Luned Rhys Parri: 'Celf Gymreig sy'n adlewyrchu bywyd Cymreig'

Luned Rhys Parri
- Cyhoeddwyd
"Dwi wastad wedi licio edrych ar bobl ac edrych ar y byd o'n nghwmpas i raddau."
Dyma yw'r ysbrydoliaeth tu ôl i waith celf Luned Rhys Parri sy'n adnabyddus am ei cherfluniau unigryw o bobl a bywyd Cymreig.
Mae'r artist o Groeslon yn dweud mai Cymru yw ei hysbrydoliaeth pennaf: "Dwi 'mond wedi byw yng Nghymru a s'nam pwynt i fi drio bod yn wahanol, dyna be' ydw i a dyna fo. Dyma beth dwi'n gweld o'n nghwmpas i."
Mae Luned wedi bod yn gweithio fel artist ers 1992 ac yn arddangos ei gwaith ar hyn o bryd yn Oriel Ffin y Parc, Llandudno.

'Crefyddol'
Meddai am ei gwaith diweddar: "Dyw nhw ddim cweit yn 3D – rhyw hanner 3D, dwi'n gweithio efo darn o bren ac wedyn dwi'n cael rhyw syniad.
"Weithiau maen nhw'n cychwyn efo ffotograff neu berson. Dwi'n licio hen luniau. Ges i weithio dros 10 mlynedd yn ôl yn y Llyfrgell Genedlaethol efo casgliad Geoff Charles a dwi dal yn mwynhau defnyddio ei luniau o – maen nhw'n gymaint o gofnod."
Mae nifer o luniau o aelodau teulu Luned yng ngwaith y ffotograffydd, fel mae'n esbonio: "Oedd Geoff Charles wedi dod ar eu traws nhw mewn gwahanol lefydd ac oedd lluniau Mam a Dad mewn protestiadau Cymdeithas yr Iaith.
"Mae hynny'n ddylanwad mawr ac hefyd dwi'n tynnu lluniau fy hun. Mae pawb yn ffotograffydd rŵan efo'u ffôns."
Mae gwaith Luned yn gyfrwng cymysg ac mae hi hefyd yn defnyddio hen bethau fel ysbrydoliaeth.
Meddai: "Dwi'n licio dillad, fabrics vintage efo dipyn o bethau sy' wedi cael eu defnyddio. Mae pobl yn rhoi pethau i fi fel hen ffedogau sy' dros 100 oed a hen fotymau mewn tun."

'Gadael y Gwaith'
Neges
Meddai'r artist am arwyddocâd ei gwaith: "Mae 'na neges Gymreig – mae 'na andros o lot o artistiaid sy'n gwneud gwaith am y tirlun ond ella ddim yn disgrifio pobl Cymru.
"Gwlad fychan yda' ni ac weithiau mae sefydliadau celfyddydol yn edrych yn ormod i Lundain. Mae arian Cymru yn mynd allan i gefnogi Artes Mundi (sefydliad celfyddydol yng Nghaerdydd).
"'Da ni'n wlad dlawd ein hunain ac yn byw mewn cymunedau tlawd ein hunain.
"'Da ni'n bell o Gaerdydd ac mae'r grantiau i artistiaid fel arfer yn mynd i artistiaid yn y brifddinas. Maen nhw'n meddwl 'nawn ni roi help i bobl i wneud y gwaith cymunedol ond mae isho hybu celf yng Nghymru hefyd.
"'Da ni isho cael pobl yma – ddim y bobl sy'n dod efo jetskis neu bobl sy'n dod i oriel i brynu keyring ond bod ti'n mynd i oriel a bod 'na gelf Gymreig sydd yn adlewyrchu bywyd Cymreig."

'Croesffordd yn Llithfaen'
Mae gwaith yr artist yn cyfleu byd sy'n diflannu yng Nghymru gyfoes gyda sylw i fywyd capel yn arbennig.
Meddai: "Dydw i ddim yn grefyddol iawn ond dyna beth ydy fy magwraeth i i raddau. O'n i'n mynd i'r capel ar y Sul ddwywaith a dyna sut ges i fy magu – mae'r gwaith yn adlewyrchiad o'n magwraeth i.
"Fan 'na o'n i'n dechrau y peth 'ma o astudio pobl achos o'n i'n edrych ar y bobl a beth oeddan nhw'n wisgo. Mae wedi bod yn rhan o'm mywyd i."
Wedi ei magu yn Llansannan, mae Luned bellach yn gweithio mewn stiwdio yn Groeslon ac hefyd yn gwneud gweithdai celf ar draws Cymru.

'Plentyn yn y pram ger Caffi Maes Caernarfon'
Merched ym myd celf
Mae hi'n ddiolchgar i gael y cyfle i arddangos ei gwaith, fel mae'n sôn: "'Da ni'n gallu canu a ysgrifennu barddoniaeth ond 'da ni jest ddim wedi cael y cyfle o'r blaen, yn enwedig merched – oedden ni'n cael gwnïo (yn y gorffennol) falle – ond s'nam llawer o ferched wedi cael y cyfle, yn enwedig rhai o gefndiroedd sy' heb gael andros o lot o addysg.
"Mae Oriel Ffin y Parc yn reit unigryw. Fel artist sy'n 'neud gwaith efo darnau o sbwriel dwi fel arfer yn byw yng nghanol chaos yma – mae mynd â'r gwaith i oriel taclus a glân, maen nhw'n arddangos bob dim yn dda.
"Achos mae wedi bod yn anodd – dydy'r cyfleoedd ddim wedi bod yna. Dwi heb gael arddangos fy ngwaith yn yr Eisteddfod ers 2001, er mod i wedi arddangos pan oedd yr Eisteddfod arlein.
"Mae'n well rŵan fod 'na galeri yng Nghaernarfon ac mae Plas Glyn y Weddw wedi datblygu."

'Mam a'i phlentyn'
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024