Teulu dyn o Wynedd fu farw ym Malta'n dweud eu bod yn "byw mewn hunllef"

Llun o Kieran Thomas Hughes mewn crys CymruFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kieran Thomas Hughes, 25, ar ôl syrthio o falconi mewn gwesty ym Malta

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn 25 oed o Wynedd a fu farw ym Malta wythnos diwethaf wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod yn "byw mewn hunllef".

Roedd Kieran Thomas Hughes, 25, yn aros yn Triq Spinola, St Julian's pan syrthiodd o falconi mewn gwesty.

Roedd o ar wyliau gyda'i ffrindiau.

Dywedodd ei dad, Alan Hughes, "fod y sefyllfa yn anghredadwy" cyn ychwanegu ei fod "o'n fab ac yn efaill arbennig".

Person 'hapus, cariadus, llawn bywyd'

Roedd Kieran yn byw yn Nant Gwynant ac yn gweithio fel peiriannydd meddalawedd ym mharc gwyddoniaeth M-Sparc yn Gaerwen, Ynys Môn.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon bu hefyd yn astudio peirianneg ym mhrifysgol Bangor.

Mae'r teulu'n awyddus i bobl ei gofio fel person "hapus, cariadus, llawn bywyd".

Ychwanegodd mai eu blaenoriaeth nawr ydi "cydweithio efo'r awdurdodau yn Malta er mwyn dod â Kieran adra yn ôl i Gymru".

Llun o Keiran Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Keiran yn gweithio ar Ynys Môn fel peiriannydd meddalawedd ym mharc gwyddoniaeth M-Sparc

Cafodd heddlu Malta eu galw i Westy Cavalieri Art yn nhref St Julian's toc wedi pedwar o'r gloch y bore, ddydd Gwener diwethaf.

Mae'n debyg fod Kieran Hughes wedi syrthio o falconi.

Ar ôl i'r heddlu gyrraedd, cyhoeddwyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.

Does dim manylion pellach am y digwyddiad.

Mae'r Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts, Plaid Cymru wedi bod mewn cyswllt cyson â'r teulu wrth iddyn nhw aros am ragor o wybodaeth.

'Calonnau pawb yn mynd i'r teulu'

Dywedodd Liz Saville Roberts: "Bron fedar rhywun ddim dechrau meddwl be sy'n mynd drwy'u meddylia' nhw, drwy eu calonnau nhw."

"Ond yng nghanol eu galar ma' nhw isio diolch i'r cannoedd sydd wedi cysylltu â nhw i ddangos eu cydymdeimlad."

"Yr hyn sy'n amwlg ydi faint o bobol oedd yn meddwl y byd o Kieran."

"Wedi ei fagu yng Nghaernarfon ond bellach yn byw yn Nant Gwynant mi roedd o'n gweithio allan o M Sparc fel peiriannydd meddalwedd, ac roedd yn amlwg fod yna yrfa ddisglair iawn o'i flaen o."

"Yn y fath amgylchiadau mae calonnau pawb yn mynd i'r teulu wrth iddyn nhw wynebu ffasiwn drasiedi."

Llun o KeiranFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogaeth y "gymuned o'u cwmpas wedi bod yn anhygoel" yn ôl Heddlu'r Gogledd

Mewn datganiad brynhawn Llun mi ddywedodd Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn cynorthwyo i gefnogi teulu'r gŵr ifanc, ac mewn cyswllt â'r swyddfa dramor."

"Mae'r crwner hefyd wedi cael gwybod."

Mae Heddlu Malta'n parhau i ymchwilio.

Ychwanegodd Alan Hughes fod y teulu'n hynod o ddiolchgar am bob neges a chymorth mae'r teulu wedi ei dderbyn, gan ddweud fod cefnogaeth y "gymuned o'u cwmpas wedi bod yn anhygoel".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig