymraeg - a dyma ni'n galw fo'n Tec Tarw."

Mae'r hogiau wedi dylunio logo ac maen nhw'n creu modelau 3D o darw i'r roi gyda'r cyfrifiaduron
Daeth Rhys ac Elis i mewn i'r fenter hefyd a dyma ddechrau arni o ddifri.
Fe ofynnon nhw wrth eu hysgol am unrhyw hen gyfrifiaduron roedden nhw'n cael gwared arnyn nhw - a chael chwech gyda'r holl ddata wedi ei dileu.
Mae cyfrifiaduron sy'n gallu chwarae gemau modern yn wahanol i rai mewn swyddfeydd gan fod angen cardiau graffeg o safon, prosesydd cyflymach a mwy o hapgyrch (RAM).
Felly fe gawson nhw grant gan gronfa Cylchol Menter Môn i brynu'r rhannau angenrheidiol a mynd ar gyrsiau perthnasol. Mae Menter Môn hefyd yn darparu gofod iddyn nhw yn Gisda, elusen sy'n helpu pobl ifanc digartref a bregus, yng Nghaernarfon.
A dros yr wythnosau diwethaf mae'r hogiau wedi bod yn mynd yn syth o'r ysgol i'w gweithdy yn Gisda ddwywaith yr wythnos i uwchraddio'r peiriannau ar gyfer gemau modern.
"'Da ni 'di dysgu ar YouTube," meddai Now. "Nath y gynta' gymryd tua pedair neu bump awr, ond 'da ni'n gallu neud un mewn tua hanner hynny rŵan."
Ac mae 'na elfen amgylcheddol i'r gwaith hefyd.
"Roedd y PC yma yn mynd i fynd i'r sgip," meddai Cain, am un o'r cyfrifiaduron. "Felly 'da ni'n ailgylchu hefyd."

Cain yn rhoi ail fywyd i hen gyfrifiadur
Mae Tec Tarw bellach wedi trosi ambell gyfrifiadur sy'n barod i'w gwerthu ac ar fin cael lansio gwefan, dolen allanol.
Ac yn barod maen nhw'n ceisio ehangu a chreu mwy. Meddai Wil: "'Da ni'n trio cael busnesau lleol i gyfrannu hen gyfrifiaduron. Ond dim laptops - dim eto eniwe."
Ychwanegodd Now: "Da'n ni'n gallu weipio nhw ein hunain, ond os ydi nhw'n poeni am y data maen nhw'n gallu weipio nhw cyn rhoi nhw i ni."
Ac mae 'na fanteision eraill. Yn ogystal â rhoi'r cyfle i gymdeithasu ar ôl ysgol, mae'r pump yn gwella eu dealltwriaeth o gyfrifiaduron, ac yn rhoi ar waith yn ymarferol rai o'r pethau maen nhw'n ei ddysgu wrth astudio TGAU busnes, peirianneg a dylunio cynnyrch.
A phwy a ŵyr, efallai fydd Wil wedi cael gwerth ei bres o'i lyfr ac un dydd fe fydden nhw'n filiwnyddion.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd27 Ebrill